Aled Glynne

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Darlledwr yw Aled Glynne (ganed 1957), neu Aled Glynne Davies, a chyn-olygydd BBC Radio Cymru.

Bu'n gweithio i adran newyddion BBC Cymru am flynyddoedd, ar y radio a'r teledu, cyn cael ei benodi'n olygydd Radio Cymru yn 1995. Ar ôl gadael y swydd yn 2006,[1] sefydlodd gwmni Goriad gyda'i wraig Afryl.[2]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganed yn 1957 yn un o bedwar mab y bardd T. Glynne Davies. Mae'n briod ag Afryl ac yn byw yng Nghaerdydd; mae ganddynt fab a merch, sef y newyddiadurwr Gwenllian Glyn a'r actor Gruffudd Glyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  BBC Radio Cymru editor resigns. Radio Today (1 Mawrth 2006).
  2.  Gwefan Cwmni Goriad. goriad (2022-04-23).