Parc Cenedlaethol Gorkhi-Terelj
Gwedd
| Math | parc cenedlaethol |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Ulan Bator |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 2,931 km² |
| Cyfesurynnau | 48.1502°N 107.576°E |
![]() | |
Un o barciau cenedlaethol Mongolia yw Parc Cenedlaethol Gorkhi-Terelj (Mongoleg: Горхи-Тэрэлж, "rhododendron y nant"). Mae'n gorwedd ym Mynyddoedd Kentii tua 40–50 km o Ulan Bator. Llifa Afon Tuul drwy'r parc. Gerllaw mae mynydd sanctaidd Burkhan Khaldun, a gysylltir â Genghis Khan.
Mae atyniadau yn cynnwys Llyn Khagiin Khar a Ffynhonnau Poeth Yestii. Ceir yn ogystal fynachlog Fwdhaidd sydd ar agor i ymwelwyr. Mae bywyd gwyllt y parc yn cynnwys eirth brown a thros 250 rhywogaeth o adar. Ceir sawl craig drawiadol yno, yn cynnwys "Craig y Crwban" (Mongoleg: Melkhii Khad) a'r "Lama yn gweddïo".
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) globosapiens.net Gwybodaeth dwristaidd
