Alice Morgan Wright

Oddi ar Wicipedia
Alice Morgan Wright
Ganwyd10 Hydref 1881 Edit this on Wikidata
Albany, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw8 Ebrill 1975 Edit this on Wikidata
Albany, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Smith, Massachusetts
  • Urdd Myfyrwyr Celf Efrog Newydd
  • Doane Stuart School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerflunydd, ymgyrchydd dros hawliau anifeiliaid, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, arlunydd Edit this on Wikidata

Ffeminist Americanaidd oedd Alice Morgan Wright (10 Hydref 1881 - 8 Ebrill 1975) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cerflunydd, ymgyrchydd dros hawliau anifeiliaid, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, swffragét a cherflunydd. Roedd yn un o arlunwyr cyntaf Unol Dalkeithiau America i gofleidio'r ddau arddull newydd: ciwbiaeth a dyfodoliaeth a sgwennodd am barchu anifieliaid.[1]

Fe'i ganed yn Albany, Efrog Newydd ac yno hefyd y bu farw. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Smith, Massachusetts aUrdd Myfyrwyr Celf Efrog Newydd.[2][3][4][5]

Coleg[golygu | golygu cod]

Un o gerfluniau Alice Morgan Wright: The Off-Shore Wind

Daeth Wright o hen deulu o ardal Albany. Bu'n fyfyriwr yn Ysgol St Agnes yn Albany (Ysgol Doane Stuart, bellach).[6]

Graddiodd o Goleg Smith, a daliodd ati â'i hastudiaethau yn Ninas Efrog Newydd. Tra'n astudio yng Nghynghrair Myfyrwyr Celf Efrog Newydd, fe'i gwaharddwyd rhag mynychu 'astudiaethau bywyd' felly gwyliodd Wright gystadlaethau bocsio a reslo lleol er mwyn astudio'r ffurf ddynol.[7][8] Ym 1909, aeth i Baris, lle mynychodd yr École des Beaux-Arts a'r Académie Colarossi. Ym Mharis roedd hi'n ddisgybl i Injalbert ac yn Efrog Newydd astudiodd gyda Gutzon Borglum, James Earle Fraser a Hermon Atkins MacNeil.[9] [10]

Y cerflunydd[golygu | golygu cod]

Arddangosodd yn Sefydliad Celf Chicago a Sefydliad Celf Philadelphia, ac ymddangosodd ei gwaith yn Ewrop yn Academi Frenhinol y Celfyddydau (Llundain) a'r Salon des Beaux Arts (Paris). [6] Roedd hi'n aelod o Gymdeithas Genedlaethol Peintwyr a Cherflunwyr Benywaidd yn ogystal â bod yn aelod a chyd-sefydlydd, a chyfarwyddwr Cymdeithas yr Artistiaid Annibynnol.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mankiller, Wilma Pearl; Mink, Gwendolyn; Navarro, Marysa; Steinem, Gloria; Smith, Barbara (October 1999). The Reader's Companion to U.S. Women's History. Houghton Mifflin Harcourt. tt. 522–. ISBN 0-618-00182-4.
  2. Disgrifiwyd yn: https://documents.alexanderstreet.com/c/1009677121.
  3. Dyddiad geni: "Alice Morgan Wright". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Dyddiad marw: https://reidhall.globalcenters.columbia.edu/content/alice-morgan-wright-1881-1975.
  5. Man geni: https://reidhall.globalcenters.columbia.edu/content/alice-morgan-wright-1881-1975.
  6. "Alice Morgan Wright Papers, 1873-1994". Five College Archives & Manuscript Collections. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-02. Cyrchwyd 21 Mawrth 2015.
  7. Albany Institute, 55
  8. Charlotte Streifer Rubinstein, American Women Sculptors (1990), t. 221
  9. Opitz, Glenn B, Editor, Mantle Fielding's Dictionary of American Painters, Sculptors & Engravers, Apollo Book, Poughkeepsie NY, 1986 t. 1060
  10. Alma mater: https://reidhall.globalcenters.columbia.edu/content/alice-morgan-wright-1881-1975. https://reidhall.globalcenters.columbia.edu/content/alice-morgan-wright-1881-1975.