Afon y Garth
![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.323214°N 3.329391°W ![]() |
![]() | |
Afon yn Sir y Fflint yw Afon y Garth. O'i tharddle ger pentref Llanasa mae'n llifo i'w haber ger Ffynnongroew, Glannau Dyfrdwy. Ei hyd yw tua 3 milltir.

Cwrs[golygu | golygu cod]
Tardda Afon y Garth ger Llanasa. Oddi yno mae hi'n llifo i gyfeiriad y dwyrain trwy ystad Castell y Gyrn ac i mewn i gwm coediog Coed y Garth. Tua hanner milltir i'r de o Ffynnongroew mae ffrwd fechan Nant Felin Blwm yn llifo iddi o gyfeiriad y de. Mae'r afon yn cyrraedd ei haber ger Ffynnongroew ac yn llifo dros y tywod i aber mawr Afon Dyfrdwy rhwng Ffynnongroew a Mostyn.[1]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Map OS 1:50,000 Dinbych a Bae Colwyn.