Al-Nawaat
Enghraifft o'r canlynol | blog |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | Ebrill 2004 |
Sylfaenydd | Sami Ben Gharbia, Riadh Guerfali |
Gwladwriaeth | Tiwnisia |
Gwefan | http://www.nawaat.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Blog cydweithredol dros newid democrataidd yn Nhiwnisia yw Al-Nawaat (Ffrangeg: Nawaat de Tunisie). Mae'n fforwm i fynegi gwrthwynebiad i lywodraeth Zine Ben Ali, i drosglwyddo newyddion a gwybodaeth am y frwydr dros ddemocratiaeth a hawliau dynol, ac i ddod â sawl grŵp ac unigolyn at ei gilydd er mwyn newid y sefyllfa yn Nhiwnisia. Mae'n hawlio ei fod yn "blog cydweithredol annibynnol gan Diwnisiaid" sy'n "annibynnol ar bob mudiad, sefydliad a llywodraeth" ac sy ddim yn derbyn arian gan unrhyw blaid wleidyddol. Fe'i cyhoeddir yn ddwyieithog, yn Arabeg a Ffrangeg, gyda'r newyddion ar gael yn rhannol yn Saesneg hefyd.[1]
Fe'i sefydlwyd yn 2004. Cafodd ei wahardd ar unwaith gan y llywodraeth; ni ellir cyrchu eu gwefannau o gwbl o Diwnisia. Mae'n rhedeg sawl gwefan yn cynnwys y brif wefan, nawaat.org, tudalen Twitter, tudalen newyddion (posterous.com) a'r adran Tunileaks sy'n cyhoeddi dogfennau Cablegate a dogfennau eraill gan WikiLeaks sy'n ymwneud â Thiwnisia.[1]
Erbyn heddiw dyma'r brif fforwm dros newid yn Nhiwnisia. Dyma'r brif gyfrwng y rhai sy'n cefnogi'r intifada yn Nhiwnisia a ddechreuodd yn Rhagfyr 2010 yn Sidi Bouzid.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 gwybodaeth Archifwyd 2011-01-04 yn y Peiriant Wayback ar wefan nawaat.org.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Prif wefan Al-Nawaat Archifwyd 2011-01-04 yn y Peiriant Wayback (Arabeg) (Ffrangeg)
- Gwasanaeth newyddion llifol Archifwyd 2011-01-04 yn y Peiriant Wayback Al-Nawaat (Arabeg) (Ffrangeg)