Alwyn Humphreys

Oddi ar Wicipedia
Alwyn Humphreys
Ganwyd14 Mai 1944 Edit this on Wikidata
Bodffordd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Prifysgol Hull
  • Coleg y Drindod Llundain Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, cyfarwyddwr cerdd, cyflwynydd teledu, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata

Cerddor, arweinydd cerddorol, awdur a chyflwynydd teledu Cymreig yw Alwyn Humphreys (ganwyd 14 Mai 1944).[1] Mae hefyd yn nodedig am gyflwyno rhaglenni ar radio a theledu.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Dr Alwyn Humphreys MBE ym Modffordd, Ynys Môn. Graddiodd mewn cerddoriaeth o Brifysgol Hull a Choleg y Drindod, Llundain. Bu'n darlithio yn Lerpwl cyn dod yn gynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu gyda BBC Cymru.[2]

Bu'n gyfarwyddwr cerdd Côr Orpheus Treforys am 25 mlynedd, gan arwain y côr ar deithiau tramor i'r Almaen, Sbaen, yr Eidal, Gwlad Pwyl, Ffrainc, Canada, yr Unol Daleithiau, Awstralia, Seland Newydd, Taiwan, Oman, a'r United Arab Emirates. Ym mysg y canolfannau perfformio mwyaf nodedig mae'r Ty Opera yn Sydney a Carnegie Hall yn Efrog Newydd - y gynulleidfa ar y ddau achlysur yn rhoi 5 'standing ovation'. Recordiodd 28 albwm gan gynnwys nifer i gwmni EMI, ac fe enillodd 3 ohonynt wobr 'Record Gorawl Orau'r Flwyddyn', gyda 2 arall yn ennill Disg Arian.

Wedi ei ymddeoliad o Gôr Orpheus Treforys yn 2005 bu'n arweinydd gwadd ar deithiau i Rwsia, yr Ariannin, Tseina, De Affrig, Awstralia, Seland Newydd, y Swisdir, Monaco, Hong Kong, Iwcrain, Awstria, Slovenia, Gwlad Pwyl, Estonia, Latvia, Lithuania, a Slovenia. Bu'n arweinydd gwadd yng Ngwyl y Corau Meibion yn Neuadd Frenhinol Albert nifer o weithiau, ac yn ogystal a'i waith corawl mae'n Brif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Siambr Cymru..

Ers 1983 bu'n sylwebu o lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer BBC Radio Cymru ac ers 1999 gwnaeth yr un gwaith ar gyfer S4C.[3] Bu'n cyflwyno rhaglenni teledu fel Canwn Moliannwn, Wedi 3, Prynhawn Da a Heno gan ddod yn adnabyddus am ei eitem yn cyflwyno anrhydedd "Halen y Ddaear" i bobl o gwmpas Cymru a enwebwyd am eu cyfraniad i'w cymuned.[4] Rhwng 2005 a 2017 roedd yn brif gyflwynydd y gyfres Dechrau Canu, Dechrau Canmol ar S4C.[5]

Fe'i hanrhydeddwyd yn MBE yn 2001, yn Ddoethur Cerddoriaeth yn 2006, ac yn Gymrawd ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant yn 2014.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Bu'n briod ddwywaith - gydag Esther Williams (1968), a Joy Amman Davies (1995) a gymerodd drosodd ei swydd fel Cyfarwyddwr Cerdd Côr Treforys.[6]

Cyhoeddodd ei hunangofiant Alwyn Humphreys - Yr Hunangofiant yn 2006.[7] ac yn 2008 gyfrol o anecdotau cerddorol - Cythrel Cerdd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Manylion Cyfarwyddwr Ty'r Cwmniau. Adalwyd ar 2 Mai 2016.
  2. Alwyn Humphreys yn gymrawd , BBC Cymru, 7 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd ar 2 Mai 2016.
  3. Teledu: Rhagolwg Alwyn Humphreys wrth y llyw `Llais' yr Eisteddfod; Y gorau o raglenni teledu Cymraeg. , Western Mail, 2 Awst 2003. Cyrchwyd ar 2 Mai 2016.
  4.  Wedi 3 - Halen y Ddaear. Tinopolis. Adalwyd ar 2 Mai 2016.
  5. Dechrau Canu'n donic heb ei ail i Alwyn. , Daily Post, 12 Medi 2009. Cyrchwyd ar 2 Mai 2016.
  6. Mark Smith. Conductor takes up the baton at renowned choir (en) , WalesOnline, 14 Chwefror 2013. Cyrchwyd ar 2 Mai 2016.
  7. Gwefan Gwales; adalwyd 8 Chwefror 2015