Agerstalwm
Is-genre ffantasiol o fewn gwyddonias yw agerstalwm, lle mae technoleg a dyfeisiadau esthetig wedi'u hysbrydoli gan beiriannau stêm diwydiannol o'r 19g.
Er bod tarddiad llenyddol y math yma o lenyddiaeth weithiau'n gysylltiedig â'r genre cyberpunk, mae gweithiau agerstalwm yn aml yn cael eu gosod mewn hanes amgen yng nghyfnod oes Fictoria, yn benodol - yng "Ngorllewin Gwyllt Americanaidd" y dyfodol, lle gosodir pŵer stêm fel norm, yn brif ffrwd. Ar adegau eraill, fe'i lleolir mewn byd ffantasi sy'n defnyddio ynni stêm. Fodd bynnag, mae steampunk a neo-Fictoraidd yn wahanol gan nad yw'r mudiad neo-Fictoraidd yn allosod ar dechnoleg tra bod technoleg yn agwedd allweddol ar steampunk gan nad yw technoleg yn gwbwl angenrheidiol o fewn y gnre neo-Fictoraidd.[1][2][3][4]
Efallai mai'r nodwedd amlycaf o'r genre yma yw technoleg a dyfeisiadau anacronistaidd (nad oedd ar gael yn y cyfnod dan sylw) a gellir galw'r rhain yn retro-ddyfofol: dyfeisiadau a thechnoleg y gallai pobl yn y 19g fod wedi breuddwydio amdanynt. Gall y mathau o beiriannau, technoleg a dyfeisiadau gynnwys ffuglennol, fel y rhai a ddisgrifir yng ngwaith H. G. Wells a Jules Verne, neu'r awduron modern: Philip Pullman, Scott Westerfeld, Stephen Hunt, a China Miéville.

Cynnwys
Rhagflaenwyr[golygu | golygu cod y dudalen]
Fel y dywedwyd, dylanwadwyd yn drwm ar y genre hwn, yr arddull ffug-19g, gan nofelau 'gwyddonol' Jules Verne a H. G. Wells, ond hefyd gan Mary Shelley, ac Edward S. Ellis a'i nofel The Steam Man of the Prairies (1868). Cynhyrchwyd nifer o weithiau celf a ffuglen mwy modern sy'n arwyddocaol yn natblygiad y genre hon, cyn i'r genre gael enw. Caiff Titus Alone (1959), gan Mervyn Peake, ei hystyried gan ysgolheigion fel y nofel gyntaf.[5][6][angen y dudalen][7] Mae beirniaid llenyddol eraill yn nodi fod The Warlord of the Air (1971) gan Michael Moorcock yn haeddu'r lle hwnnw.[8][9][10]
Carreg filltir bwysig arall yn natblygiad cynnar y math hwn o ffuglen wyddonias yw'r ffilm Brazil (1985) a ddylanwadodd yn fawr ar ffilmiau eraill, gan gadarnhau estheteg a ffiniau'r genere. Cafwyd comic yn nechrau'r 1970au a oedd hefyd yn hynod o bwysig yn cadarnhau'r genre, sef The Adventures of Luther Arkwright gan Bryan Talbot.
Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Prin yw'r enghreifftiau o'r math hwn o ysgrifennu yn y Gymraeg. Cyhoeddwyd yn 2019 y nofel Babel gan Ifan Morgan Jones a ddisgrifiai ei hun fel y nofel "gyntaf yn y Gymraeg o fewn y genre Agerstalwm".[11] Bathwyd y term "Agerstalwm" gan Llinos Mair.[12] Mae'n derm sy'n chwarae ar fathiad arall, sef Strydoedd Aberstalwm, cân gan Alun 'Sbardun' Huws ac a boblogeiddiwyd gan y canwr Bryn Fôn. Mae'n air cyfansawdd: 'Ager' (sef stêm) a 'stalwm' sy'n gywasgiad o 'ers talwm'.
Er bod llawer o weithiau a ystyrir bellach yn arloesol i'r genre wedi'u cyhoeddi yn y 1960au a'r 1970au, yn y Saesneg, dechreuodd y term "steampunk" yn niwedd y 1980au fel amrywiad tafod-i-boch o cyberpunk. Fe'i lluniwyd gan yr awdur ffuglen wyddonol K. W. Jeter, a oedd yn ceisio dod o hyd i derm cyffredinol ar gyfer gwaith gan Tim Powers (The Anubis Gates, 1983), James Blaylock (Homunculus, 1986), ac ef ei hun (Morlock Night, 1979, a Infernal Devices, 1987). Roedd pob un o'r llyfrau yma wedi eu lleoli yn y 19g (Fictoraidd fel arfer) ac a oedd yn dynwared confensiynauo ffuglen gwirioneddol H. G. Wells The Time Machine ac eraill.
