Abraham Blooteling
Abraham Blooteling | |
---|---|
Ganwyd | Tachwedd 1640 Amsterdam |
Bedyddiwyd | 2 Rhagfyr 1640 |
Bu farw | Ionawr 1690 Amsterdam |
Dinasyddiaeth | Yr Iseldiroedd |
Galwedigaeth | gwneuthurwr printiau, drafftsmon, engrafwr plât copr, cyhoeddwr, ysgythrwr, mesotintiwr, print publisher |
Arddull | peintio hanesyddol, portread |
Perthnasau | Gerard Valck |
Drafftsmon ac ysgythrwr o'r Iseldiroedd oedd Abraham Blooteling (1640 – 1690). Cafodd ei eni yn Amsterdam yn 1640 a bu farw yn Amsterdam.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Does dim sicrwydd o union ddyddiad geni Blooteling ond cafodd ef ei fedyddio ar 2 Rhagfyr, 1634. Roedd ei rieni Abraham Bloteling van Delft a Geertruyt Jacobs van Oosterwijck, o Voorburg.[1]
Bu'n ddisgybl i Cornelis van Dalen (1638-1660), ac o bosibl hefyd i Claes Jansz Visscher, gan fod ei arddull ysgythriadau yn debyg iawn i arddull Visscher. Yn dilyn ymosodiadau Ffrengig a'r Taleithiau Unedig yr Iseldiroedd y 1672, symudodd i Loegr gyda Gerard Valck lle cafodd peth lwyddiant. Arhosodd yn Lloegr am ddwy flynedd neu dair.
Cynhyrchodd Blooteling nifer fawr o ysgythriadau a rhai engrafiadau llinell. Bu hefyd yn gweithio mewn arddull mezzotint, techneg y gwyddys ei fod wedi ei fabwysiadu erbyn 1671. Mae rhai yn honni mae ef bu'n gyfrifol am ddyfeisio'r "siglydd" fel offeryn ar gyfer y paratoi platiau mezzotint, a'i fod wedi cyflwyno'r dechneg i Loegr.[2]
Bu farw Bloteling ym mis Ionawr 1690, a'i gladdu yng nghapel Nieuwezijds Amsterdam ar yr 20fed o'r un mis
Mae yna enghreifftiau o waith Abraham Blooteling yng nghasgliad portreadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a hefyd yng nghasgliad Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain.
Oriel
[golygu | golygu cod]Dyma ddetholiad o weithiau gan Abraham Blooteling:
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ A. D. de de Vries Azn., Biografische aanteekeningen betreffende voornamelijk Amsterdamsche schilders, plaatsnijders, enz. en hunne verwanten, Oud-Holland, rhif 3, 1885, tud 64-69, 137
- ↑ Hind, Arthur M. (2011). A History of Engraving and Etching (adargraffiad.). Courier. tud. 265. ISBN 9780486148878