Afon Tuul
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Töv ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 48.94847°N 104.79861°E, 48.9481°N 104.7986°E ![]() |
Tarddiad | Mynyddoedd Khentii ![]() |
Aber | Afon Orkhon ![]() |
Dalgylch | 49,840 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 704 cilometr ![]() |
![]() | |
Afon yng nghanolbarth a gogledd Mongolia yw Afon Tuul (Mongoleg: Туул гол, tuul gol; weithiau Tola mewn hen lyfrau). Mae ganddi hyd o 704 km gyda basn o tua 49,840 km sgwar.
Gyda'i tharddle yn gorwedd ym Mharc Cenedlaethol Gorkhi-Terelj ym Mynyddoedd Khentii, mae'r afon yn llifo trwy ran ddeheuol Ulan Bator, prifddinas Mongolia. Mae'n llednant o Afon Orkhon, sy'n llednant o Afon Selenge, sy'n llifo wedyn i Rwsia a Llyn Baikal. Llifa Afon Tuul drwy Barc Cenedlaethol Khustain Nuruu hefyd. Mae'n rhewi drosodd fel rheol o ganol mis Tachwedd i ganol Ebrill. Nodweddir glannau'r afon gan goedwigoedd helyg ac mae'n gartref i rywogaeth brin o sturgeon.
Mae'r afon yn dioddef gan lygred a achosir gan garthffosiaeth o Ulan Bator a gwaddoliadau trwm mewn canlyniad i fwyngloddio aur yn ardal Zaamar.