Adran Trysorlys yr Unol Daleithiau

Oddi ar Wicipedia
Adran Trysorlys yr Unol Daleithiau
Enghraifft o'r canlynoladrannau gweithredol ffederal yr Unol Daleithiau, gweinyddiaeth ariannol, financial regulatory agency Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2 Medi 1789 Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadYsgrifennydd Trysorlys yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Map
Gweithwyr112,461 Edit this on Wikidata
Isgwmni/auBureau of the Fiscal Service, Office of the Comptroller of the Currency, Bureau of the Public Debt, United States Customs Service, Internal Revenue Service, Bureau of Engraving and Printing, United States Mint, Alcohol and Tobacco Tax and Trade Bureau, Federal Financing Bank, Office of Tax Policy, Office of Financial Institutions, Office of Financial Research, Office of Financial Markets, Office of Fiscal Service, Office of Terrorism and Financial Intelligence, Office of Inspector General, Department of the Treasury, Special Inspector General for the Troubled Asset Relief Program, Financial Stability Oversight Council, Office of the Special Inspector General for Pandemic Recovery, United States Coast and Geodetic Survey, Federal Law Enforcement Training Center, Office of Domestic Finance Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadLlywodraeth Ffederal yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
PencadlysAdeilad y Trysorlys Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://home.treasury.gov/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Trysorlys cenedlaethol Unol Daleithiau America yw Adran Trysorlys yr Unol Daleithiau (Saesneg: United States Department of the Treasury; USDT)[1] sydd yn un o adrannau gweithredol llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau.[2] Mae'r adran yn goruchwylio'r Biwro Engrafio ac Argraffu a Bathdy yr Unol Daleithiau, y ddwy asiantaeth sydd yn gyfrifol am gynhyrchu'r holl bapurau doleri a darnau arian cyfred a gylchredir gan y Trysorlys yn y system gyllidol wladol. Cesglir holl drethi ffederal yr Unol Daleithiau gan yr USDT drwy'r Gwasanaeth Cyllid Gwladol, ac mae'r adran hefyd yn rheoli offerynnau dyled y llywodraeth ffederal, yn trwyddedu ac arolygu banciau a banciau cynilion, ac yn cynghori Cyngres yr Unol Daleithiau ac adran weithredol y llywodraeth am bolisi cyllidol. Gweinyddir yr USDT gan Ysgrifennydd y Trysorlys, un o aelodau'r Cabinet. Mae Trysorydd yr Unol Daleithiau yn meddu ar ddyletswyddau statudol cyfyng ac yn cynghori'r Ysgrifennydd am bynciau megis bathu arian a chynhyrchu'r arian cyfred.[3] Ymddengys llofnodion yr Ysgrifennydd a'r Trysorydd ar holl bapurau doleri'r Unol Daleithiau a gyhoeddir i fanciau'r Gronfa Ffederal.[4]

Crewyd Adran y Trysorlys gan Ddeddf Gyngresol ym 1789 er mwyn rheoli cyllid y llywodraeth, a chymerodd Alexander Hamilton ei lw yn Ysgrifennydd cyntaf y Trysorlys ar 11 Medi 1789.[5] Penodwyd Hamilton gan yr Arlywydd George Washington ar gyngor yr ariannwr Robert Morris, dewis cyntaf Washington, a wrthododd y swydd.[6] Sefydlwyd system ariannol gynnar yr Unol Daleithiau gan Hamilton, a oedd yn un o aelodau blaenllaw gweinyddiaeth Washington.[7] Ymddengys portread Hamilton ar wyneb blaen y papur $10, a llun o adeilad Adran y Trysorlys, yn Washington, D.C., ar ei wrthwyneb.[8] Ysgrifennydd cyfredol y Trysorlys ydy Janet Yellen ers 25 Ionawr 2021. Cafodd ei enwebu gan Joe Biden gan wneud yn ysgrifennydd gyntaf y trysorlys i fod yn fenyw.[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Donald A. Torres (1985). Handbook of Federal Police and Investigative Agencies. Greenwood Publishing Group. t. 275. ISBN 0313245789.
  2. "An Act to Establish the Treasury Department". September 2, 1789. Cyrchwyd 2018-10-11.
  3. "The Treasurer". U.S. Department of the Treasury. Cyrchwyd 6 May 2018.
  4. Crutsinger, Martin (15 November 2017). "New money: Mnuchin and Carranza signatures now on the dollar bill". USA Today. Gannett Satellite Information Network, LLC. The Associated Press. Cyrchwyd 6 May 2018.
  5. "Appointment as Secretary of the Treasury".
  6. Adams, Jonathan. "Department of the Treasury". George Washington Digital Encyclopedia. Mount Vernon Ladies' Association. Cyrchwyd 6 May 2018.
  7. Scanlan, Laura Wolff (2006). "Alexander Hamilton: the man who modernized money". Humanities: The Magazine of the National Endowment for the Humanities 27 (1). https://www.neh.gov/humanities/2006/januaryfebruary/feature/alexander-hamilton. Adalwyd 6 May 2018.
  8. "$10". U.S. Currency Education Program. Cyrchwyd 6 May 2018.
  9. "Janet Yellen confirmed as first woman to head the US Treasury". Sky News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-14.