Alarch dof

Oddi ar Wicipedia
Alarch dof
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Cygnus
Rhywogaeth: C. olor
Enw deuenwol
Cygnus olor
(Gmelin, 1789)
Pâr o elyrch llawn dwf a'u cywion
Cygnus olor

Mae'r Alarch dof neu fud (Cygnus olor) yn aelod o'r teulu Anatidae (yr elyrch, gwyddau a hwyaid). Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a rhannau gorllewinol o Asia.

Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond maent yn aml yn teithio i gasglu at ei gilydd i fwrw'u plu ar ôl y tymor nythu, ac mae elyrch o ogledd a dwyrain Ewrop lle mae'r gaeafau'n oerach yn symud tua'r de.

Mae'n aderyn mawr, tua 125–155 cm o hyd a 200–240 cm ar draws yr adenydd. Mae'n un o'r adar trymaf sy'n gallu hedfan - gall y ceiliog, sy'n fwy na'r iâr, bwyso hyd at 12 kg (27 pwys). Fel nifer o'r elyrch eraill mae ei blu yn hollol wyn, ond gellir adnabod Alarch dof trwy weld yr oren ar y pig. Nid yw'r cywion yn wyn; maent yn frown neu lwyd nes cael plu gwyn yn ystod eu gaeaf cyntaf.

Cedwir elyrch fel adar dof yn aml, ac mae hyd yn oed elyrch gwyllt ym medru dod i arfer a phobl ac yn aml i dderbyn bwyd o'r llaw. Er hynny, maent yn medru bod yn adar peryglus, yn enwedig pan mae'r ceiliog yn amddiffyn y nyth. Mae nifer o gofnodion amdanynt yn lladd cŵn, er enghraifft.

Enwau yn yr ieithoedd Celtaidd[golygu | golygu cod]

Dyma enw'r aderyn hwn mewn rhai o'r ieithoedd Celtaidd eraill:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]