Alvar Aalto
Alvar Aalto | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 3 Chwefror 1898 ![]() Kuortane ![]() |
Bu farw | 11 Mai 1976 ![]() o clefyd cardiofasgwlar ![]() Helsinki ![]() |
Man preswyl | Villa Aalto ![]() |
Dinasyddiaeth | Y Ffindir ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pensaer, cynllunydd, cynlluniwr trefol ![]() |
Adnabyddus am | Vyborg Library, Finlandia Hall, Baker House, Paimio Sanatorium, Säynätsalo Town Hall, Helsinki University of Technology Main Building, Aalto Theatre, Aalto Vase, Paimio Chair, Model 60 stacking stool, Turun Sanomat headquarters ![]() |
Priod | Aino Aalto, Elissa Aalto ![]() |
Gwobr/au | Medal Aur Frenhinol, Medal y Tywysog Eugen, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Alvar Aalto Medal, AIA Gold Medal, Cymrawd Academi Celf a gwyddoniaeth America, Gwobr Awstria am Gelf a Gwyddoniaeth, honorary doctor of the Vienna Technical University, honorary Royal Designer for Industry ![]() |
Gwefan | https://www.alvaraalto.fi ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Roedd Hugo Alvar Henrik Aalto, (3 Chwefror 1898 – 11 Mai 1976) yn bensaer a dylunydd o’r Ffindir, a newidiodd ei arddull neo-glasurol cynnar ddiwedd y 1920au i'r modern rhyngwladol, mewn adeiladau megis llyfrgell Viipuri a neuadd breswyl y Massachusetts Institute of Technology (MIT)[1].
Fe’i ganed yn Kuortane, a chafodd ei addysg ym Mhrifysgol Dechnegol Helsinki. Ym 1938 aeth i UDA, lle bu'n dysgu yn MIT a Choleg Pensaernïaeth Cambridge, Massachusetts. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dychwelodd i'r Ffindir lle fu ganddo bractis pensaernïol rhyngwladol. Mae ei adeiladau nodweddiadol yn Llychlyn yn cynnwys llyfrgell Viipuri (1927-35), cartref gwella Paimio (1929-33), neuadd y dref yn Säynatsälo (1951), a Neuadd Gyngerdd Finlandia yn Helsinki (1971), ei adeilad olaf.
Y tu allan i Sgandinafia mae ei adeiladau pwysicaf yn cynnwys neuadd breswyl MIT (1947) a'r Maison Carré ger Paris (1956-58), a orffennodd gyda ddodrefn bentwood o'i gynllun ei hun, a gynlluniwyd ganddo ym 1932.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Assa Briggs (Gol) A Dictionary of 20th Century Biography BCA 1991