Rhai gweithiau a ragflaenodd y genre hon[golygu | golygu cod y dudalen]
Awduron llyfrau cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
- G. K. Chesterton[13]
- Charles Dickens[13]
- Arthur Conan Doyle[13]
- George Griffith
- H. P. Lovecraft[14]
- Albert Robida
- Mary Shelley[15]
- Robert Louis Stevenson[13]
- Bram Stoker[13]
- Mark Twain[16]
- Jules Verne[16][17]
- H. G. Wells[16][17]
Ffilmiau cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
- 20,000 Leagues Under the Sea (1954)[17]
- From the Earth to the Moon (1958)
- Journey to the Center of the Earth (1959)
- The Time Machine (1960)[17]
- Master of the World (1961)[17]
- First Men in the Moon (1964)
- Captain Nemo and the Underwater City (1969)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Definition of steampunk". Oxford University Press. Cyrchwyd 6 October 2012.
- ↑ Latham, Rob (2014). The Oxford Handbook of Science Fiction. p. 439. ISBN 9780199838844.
- ↑ Seed, David (2007). A Companion to Science Fiction (yn Saesneg). Oxford: John Wiley & Sons. p. 217. ISBN 9781405144582. Cyrchwyd 6 March 2017.
- ↑ Nally, Claire (2016). "EXPERT COMMENT: Steampunk, Neo-Victorianism, and the Fantastic". Northumbria University, Newcastle's Newsroom.
- ↑ Oliveira, Camilla (2015-11-02). "Steampunk: The Movement and the Art". Wall Street International - Culture Section.
- ↑ Peake, Mervyn (2011). The Illustrated Gormenghast Trilogy (arg. New.). London: Vintage. ISBN 978-0099528548.
- ↑ Daniel, Lucy (2007). Defining Moments In Books: The Greatest Books, Writers, Characters, Passages And Events That Shook The Literary World. New York: Cassell llustrated. p. 439. ISBN 978-1844036059.
- ↑ Bluestocking (21ain o Fehefin 2017). "Steampunk Dollhouse: Islands in the Time Streams or How a Privileged White Edwardian Man Had His Eyes Opened Rather Forcefully". Check date values in:
|date=
(help) - ↑ Kunzru, Hari (ail o Chwefror 2011). "When Hari Kunzru Met Michael Moorcock". The Guardian. Cyrchwyd 10fed o Fedi 2016. Check date values in:
|accessdate=, |date=
(help) - ↑ Bebergal, Peter (2007-08-26). "The age of steampunk". The Boston Globe. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14ydd o Ebrill 2008. http://www.boston.com/news/globe/ideas/articles/2007/08/26/the_age_of_steampunk/. Adalwyd 2008-05-10.
- ↑ JONES, IFAN MORGAN. (2019). BABEL. [S.l.]: Y LOLFA. ISBN 1784617121. OCLC 1083875548.
- ↑ Celtes (2015-09-16). "@ifanmj Agerstalwm?". @Celtes_Cymru. Cyrchwyd 2019-06-21.
- ↑ 13.0 13.1 13.2 13.3 13.4 John Clute & John Grant,The Encyclopedia of Fantasy, "Steampunk", p.895 1st Ed., (1997), Orbit, ISBN 1-85723-897-4
- ↑ Gareth Branwyn (June 18, 2007). "Steam-Driven Dreams: The Wondrously Whimsical World of Steampunk". Wired.com. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2012-11-06. https://web.archive.org/web/20121106062212/http://www.wired.com/gadgets/mods/multimedia/2007/06/gallery_steampunk?slide=15. Adalwyd 2011-01-02. "While the world of H.P. Lovecraft's horror is not exactly the same as that envisioned in steampunk, there's plenty of leakage between the two..."
- ↑ Strickland, Jonathan. "Famous Steampunk Works". HowStuffWorks. Cyrchwyd 2008-05-18.
- ↑ 16.0 16.1 16.2 Ottens, Nick (2008). "The darker, dirtier side". Archifwyd o y gwreiddiol ar 17 July 2011. Cyrchwyd 2008-05-18.
- ↑ 17.0 17.1 17.2 17.3 17.4 "FEATURES: Steaming Celluloid". Matrix Online. 2008-06-30. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2009-02-21. Cyrchwyd 2009-02-13.