Aled Huw
Gwedd
Aled Huw | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Newyddiadurwr a darlledwr yw Aled Huw.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Mynychodd Ysgol y Dderwen ac yna Ysgol Gyfun Bro Myrddin, Caerfyrddin. Aeth ymlaen i Goleg Wadham, Rhydychen lle enillodd radd Dosbarth Cyntaf mewn Cemeg.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn dilyn cyfnod yn newyddiadurwr dan hyfforddiant gyda'r BBC yn Llundain daeth yn ohebydd a chyflwynydd i BBC Cymru. Bu'n gweithio am saith mlynedd i BBC Cymru yn Llundain fel gohebydd Prydeinig a Rhyngwladol. Mae'n cyflwyno y prif raglen Newyddion ar S4C yn achlysurol. Mae hefyd wedi cyflwyno Taro'r Post ar BBC Radio Cymru.
Yn 2015 enillodd wobr 'Gohebydd newyddion teledu y flwyddyn yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru.'[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Llywydd dydd Sadwrn. BBC Cymru (2007). Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2017.
- ↑ (Saesneg) Reporter scores hat-trick of award wins at revamped awards. holdthefrontpage.co.uk (20 Mawrth 2015).
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]