Cymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cymreig)
Cymru
Baner (Y Ddraig Goch)
Arwyddair"Cymru am byth", "Y Ddraig Goch Ddyry Cychwyn", "Yma o Hyd"
MathGwlad
PrifddinasCaerdydd
Poblogaeth3,107,500 (2021)
Sefydlwyd
AnthemHen Wlad fy Nhadau
Pennaeth llywodraethVaughan Gething Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00 Edit this on Wikidata
NawddsantDewi Sant
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Cymraeg, Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolcenhedloedd Celtaidd Edit this on Wikidata
Sir22 o siroedd
Arwynebedd21,218 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLloegr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.35°N 3.63°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW92000004 Edit this on Wikidata
"Gwlad"
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Cymru Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd Cymru Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
teyrn y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethSiarl III Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Cymru Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethVaughan Gething Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)£85.4 biliwn (2022)[1]
Arianpunt sterling Edit this on Wikidata
Gweler hefyd: Cymru (gwahaniaethu)

Mae Cymru (Saesneg: Wales[2]; Cernyweg: Kembra[3], Gaeleg yr Alban: Chuimrigh[4]) yn wlad Geltaidd yn Ewrop. Bu Cymru yn wlad annibynol yn y canoloesoedd ond yn 1284 hawliwyd Cymru trwy gyfraith fel rhan o Deyrnas Lloegr, a newidiodd i'r Deyrnas Unedig a barhaodd mewn rhyw ffurf o 1707 tan y presennol. Cymraeg yw iaith frodorol y wlad a siaredir Saesneg hefyd gan y mwyafrif helaeth o'i dinasyddion erbyn heddiw.

Mae Cymru yn ffinio â Lloegr i'r dwyrain a'r moroedd; Môr Hafren, y Môr Celtaidd a Môr Iwerddon. Roedd gan Gymru boblogaeth o 3,107,500 yn 2021[5] ac mae ganddi arwynebedd o 20,779 km2 (8,023 mi). Mae gan Gymru dros 2,700 km (1,700 mi) o arfordir ac mae'n fynyddig ar y cyfan. Mae gan Gymru fynyddoedd talach yn y gogledd a'r canoldir, gan gynnwys yr Wyddfa, ei chopa uchaf, yn Eryri. Mae'r wlad o fewn ardal tymheredd y gogledd ac mae ganddi hinsawdd forwrol. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Caerdydd.

Brwydrodd lwythau'r Brythoniaid Celtaidd yn erbyn y Rhufeiniaid yn y 1g ac ni chafwyd feddiant llawn o Gymru tan iddynt adael yn y 3g a 4g. Gadawodd Macsen Wledig (Magnus Maximus) a'r Rhufeiniaid Ynys Brydain yn y 5ed ganrif. Rhodri Mawr oedd y cyntaf i uno rhan mawr o Gymru yn y 9g gan a deyrnasu dros Wynedd, Powys, Ceredigion ac Ystrad Tywi. Yr unig frenin a lwyddodd i reoli Cymru gyfan oedd Gruffudd ap Llywelyn o 1057 hyd at 1063. Yn y 10g roedd Hywel Dda yn rheoli Cymru oll heblaw am Forgannwg; cyflwynodd Gyfraith Hywel a chynhyrchu ei arian ei hun.

Ar ôl i'r Normaniaid oresgyn Cymru ar ôl 1066, sefydlwyd Pura Wallia a'r Mers. Llwyddodd Owain Gwynedd a Rhys ap Tewdwr i adennill Gwynedd a Deheubarth oddi ar y Normaniaid ac fe gawsant lwyddiant mawr yn eu herbyn ym Mrwydr Crug Mawr yn 1136. Defnyddiodd y teitl brenin Cymru ac yn hwyrach "princeps" (tywysog) a ddynodai arweinydd sofran gwlad yn ôl cyfraith Rhufeinig. Yn 1201 fe ddaeth Llywelyn ap Iorwerth i'r amlwg gan ennill rheolaeth dros Wynedd a gwneud ei hun yn "Dywysog Gogledd Cymru gyfan", ac yn hwyrach defnyddiodd y teitl "Tywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri". Trosglwyddodd ei bwerau i'w fab Dafydd ap Llywelyn a chasglodd arweinwyr eraill y wlad yn Abaty Ystrad Fflur ynghyd i dalu gwrogaeth iddo fel Tywysog Cymru.

Daeth mab Dafydd, Llywelyn ap Gruffudd, Llywelyn ein Llyw Olaf, hefyd yn dywysog Cymru, ond yn 1282 fe'i lladdwyd ger Cilmeri. Lladdwyd ei frawd Dafydd ap Gruffudd yn 1283 a phasiwyd Statud Rhuddlan yn 1284 gan gwblhau gorchfygiad de facto a chyfreithiol Cymru gan Edward I, brenin Lloegr. Dyma oedd diwedd annibyniaeth y wlad.

O 1400-1410 ailenillodd Owain Glyndŵr annibyniaeth i Gymru ac yn yr un cyfnod pasiwyd Deddfau Penyd yn erbyn Cymru yn 1402 i'w cosbi. Ar ôl i'r gwrthryfel fethu yn y tymor hir, cafodd Cymru ei hatodi gan Loegr a'i hymgorffori o fewn cyfundrefn gyfreithiol Lloegr o dan Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1536 a 1542.

Datblygodd gwleidyddiaeth Gymreig nodedig yn y 19g, yn arbennig yn gysylltiedig â Rhyddfrydiaeth Gymreig ac hefyd Cymru Fydd. Amlygwyd hyn ar ddechrau'r 20g gan David Lloyd George, ond cafodd ei ddadleoli gan dwf sosialaeth a sefydlwyd Llafur Cymru erbyn 1947. Ymgyrchodd Lloyd George yn gryf dros ddatganoli i Gymru yn ei yrfa cynnar a thyfodd teimlad cenedlaethol Cymreig dros y ganrif. Ffurfiwyd Plaid Cymru yn 1925, a Chymdeithas yr Iaith yn 1962. Enillodd datganoli Cymreig fomentwm yn ystod yr 20fed ganrif ac yn dilyn refferendwm datganoli Cymreig 1997, ffurfiwyd y Cynulliad yn 1999, ac mae wedi ennill mwy o ddatganoli ers hynny, a newidiodd ei enw yn Senedd Cymru yn 2020. Daeth mudiad cryfach dros annibyniaeth i Gymru i’r amlwg erbyn 2017, pan drafodwyd ail refferendwm annibyniaeth i'r Alban. Daeth grwpiau o blaid annibyniaeth, megis YesCymru yn boblogaidd yn yr 21ain ganrif, er nad yw annibyniaeth yn cael ei chefnogi gan fwyafrif yng Nghymru.

Ar ddechrau’r chwyldro diwydiannol yng Nghymru, trawsnewidiodd datblygiad y diwydiannau mwyngloddio a metelegol y wlad o fod yn gymdeithas amaethyddol i fod yn genedl ddiwydiannol; achosodd ecsbloetio Maes Glo De Cymru gynnydd cyflym ym mhoblogaeth Cymru. Mae dwy ran o dair o'r boblogaeth yn byw yn Ne Cymru, gan gynnwys Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a'r cymoedd. Mae gan ranbarth dwyreiniol Gogledd Cymru tua chweched o'r boblogaeth gyfan a Wrecsam yw tref fwyaf y gogledd. Mae gan weddill Cymru ddwysedd poblogaeth llai. Nawr fod diwydiannau echdynnu a diwydiannau trwm traddodiadol y wlad wedi dirywio, mae economi Cymru yn seiliedig ar y sector cyhoeddus, diwydiannau ysgafn a gwasanaeth, a thwristiaeth. O fewn y diwydiant ffermio, gan gynnwys ffermio llaeth, mae Cymru yn allforiwr net.

Geirdarddiad

Yn wreiddiol defnyddiwyd yr enw "Cymry", ffurf luosog Cymro, i ddisgrifio'r wlad a'r bobl ynddi.[6] Ymddengys y gair yn gyntaf mewn cerdd fawl i Cadwallon ap Cadfan[7] sydd o bosib yn dyddio o'r 7c, a daw o'r gair Brythoneg combrogos (lluosog: combrogi) sy'n golygu "cydwladwr". Mae'r elfen bro yn parhau'n air am wlad neu ardal yn yr iaith fodern. Diflanodd y b tua'r flwyddyn 600, ond mae'r mb wedi aros yn y ffurf Ladin am y wlad, Cambria, yn ogystal â'r enwau Cumbria a Cumberland yng ngogledd Lloegr.[8] Yn yr 16g mabwysiadwyd y sillafiad "Cymru" i ddynodi'r wlad gan neilltuo "Cymry" ar gyfer y trigolion.[9]

Y gair Germaneg walh neu wealh (estron) yw bôn yr enw Saesneg ar Gymru. O'r un gair daw enw'r Walwniaid yng Ngwlad Belg. Defnyddid y ffurf luosog Wealas yn enw ar drigolion Brythoneg a Lladin eu hiaith ym Mhrydain gan y Saeson cynnar, a Cornwealas ar drigolion penrhyn Cernyw (y Corn). Dros amser daethpwyd y ffurfiau Wales a Welsh yn enwau'r Saesneg ar wlad a phobl Cymru.[8]

Hanes

Y Brythoniaid

Prydain ac Iwerddon ar ddechrau hyd at oddeutu 500 OC, cyn sefydlu teyrnasoedd yr Eingl-Sacsoniaid.     Brythoniaid     Pictiaid     Gwyddelod

Glaniodd Iŵl Cesar ym Mhrydain ym mis Awst 55 C.C., ond ni lwyddwyd i oresgyn Cymru (a oedd, fel gweddill Prydain, yn diriogaeth Geltaidd) am fwy na chanrif wedi hynny. Roedd llwythau Celtaidd Cymru — a oedd, yn ddiwylliannol, yn debyg iawn i'w cymdogion Brythonaidd yn ne Prydain — yn cynnwys y Silwriaid yn y de a'r Ordoficiaid yn y gogledd. Fe sefydlodd y Rhufeinwyr gadwyn o amddiffynfeydd dros dde Cymru, cyn belled â Chaerfyrddin (Maridunum). Mae tystiolaeth iddyn nhw fynd ymhellach i'r gorllewin a chroesi i Iwerddon. Adeiladasant 'gaer y lleng' Caerllion (Isca), lle mae'r amffitheatr sydd wedi goroesi orau ym Mhrydain. Roedd y Rhufeiniaid hefyd yn brysur yn y gogledd — mae hen chwedl, Breuddwyd Macsen Wledig, yn dweud wrth Macsen Wledig, un o ymerawdwyr olaf yr ymerodraeth yn y Gorllewin, briodi Helen ferch pennaeth Cymreig o Segontiwm (Caernarfon gyfoes). Mae'n debygol mai oherwydd eu hawch i fwyngloddio aur, plwm, copr ac arian, a sinc y gwladychodd y Rhufeiniaid Gymru.[10]

Darlun o Caradog

Dechreuodd goresgyniad y Rhufeiniaid yn 43 OC ac anfonwyd byddin o 40,000 i Brydain yn 48 OC.[11] Ar ôl gwrthwynebu'r Rhufeiniaid fel arweinydd y Catuvellauni, ffoiodd Caradog i'r gorllewin lle arweinodd y Silwriaid a'r Ordoficiad yn erbyn y Rhufeiniaid. Daliwyd Caradog a chymerwyd ef i Rufain yn 51 OC.[12][13]

Daliwyd Ynys Môn, cadarnle Derwyddon yr Ordoficiaid yn 61 OC a thorrwyd coed derw y derwyddon. Gadawodd y catrawd Rhufeinig i ymladd yn erbyn Buddug (Boudica) ond fe oresgynnwyd yr ynys eto yn 78 OC. Parhaodd y Silwres i ymladd gyda thactegau guerilla tan yr un cyfnod, 74-78 OC. Ar ei hanterth tua 70 OC roedd tua 30,00 o filwyr Rhufeinig yng Nghymru, ond roeddent yn cynnwys llwythau Nervii, Vettones a'r Astwriaid.[11] Ni choncwerwyd Prydain yn drylwyr tan 84 OC.[14]

Rhufeiniaid yn lladd derwyddon ar Ynys Môn (delwedd gan Moses Griffiths, 1781)

Erbyn 120 OC creodd y Silwriaid Senedd Llwythol yn Caer-went fel canolbwynt "civitas", gwladwriaeth dinesig a ddefnyddiodd system ariannol Rhufeinig. Fe ddaeth Caerfyrddin yn ganolbwynt i'r Demetae ond fe barhaodd ir Ordoficiad i wrthwynebu'r Rhufeiniaid yn y 3g a'r 4g ac mae eu tiroedd yn wag ar fapiau Rhufeinig, er gwaethaf presenoldeb milwyr.[11]

Dywed Gwyn Alf Williams y ganwyd Cymru yn 383 pan gadawodd Macsen Gymru sy'n ymddangos yn y gân Yma o Hyd; ond mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn anghytuno â hyn. Erbyn 393, dad-filwriwyd Cymru oherwydd roedd angen mwy o filwyr gan y Rhufeiniaid yn Gâl ac erbyn 410 gadawodd y catrodau Rhufeinig gan adael dim ond tasgfeistri ar ôl i "fflangellu ysgwyddau'r brodorion" yn ôl Gildas. Erbyn 400 cymysgwyd llawer o Ladin gyda'r Frythoneg ac fe gyfunwyd y traddodiadau a diwylliant Celtaidd gyda rhai Rhufeinig.[11]

Oes y seintiau

Eglwys Llanbadrig
Bedd gwreiddiol Arthur, Glastonbury

Derwyddiaeth oedd crefydd y Brythoniaid ond tystiodd awduron y cyfnod bod eglwysi Cristnogol ymysg y Celtiaid erbyn 169 OC; fod Brythoniaid wedi dod yn Gristnogion erbyn 208 ac yn 314 OC roedd tri esgob o Frythoniad yng Nghyngor Arles.[15] Sefydlwyd Eglwys annibynnol Gymreig/Brythonaidd cyn Eglwys Rufain ac Eglwys Loegr ac fe barhaodd i fod yn hollol annibynnol yn y cyfnod hwn.[16]

Yn 440 OC dywed i Sant Padrig sefydlu eglwys yn Llanbadrig yn Ynys Môn ac yn 470 eglwys lle sefir Eglwys Tyddewi heddiw.[17][18] Dywed Nennius i'r Brenin Arthur cael ei arwisgo ag arwyddlun frenhinol gan Dyfrig, esgob Llandaf yn Caerllion yn 517 OC cyn arwain y Brythoniaid i ryfel yn erbyn yr Eingl-Sacsoniaid. Claddwyd ef yn Glastonbury (dan reolaeth y Brythoniaid ar y pryd).[19] Yn ôl Rhygyfarch ap Sulien, gwnaed Dewi Sant yn Archesgob metropolitan Prydain a'r Brythoniaid yn Synod Brefi (Llanddewi Brefi).[20]

Teyrnasoedd cynnar Cymru

Teyrnasoedd canoloesol Cymru

Dechreuodd y cyfnod Eingl-Sacsonaidd ym Mhrydain tua'r 5g, ac ar yr un pryd ffurfiwyd teyrnasoedd yng Nghymru megis Powys, Ystrad Tywi, Gwent, Dyfed, Gwynedd, Morgannwg, Ceredigion, a Brycheiniog. Yn y 5g symudodd Cunedda o Foryd Forth i Wynedd a gyrru setlwyr Gwyddelig o Ben Llŷn.[21]

Gellir cysylltu'r teyrnasoedd Cymreig gyda thiroedd y llwythau a barhaodd trwy gydol y cyfnod Rhufeinig; Gwynedd gyda'r Ordoficiaid; Powys gyda'r Cornoficiaid; Gwent a Glywysing gyda'r Silwriaid; a Dyfed a a Deheubarth gyda'r Demetiaid. Ar ôl i Cunedda fudo i lawr o deyrnas Gododdin, cysylltwyd ei fab Ceredig gyda'r deyrnas Ceredigion a'i fab Meirion gyda Meirionydd. Dywed mae un o deyrn cynnar Glywysing (a ranodd yn hwyrach i Morgannwg, Gwynlliw a Gwent) oedd Emrys Wledig ac mai Gwrtheyrn a sefydlodd Gwerthrynion (Rhwng Gwy a Hafren).[22]

Gwahanwyd y Cymry a'r Cernywiaid ar ol brwydr ger Dyrham yn 577 OC. Curwyd Rheged a Manaw Gododdin yn yr Yr Hen Ogledd.[21] Dywed i Frwydr Caer yn 616 OC dorri'r cysylltiad tir rhwng Brythoniaid yr Hen Ogledd (Cumbria a gogledd ddwyrain Lloegr) a Chymru.[23] Llwyddodd teyrnas Ystrad Clud i amddiffyn ei hannibyniaeth tan yr 11g hwyr. Yn y cyfnod hwn, roedd y bardd Aneirin yn byw ym mhrifddinas teyrnas Manaw Gododdin sef Din Eidyn (Caeredin). Ysgrifenodd y gerdd enwog, y Gododdin, yn sôn am lwyth y Gododdin yn yr Hen Ogledd yn brwydro'n erbyn yr Eingl-Sacsoniaid yn y 590au;[21]

Gwyr a aeth Gatraeth oedd fraeth eu llu

Glasfeydd eu hancwyn a gwenwyn fu

Trichant mewn peiriant yn catau

Ac wedi elwch tawelwch fu...

Fe lwyddodd Powys i amddiffyn ei thiroedd rhag deyrnas Eingl-Sacsonaidd Mersia ac fe godwyd Croes Eliseg gan Cyngen ap Cadell i goffáu ymdrechion Elisedd ap Gwylog (ei daid), "Yr Eliseg hwnnw a gasglodd ynghyd etifeddiaeth Powys . . . allan o afael yr Eingl â'i gleddyf ac â thân". Yn yr 8g, fe gododd Aethelbald, brenin Mersia, Glawdd Wat ac yna cododd ei olynydd Offa, Glawdd Offa i gadw Brythoniaid Powys allan.[21]

Ymdrechion i uno Cymru

Gweler hefyd: Brenin Cymru
Teyrnasoedd dan reolaeth Rhodri Mawr

Ar ôl i Dŷ Gwynedd gael ei sefydlu gan Cunedda, daeth Rhodri Mawr yn frenin arni yn 844 OC a daeth Powys dan ei reolaeth yn yr un flwyddyn ar ôl marwolaeth ei ewythr.[24] Bu farw Cyngen ap Cadell yn Rhufain yn 854 a nodir darostyngiad olaf Powys i Wynedd yn 881-6. Ar ôl hyn, roedd un deyrnas dros Ogledd Cymru. Daw'r sôn nesaf am Bowys fel teyrnas annibynnol yn 1102.[25] Priododd Rhodri Mawr Angharad ferch Meurig gan ennill rheolaeth dros teyrnasoedd Ceredigion ac Ystrad Tywi (unwyd dan yr enw Seisyllwg). Rhodri oedd y cyntaf i uno rhannau sylweddol o Gymru tan y rhannwyd ei diroedd rhwng ei feibion ar ôl ei farwolaeth.[24]

Yn y flwyddyn 930, galwodd frenin yr Eingl-Sacsoniad Athelstan bron i holl frenhinoedd Cymru i'w lys yn Henffordd a chytunwyd mai'r Afon Gwy fyddai'r ffin yno. Gorfodwyd termau gwaradwyddus ar y Cymry a phwysleisiwyd statws israddol y frenhiniaeth Gymreig. Dywedir mai hyn ysbrydolodd y gerdd Armes Prydein.[26]

Hywel Dda

Yn y 10g, etifeddodd Hywel Dda dde Seisyllwg ac yn 942 fe lwyddodd i uno Cymru gyfan heblaw Morgannwg. Roedd Hywel yn gyfrifol am greu Cyfraith Cymreig Hywel a bu'r unig frenin Cymreig i gynhyrchu ei arian ei hun gyda "Hywel rex" arnynt.[24] Yn ôl y traddodiad, cynhaliodd gynulliad tua 945 yn Hendy-gwyn o chwech dyn o bob cantref yn ei deyrnasoedd er mwyn sefydlu cyfraith newydd. Roedd rhan fwyaf helaeth y cyfraith hwn yn cynnwys arferion Cymreig brodorol ac hefyd ychydig bach o ddylanwad Gwyddelig a Sacsonaidd. Yn y canrifoedd hwyrach, cydnabuwyd y cyfreithiau fel ffactor a unwyd y Cymry.[27] Ar ôl ei farwolaeth yn 950, rhannodd y teyrnasoedd unwaith eto.[24]

Erbyn 1039, fe lwyddodd Gruffudd ap Llywelyn i gymryd Gwynedd a Phowys.[24] Yn 1053, mewn cyfarfod gyd Gruffudd ap Llywelyn yn Beachley ac Edward y Cyffeswr wrth lan Clogwyn Aust ar ochr arall yr afon Hafren. Cydnabyddodd Gruffudd oruwch-arglwyddiaeth Edward y Cyffeswr ond doedd dim termau eraill i'w cwrdd.[26] Yn 1057 fe yrrodd ymaith deyrn Morgannwg ac wrth wneud, unodd Cymru gyfan am y tro cyntaf tan y lladdwyd ef yn 1063 gan Cynan ab Iago.[24]

Yr un flwyddyn, gorfodwyd hanner brodyr Gruffudd, Bleddyn ap Cynfyn a Rhiwallon ap Cynfyn i dalu gwrogaeth mwy costus i Edward.[26]

Brwydro gyda'r Normaniaid

Darlun 1900; "Gruffudd ap Cynan yng ngharchar Hugh d'Avranches yng Nghaer"

Ar ôl i Wiliam Goncwerwr ennill coron yr Eingl-Sacsoniaid yn 1066, bu brwydro dros diroedd Cymru am 25 mlynedd ac fe sefydlwyd "Pura Wallia" dan reolaeth y Cymry a'r Mers ("Marchia Wallia") dan reolaeth yr Normaniaid. Er gwaethaf hyn, erbyn 1100 enillodd y Cymry diroedd helaeth yn ôl oddi tan reolaeth Wiliam II gan gynnwys Gwynedd, Ceredigion a rhannau mawr o Bowys.[28] Tan y cyfnod hwn, bu Eglwys Cymru yn annibynnol o'r pâb Rhufeinig a'r Eglwys Seisnig ers oes Dewi Sant. Newidiwyd hyn pan benodwyd archesgob Normanaidd a gafodd ei annog gan Harri I i fod yn atebol i archesgob Caergaint.[29]

Yn 1081, unodd Rhys ap Tewdwr a Gruffudd ap Cynan i adennill Teyrnas Deheubarth a Gwynedd rhag y Normaniaid. Llwyddodd ymdrechion Rhys ond daliwyd Gruffudd a'i garcharu. Yn 1093, lladdwyd Rhys ger Aberhonddu ond llwyddodd Gruffudd i ddianc o'i garchar tua'r un cyfnod. Yn 1098 bu'n rhaid i Gruffudd ffoi eto i Iwerddon ond dychwelodd yn 1099, pan lladdwyd y Norman pwerus, Hugh de Montgomery gan Lychlynwyr. Erbyn y 1120au, fe lwyddodd Gruffudd i reoli rhan fwyaf o Wynedd.[30]

Yn y blynyddoedd ar ôl 1125, llwydodd mab Gruffydd ap Cynan, Cadwallon ap Gruffudd i ehangu tiroedd Gwynedd a etifeddwyd gan ennill arglwyddiaethau Rhos, Rhufoniog a Dyffryn Clwyd ac erbyn 1136 Meirionnydd. Ystyrir 1136 fel trobwynt, lle dinistriwyd byddin Eingl-Normanaidd yng Nghasllwchwr. Yn 1138, unodd wyrion Rhys ap Tewder (Anarawd ap Gruffudd a Cadell ap Gruffudd) gyda meibion Gruffydd ap Cynan, (Owain Gwynedd a Cadwaladr) i gwblhau concwest Ceredigion rhag y Normaniaid, heblaw Castell Aberteifi).[31]

Castell y Iâl (Castell y Rhodwydd) a sefydlodd Owain Gwynedd yn 1149

Yn 1141, disgrifiwyd Owain a'i frawd Cadwaladr yn frenhinoedd Gwynedd ac yn 1152, llwyddodd Owain i adennill ffiniau cyn-Normanaidd Gwynedd yn ogystal â rhannau o Bowys a Deheubarth. Yn 1150 rheolodd Hywel ab Owain Gwynedd Geredigion a Meirionydd ond erbyn 1153 adenillwyd Ceredigion gan deyrnas Deheubarth. Yn 1163, Malcolm brenin yr Alban, Rhys ap Gruffudd "tywysog y Cymru deheuol" ac Owain, "(tywysog y Cymry) gogleddol" ac arweinwyr eraill Cymru dalu gwrogaeth i Harri II, brenin Lloegr yng Nghyngor Woodstock.[32]

Tywysogion Cymru

Gweler hefyd: Oes y Tywysogion
Darlun 1909; Owain Gwynedd

Disgrifiodd Owain Gwynedd ei hun fel "Owinus, rex Wallie" ("Owain, brenin Cymru") yn ei lythr cyntaf o dri at frenin Ffrainc; yr ymdrech cyntaf gan arweinydd Cymreig i sefydlu perthynas diplomataidd gyda brenin ar gyfandir Ewrop. Yn 1163, dim ond 4 mis ar ol cyfarfod Woodstock, dechreuodd ddisgrifio'i hun fel "Tywysog y Cymry". Mewn ymateb, ysgrifennodd Thomas Beckett mewn llythyr at y Pab Alecsander III, "the Welsh and Owain who calls himself prince" ac fod "the lord king was very moved and offended". Roedd hyn yn arwyddocaol i Owain ac y byddai ef a'r brenin Harri yn gwybod yn iawn fod "princeps" yn cyfeirio at lywodraethwr sofran gwlad yng nghyfraith Rhufain.[33]

Castell y Bere, a godwyd gan Llywelyn Fawr

Yn 1201 fe ddaeth Llywelyn ap Iorwerth i'r amlwg gan ennill rheolaeth dros Wynedd a gwneud ei hun yn "Dywysog Gogledd Cymru gyfan", yn hwyrach defnyddiodd y teitl "Tywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri". Ar ôl dioddef o strôc yn 1237, trosglwyddodd ei bwerau i'w fab Dafydd ap Llywelyn a chasglodd arweinwyr eraill y wlad yn Abaty Ystrad Fflur ynghyd i dalu gwrogaeth iddo fel Tywysog Cymru.[34]

Castell Dolbadarn a godwyd gan Llywelyn ein Llyw Olaf

Erbyn 1258 fe ddaeth Llywelyn ap Gruffudd i reoli bron y cyfan o "Gymru Gymreig" (Pura Wallia) a dechreuodd ddefnyddio teitl Tywysog Cymru. Mae'r awdur John Gower yn awgrymu bod hyn yn awgrymu bod y rhan fwyaf neu bob un o'r tywysogion Cymreig wedi talu gwrogaeth iddo. Wedi iddo ymestyn ei reolaeth i lawr i'r Bannau Brycheiniog yn 1262, sefydlodd Cytundeb Trefaldwyn yn 1267 lle cytunodd Harri III, brenin Lloegr i gydnabod Llywelyn fel Tywysog Cymru. Yn 1277, gorfododd ymosodiad Edward I i Llywelyn dderbyn Cytundeb Aberconwy, gan olygu y byddai'n colli llawer o'r tir a enillwyd yn flaenorol, ond yn cadw teitl Tywysog Cymru.[34]

Diwedd annibyniaeth Cymru

Cofeb Llywelyn yng Nghilmeri lle lladdwyd

Yn 1282, fe wnaeth trethi newydd a cham-drin swyddogion lleol y goron arwain at wrthryfel Cymreig. Cynigwyd iarllaeth Seisnig i Llywelyn ond ymatebodd Llywelyn fod pobl Eryri yn;

anfodlon gwneud gwrogaeth i ddieithryn y mae ei iaith, ei arferion a'i ddeddfau yn gwbl anghyfarwydd iddynt. Os pe bai hynny'n digwydd gallent gael eu caethiwo am byth a chael eu trin yn greulon.
Y Bardd (1774), gan Thomas Jones, yn seiliedig ar Gyflafan y beirdd

Ar ôl teithio i'r de, gwahanwyd Llywelyn oddi wrth ei filwyr a lladdwyd ef ger Llanfair-ym-Muallt; dyma oedd diwedd annibyniaeth Cymru. Anfonwyd ei ben i Lundain, a'i roi ar bicell ar giât Tŵr Llundain a'i goroni gyda eiddew, symbol o fod tu hwnt i'r gyfraith. Safodd y pen ar y giât am o leiaf pymtheg mlynedd. Daliwyd ei frawd Dafydd chwe mis wedi hynny, ac ef oedd y person nodedig cyntaf i gael ei grogi, diberfeddu a chwarteru. Cymerwyd meibion Dafydd i gastell Seisnig lle cysgodd un ohonynt mewn cawell am gyfnod. Cymerwyd y Dywysoges Gwenllian i fynachlog Seisnig am ei bywyd cyfan heb allu siarad Cymraeg. Cyhoeddodd Statud Rhuddlan 1284 fod Pura Wallia yn "annexed an united to the crown of the said kingdom as part of the said body". Adeiladodd Edward res o gestyll mawr i gadw'r Cymry dan reolaeth — gan gynnwys cestyll Rhuddlan, Conwy, Caernarfon, Biwmares, a Harlech. Cymerwyd Tlysau Coron Cymru a chreiriau sanctaidd i gysegr Edward y Coffeswr yn San Steffan. Enwyd fab brenin Lloegr yn "dywysog Cymru" yn 1301 yng Nghaernarfon a pherchnogwyd holl diroedd y teuluoedd a rhyfelodd yn erbyn y goron Seisnig. Yn ôl un bardd, "Ac yna taflwyd Cymru oll i'r llawr".[35]

Canoloesoedd hwyr

Cofeb Madog ap Llywelyn, Eglwys yr Holl Saint ger Wrecsam.

Bu gwrthryfel Madog ap Llywelyn yn 1294 ac yn 1295. Yr un flwyddyn pasiwyd y cyntaf o'r Deddfau Penyd yn erbyn Cymru. Yn 1316, bu gwrthryfel Llywelyn Bren. Bu dau gyfnod newyn yn hanner cyntaf y ganrif ac yna daeth tair afiechyd i'r byd gorllewinol yn 1347-51 gan gynnwys 'Y Farwolaeth Fawr' lle bu farw chwarter o boblogaeth Cymru yn 1349-50. Yn 1300, poblogaeth Cymru oedd tua 300,000, ond erbyn diwedd y ganrif roedd tua 200,000.[36]

Cerflun Owain Glyn Dŵr, Corwen

Cyhoeddwyd Owain Glyn Dŵr yn dywysog Cymru ar 16 Medi 1400 yn Glyndyfrdwy gyda 300 o gefnogwyr. Cefnogwyd Glyndŵr gan Rhys ap Tudur Fychan, Gwilym ap Tudur, Rhys Ddu, Rhys Gethin, Gwilym Gwyn ap Rhys Llwyd ac yn 1401, Henry Dunn a roddodd gyngor ar frwydro. Enillodd Gwilym ap Tudur Conwy yn 1401 ac enillodd Glyndŵr Frwydr Hyddgen. Lladdwyd un o gefnogwyr Glyndŵr, Llywelyn ap Gruffudd Fychan gan y brenin yn 1401 a dechreuwyd Deddfau Penyd yn erbyn Cymru yn 1402. Cynhaliwyd Seneddau ym Machynlleth yn 1404 ac yn Harlech yn 1405. Ysgrifennwyd Lythyr Pennal yn 1406 gan gynnwys ei weledigaeth dros adfer Eglwys annibynnol Cymru a'i chanolbwynt yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn ogystal a chreu prifysgolion yn Ne a Gogledd Cymru. Yn 1408 collwyd cestyll Aberystwyth a Harlech a llosgwyd ei gartref Sycharth a bu brwydrau ola'r gwrthryfel yn 1412. Bu farw ei fab Gruffudd yn 1411 yn nhŵr Llundain ac hefyd yn hwyrach ei wraig Margaret Hanmer a'i ferched Alys a Catrin.[37] Roedd Llythyr Pennal a Sêl Fawr Owain yn symbolau o hyder y cyfnod. Fe wrthododd Maredudd ab Owain Glyn Dŵr bardwn swyddogol tan 1421.[38]

Cyfnod modern cynnar

Taith Harri Tudur trwy Gymru, 1485

Wedi hyn bu Rhyfeloedd y Rhosynnau lle ranwyd cefnogaeth y Cymry. Bu Harri Tudur yn byw'n alltud yn Llydaw a defnyddiodd draddodiad barddol proffwydol Cymreig (Mab Darogan) a'i daid oedd Owain ap Maredudd (Owain Tudur) a oedd yn gefnder i Owain Glyndŵr. Enillodd gefnogaeth yng Nghymru ar ôl dweud, "ein tywysogaeth ni o Gymru a'r bobl o'r un peth i'w rhyddid blaenorol, gan eu traddodi o'r fath gaethwasanaethau truenus ag y buont yn druenus ers tro byd". Glaniodd ym Mae'r Felin ym Mhenrhyn Dale ym Mhenfro, enillodd Brwydr Maes Bosworth gan chwifo 'Draig Goch Cadwaladr". Gwelwyd buddugoliaeth 1485 fel un Cymreig gan Gymry.[39]

Ar ôl i Harri VIII wneud ei hun yn bennaeth Eglwys Lloegr yn 1534, gwelwyd Cymru fel problem bosibl a oedd yn cynnwys dynion uchelgeisiol a oedd yn anhapus a'i hanfantais ethnig ac yn rhwystredig gyda chymhlethdodau cyfreithiol. Bu Cymru hefyd yn dir glanio i Harri Tudur ac yn agos at Iwerddon Gatholig. Prif weinyddwr coron Lloegr, Thomas Cromwell, a anogodd y Deddfau yn 1536 a 1542-43 i wneud Cymru yn rhan o Loegr. Diddymwyd y Mers ac ehangwyd Tywysogaeth Cymru dros Gymru cyfan. Dilewyd y Gyfraith Gymreig. Disgrifiwyd Cymru fel "Tywysogaeth, Gwald neu Diriogaeth" a ffurfiwyd ffin â Lloegr. Caniatawyd i Gymry ddal swyddi cyhoeddus ond gyda â'r gofyniad i allu siarad Saesneg a gwnaed Saesneg yn iaith y llysoedd.[40]

Crefydd, rhyfel cartref a gwella addysg

Yr esgob William Morgan gyda'i feibl

Newidiodd y crefydd swyddogol o Gatholigiaeth i Brotestaniaeth yn 1533, yn ôl i Gatholigiaeth yn 1553-1558 ac yna'n ôl i Brotestaniaeth gyda Elisabeth I. Cyfieithodd William Morgan y Beibl i'r Gymraeg yn 1588 ar ôl lobïo gan Brotestaniaid o Ogledd Cymru i San Steffan orchymyn cyfieithiad o'r Beibl i'r Gymraeg er mwyn sicrhau diwygiad y Cymry. Daeth rhannau o Gymru megis Dinbych-y-pysgod yn fwy cyfoethog erbyn diwedd ei theyrnasiad ond roedd Cymru'n parhau i fod yn wlad tlawd annatblygedig heb ddosbarth canol cryf.[41]

Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, bu rhan fwyaf o uchelwyr Cymreig yn Cefnogi'r Stiwartiaid oherwydd fod James I yn ddisgynnydd i Harri Tudur a welwyd fel brenin Cymreig. Bu brwydrau ffyrnig yng Nghymru gan gynnwys Brwydr Sain Ffagan yn 1648.[41]

William Williams, Pantycelyn

Daeth y Diwygiad Methodistaidd i'r amlwg fel mudiad annibynnol yng Nghymru a arweiniwyd gan Howel Harris a Daniel Rowland yn yr 18g. Daeth William Williams, Pantycelyn i'r amlwg yn yr un cyfnod, yn enwedig fel awdur 800 o emynau.[42][42]

Yn yr un cyfnod chwaraeodd Griffith Jones, Llanddowror rôl pwysig yn y system addysg Gymreig a sefydlodd system o ysgolion i ddysgu pobl Cymru i ddarllen a system ysgolion teithio yn 1737 i helpu pobl cefn gwlad i ddarllen y Beibl. Bu hyd yn oed Catherine fawr Rwsia yn awyddus i ddefnyddio'r system ar ôl clywed amdani. Yn yr un cyfnod, bu mudiad Celtaidd a sefydlwyd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn Llundain yn 1751.[42]

Welsh Not yn amgueddfa Cymru Sain Ffagan. Defnyddiwyd yn Ysgol Pontgarreg, Llangrannog, 1852

Bu ymdrech eang i ormesu'r Gymraeg a welwyd gyda'r Welsh Not. Mewn ymateb i bryder dyn busnes Cymreig ac aelod San Steffan am anfantais y Cymry o beidio â allu siarad Saesneg bu adroddiad y Llyfrau Gleision, lle disgrifiwyd y Gymraeg fel iaith gyda "evil effects" a'r Cymry fel pobl anfoesol tu hwnt a bu teimladau o gywilydd ymysg y Cymry. Er gwaethaf hyn, bu cyfres o ymatebion chwyrn gan gynnwys yr enwog Brad y Llyfrau Gleision gan Robert Jones Derfel.[42]

Sefydliadau cenedlaethol

Gweler hefyd: Hanes modern Cymru
Cofeb i awduron Hen Wlad fy Nhadau, Evan James a James James, Pontypridd

Bu hefyd geni cenedlaetholdeb amddiffynnol yng Nghymru a ffurfiwyd sefydliadau cenedlaethol megis Cymdeithas Hynafiaethau Cymru yn 1846 a Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a Undeb Bedyddwyr Cymru. Daeth Hen Wlad fy Nhadau i'r amlwg.[42] Ar ddiwedd y 19g ffurfiwyd nifer o sefydliadau cenedlaethol eraill gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 1861[43],Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 1876[44], Undeb Rygbi Cymru yn 1881[45] a Phrifysgol Cymru yn 1893.[46]

Deddf Cau ar y Sul (Cymru) 1881 oedd y ddeddfwriaeth gyntaf i gydnabod statws Cymru ar wahân i Lloegr ers y Deddfau 1536-43 ac erbyn 1889 bu Deddf Addysg Ganolraddol Cymru 1889 a ganiataodd ffurfio ysgolion uwchradd wladol.[47][42]

Yn Ebrill 1887 sefydlodd Tom Ellis fudiad Cymru Fydd yn Llundain gyda phrif amcan o sefydlu corff deddfu cenedlaethol dros Gymru (ymreolaeth, ond ni awgrymwyd annibyniaeth) ac hefyd er mwyn sicrhau aelodau seneddol a fyddai'n cynrychioli Cymru'n drwyadl. Sefydlwyd hefyd Cyngor Cenedlaethol Cymru i gynrychioli'r blaid Rhyddfrydol yr un flwyddyn. Lansiwyd cylchgrawn o'r un enw yn 1888 o Ddolgellau; yn agos i le bu Tom Ellis yn byw.[48]

Ar ddechrau'r 20g gwelwyd hefyd ffurfiant parhaus nifer o sefydliadau cenedlaethol Cymreig gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1911[49], y Gwarchodlu Cymreig yn 1915[50] a Bwrdd Iechyd Cymru yn 1919.[51] Yn 1914, pasiwyd Ddeddf Elwgysi Cymru a arweiniodd at ddatgysylltu'r Eglwys yng Nghymru yn 1920.[52]

Yn 1925 sefydlwyd Plaid Genedlaethol Cymru a'i hailenwyd yn Blaid Cymru yn 1945. Egwyddorion y blaid a ddiffiniwyd yn 1970 oedd; hunanlywodraeth i Gymru; diogelu diwylliant, traddodiadau, iaith a sefyllfa economaidd Cymru; asicrhau aelodaeth i wladwriaeth Gymreig hunanlywodraethol yn y Cenhedloedd Unedig.[53]

Datganoli

Rali Senedd i Gymru mewn 5 mlynedd, Machynlleth, 1949

Ar 1 Hydref 1949, bu rali ym Machynlleth er mwyn hybu Ymgyrch Senedd i Gymru, cyn ei lansio'n swyddogol ar 1 Gorffennaf 1950 mewn rali arall yn Llandrindod. Arweiniodd hyn at gyflwyno deiseb 240,652 o enwau i Dŷ’r Cyffredin yn 1956. Helpodd yr ymgyrch sefydlu Swyddfa Gymreig ac Ysgrifennydd Gwladol i Gymru. Methodd y refferendwm 1979 ond cafwyd Cynulliad Cenedlaethol yn 1997.[54] Pasiwyd Deddf Llywodraeth Cymru 1998 a ffurfio Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. Trosglwyddodd y ddeddf bwerau o Ysgrifennydd Gwladol Cymru i'r Cynulliad (Senedd Cymru bellach).[55]

Agorwyd adeilad newydd y Senedd ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2006. Yn yr un flwyddyn pasiwyd ddeddf yn gwahaniaethu Llywodraeth Cymru oddi wrth y Cynulliad. Caniataodd y ddeddf i aelodau cynulliad i greu deddfwriaeth sylfaenol am y tro cyntaf.[56]

Yn 2011, pleidleisiodd etholwyr Cymru mewn refferendwm o blaid pwerau deddfu llawn i'r Cynulliad yn y meysydd y mae’n gyfrifol amdanynt. Pasiwyd Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 a oedd yn cynnwys trethu a benthyca a ddatganolwyd gan Ddeddf Cymru 2014. Gwnaeth Deddf Cymru 2017 Gynulliad Cenedlaethol Cymru'n rhan barhaol o gyfansoddiad y Deyrnas Unedig. Ar ôl pasio Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 newidiwyd enw'r Cynulliad Cenedlaethol i Senedd Cymru.[56]

Gwleidyddiaeth

Y prif weinidog Mark Drakeford yn cwrdd a phrif weinidog Yr Alban Humza Yousaf, Caeredin, 2023

Mae Cymru'n wlad sy'n rhan o'r Deyrnas Unedig.[57] