Ifan Morgan Jones

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ifan Morgan Jones
Ganwyd Ebrill 1984 Edit this on Wikidata
Waunfawr Edit this on Wikidata
Man preswyl Croes-lan Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Ysgrifennwr, newyddiadurwr, darlithydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus am Igam Ogam Edit this on Wikidata

Newyddiadurwr, darlithydd a nofelydd Cymraeg yw Ifan Morgan Jones (ganwyd Ebrill 1984) sy'n enedigol o Waunfawr, Gwynedd ond sydd bellach yn byw yng Nghroeslan ger Llandysul.

Enillodd ei lyfr Igam Ogam[1], Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch 2008. Cyhoeddodd ddwy nofel arall, Yr Argraff Gyntaf yn 2010, a Dadeni yn 2017.

Bu'n Ohebydd a Dirprwy Olygydd ar gylchgrawn Golwg o fis Mai 2006 hyd ddiwedd 2008, ac yn Olygydd gwefan Golwg360 rhwng Ionawr 2009 a Medi 2011. Yn 2017 lansiodd y wefan newyddion Nation.Cymru gyda'r nod o ehangu y darpariaeth ar gyfer newyddiaduraeth am Gymru gyfan yn yr iaith Saesneg.

Mae bellach yn arweinydd y cwrs newyddiaduraeth yn adran Cerddoriaeth a Chyfryngau Prifysgol Bangor. Cafodd ddoethuriaeth yn 2018 am ei astudiaeth o genedlaetholdeb a'r wasg Gymraeg yn ail hanner yr 19eg ganrif.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]



Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.