Afon Llafar (Penllyn)
Gwedd
![]() Afon Llafar ger ei haber yn Llyn Tegid | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Penllyn ![]() |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.874°N 3.648°W ![]() |
Aber | Llyn Tegid ![]() |
Hyd | 5 milltir ![]() |
![]() | |
Afon yn ardal Penllyn ym Meirionnydd, Gwynedd yw Afon Llafar. Mae'n tarddu ar lethrau Arenig Fawr ac yn cyrraedd ei haber yn Llyn Tegid. Ei hyd yw tua 5 milltir.
Gorwedd tarddle'r afon ar lethrau dwyreiniol Arenig Fawr tua 500 metr i fyny. Mae sawl ffrwd o'r llethrau hynny yn ymuno mewn llecyn a enwir ym Manc y Merddwr i ffurfio'r afon. Llifa wedyn ar gwrs de-ddwyreiniol gyda sawl ffrwd fechan yn llifo iddi, yn cynnwys afon Dylo o rannau uchaf Cwm Dylo.
Mae'n llifo heibio i bentre bychan Parc, safle hen blasdy, ac o dan bont sy'n dwyn y lôn sy'n dringo o Lanycil i ben Cwm Dylo. Mae'n cyrraedd pen ei thaith ger Glanllyn, safle gwersyll yr Urdd, lle mae'n aberu yn Llyn Tegid.