Abdullah Alkhamesi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Meddyg o Iemen oedd Abdullah Hamood Mohammed Alkhamesi (28 Mawrth 194131 Awst 2017).[1]

Ganwyd yn Sana'a, yn fab i Hamood Alkhamesi a oedd yn feddyg llysiau i Ahmad bin Yahya, Brenin ac Imam Gogledd Iemen. Enillodd Abdullah ysgoloriaeth i'r Undeb Sofietaidd ym 1959 ac astudiodd yn Athrofa Feddygol Odessa Pirogov. Yno, fe briododd Svetlana Petrovna ym 1965, a chawsant pedwar plant yn ystod y briodas. Dychwelodd Abdullah i Iemen gyda'i wraig ym 1967, yng nghanol y rhyfel cartref (1962–70). Efe oedd un o'r meddygon hyfforddedig cyntaf yn y wlad, ac arweiniodd yr undeb feddygol gyntaf i ennill cydnabyddiaeth o amhleidioldeb y doctoriaid gan ddwy ochr y rhyfel. Gweithiodd hefyd gyda Sefydliad Iechyd y Byd i frwydro'n erbyn clefydau trofannol megis bilharzia a malaria. Enillodd gradd meistr mewn rheolaeth feddygol o Brifysgol Moscfa ym 1973.

Fe sefydlodd adran Cymdeithas y Cilgant Coch yn Iemen ym 1973. Fel ysgrifennydd cyffredinol, llwyddodd i ddod ag ambiwlansiau, clinigau 24-awr, a llinellau ffôn brys i Iemen. Trwy'r Cilgant Coch yn Iemen, darparodd gymorth argyfwng ar draws Corn Affrica a rhanbarth y Gwlff, er enghraifft yn ystod daeargrynfeydd yn Dhamar, Gogledd Iemen, ym 1982 ac Iran ym 1990. Wedi'r rhyfel cafodd Abdullah ei benodi'n bennaeth ar uno gwasanaethau meddygol y gogledd a'r de gan yr Arlywydd Ibrahim al-Hamdi. Treuliodd y cyfnod o 1974 hyd uno'r wlad ym 1990 yn teithio yn ôl ac ymlaen i Aden i drafod, hyd yn oed mewn adegau o drais.

Ymddeolodd o'r Cilgant Coch yn Iemen yn 2002 a sefydlodd clinig di-dâl lleol. Yn nhymor y gwanwyn 2017, cafodd afiechyd ac roedd angen arno lawdriniaeth ar y galon. Cafodd un lawdriniaeth ym mis Awst, ond nid oedd modd iddo dderbyn rhagor o driniaeth oherwydd y rhyfel cartref ac ni allai gael ei symud tramor oherwydd cyfyngiadau gan Sawdi Arabia. Bu farw yn 76 oed.


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Abdullah Alkhamesi obituary, The Guardian (24 Hydref 2017). Adalwyd ar 28 Hydref 2017.