Alice Abadam
Alice Abadam | |
---|---|
Ganwyd | 2 Ionawr 1856 Llundain |
Bu farw | 31 Mawrth 1940 Abergwili |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, swffragét |
Partner | Alice Vowe Johnson |
Roedd Alice Abadam (2 Ionawr 1856 – 31 Mawrth 1940) yn actifydd dros achos y swffragetiaid ac yn ymgyrchydd dros hawliau menywod. Roedd hi'n awdur a ysgrifennodd nifer o erthyglau a phamffledi ar hawliau merched.[1][2]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Abadam yn St John’s Wood, Llundain yr olaf o saith plentyn Edward Abadam, Uchel Siryf Caerfyrddin, a'i wraig, Louisa, neé Taylor. Fe’i magwyd yn Neuadd Middleton, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin,[3] a brynwyd ym 1824 gan ei thad-cu tadol, Edward Hamlyn Adams, perchennog caethion yn Jamaica ac AS Caerfyrddin rhwng 1833 a 1834. Ym 1842 etifeddwyd yr ystâd gan ei thad, a gymerodd y cyfenw Abadam wedi hynny.[4]
Crefydd
[golygu | golygu cod]Ym 1880 cafodd Abadam tröedigaeth i Gatholigiaeth. Bu'n allweddol wrth gael yr urdd o leianod Llydewig Chwiorydd yr Ysbryd Glân i ymsefydlu yng Nghaerfyrddin.
Bu'n hyfforddwraig ac arweinydd côr yr eglwys Gatholig yn y dref a gwasanaethodd fel organydd Eglwys y Santes Fair ar Heol yr Undeb. Bu hefyd yn gwneud gwaith dyngarol, megis ymweld â'r ysbyty iechyd meddwl a charchar y sir
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Trwy ei gwaith dyngarol yn ysbyty iechyd meddwl Sir Gaerfyrddin cyfarfu Abadam a Dr Alice Neville Vowe Johnson, meddyg a llawfeddyg a oedd wedi bod yn swyddog meddygol yn yr ysbyty. Pan symudodd Dr Johnson i Lundain ym 1904 aeth Abadam gyda hi a bu'r ddwy yn byw gyda'i gilydd hyd farwolaeth Johnson ym 1938. Wedi marwolaeth ei phartner symudodd yn ôl i Sir Gaerfyrddin lle fu fyw gyda'i nai, Ryle Morris, ym Mryn Myrddin, Abergwili, hyd ei farwolaeth.
Swffragét ac ymgyrchydd hawliau menywod
[golygu | golygu cod]Ym 1905 daeth Abadam yn aelod o’r Central Society for Women’s Suffrage, ac o 1906 i 1907 bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (WSPU). Ym 1907 ymunodd â Chynghrair Rhyddid y Merched (WFL), gan ddod yn aelod o'i phwyllgor cyntaf.[5]
Roedd hi hefyd yn aelod o'r Church League for Women’s Suffrage, y Women Writers’ Suffrage League, a'r Catholic Women’s Suffrage Society.
Bu ymrwymiadau Abadam fel siaradwr teithiol ar gyfer sefydliadau Swffragét a hawliau menywod yn rhan bwysig o'i bywyd. Roedd galw mawr arni fel siaradwr ffeministaidd. Er bod Alice yn areithio ar ystod eang o bynciau, cyfeiriwyd ei sylwdau, yn aml, at ecsbloetio menywod a merched ifanc, megis mewn darlithiau am "Sut y bydd y bleidlais yn effeithio ar y Traffig Caethweision Gwyn". Byddai’n atgoffa ei chynulleidfa nad oedd y bleidlais yn cael ei cheisio fel symbol o gydraddoldeb yn unig ond fel offeryn a fyddai’n cael ei ddefnyddio i wella bywydau menywod a merched.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd hi’n aelod o "Swffragetiaid yr WSPU" (SWSPU), sefydliad o a oedd yn parhau i ymgyrchu am y bleidlais i fenywod yn ystod cyfnod y rhyfel a ffurfiwyd i wrthwynebu penderfyniad y teulu Pankhurst i atal yr ymgyrch dros gyfnod y rhyfel. Roedd Abadam, a oedd yn heddychwr fel llawer o’i gymrodyr yn yr SWSPU, yn siarad yn rheolaidd yng nghyfarfodydd yr SWSPU ac yn cyfrannu erthyglau i bapur newydd y sefydliad, The Suffragette News Sheet. Megis ei hysgrifau a’i areithiau cyn y rhyfel, parhaodd i drafod pynciau fel "safle haeddiannol menywod yn y byd", "Traffig y Caethion Gwyn", puteindra, ac yn enwedig y Comisiwn Brenhinol ar Glefydau Gwenerol.
Ym mis Chwefror 1918, pan dderbyniodd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl y cydsyniad brenhinol, roedd Abadam yn siomedig gyda’r etholfraint gyfyngedig a roddwyd i fenywod. Yn yr un flwyddyn, cyhoeddodd bamffled o’r enw The Feminist Vote, Enfranchised or Emancipated? Gan ailadroddodd ei chred y dylai menywod ddefnyddio eu pleidlais yn ôl eu hanghenion eu hunain, gan beidio â dibynnu ar ganllaw ar sut i bleidleisio gan dynion.[6] Ym 1920 sefydlodd y Gynghrair Ffeministaidd, grŵp aelodau yn unig a oedd â llyfrgell fenthyca ac oedd yn cynnal cyfarfodydd gyda siaradwyr yn mynychu o nifer o sefydliadau fel yr AFL, Byddin yr Iachawdwriaeth, Sefydliad y Merched, a Chymdeithas Peirianneg y Merched. Bu hefyd yn gwasanaethu fel cadeirydd is-bwyllgor celf Prifysgol Cymru.[7]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw ym Mryn Myrddin, Abergwili yn 84 mlwydd oed, wedi gwasanaeth angladd yn Eglwys Gatholig y Santes Mair, Caerfyrddin aed a'i gweddillion yn ôl i Lundain i'w claddu yn yr un bedd a'i chymar Dr Alice Johnson.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "ABADAM, ALICE (1856 - 1940), ymgyrchydd dros hawliau merched | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-01-02.
- ↑ "Abadam, Alice (1856–1940), suffrage activist and women's right's campaigner | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-112786. Cyrchwyd 2019-09-19.
- ↑ Gardd Fotaneg Cymru Cymru ar Lwyfan y Byd[dolen farw]
- ↑ Contributer, Web (2018-11-17). "Conference: A Celebration of the Women of Middleton and the estates of Wales". West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond. Cyrchwyd 2019-09-19.
- ↑ Crawford, Elizabeth (2003). The Women's Suffrage Movement: A Reference Guide 1866–1928. Routledge. ISBN 9781135434021.
- ↑ Mosalski, Ruth (2018-02-06). "The legacy left behind by three Welsh suffragists". walesonline. Cyrchwyd 2019-09-19.
- ↑ Wallace, Ryland (2009). The Women's Suffrage Movement in Wales, 1866–1928. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 978-0-708-32173-7..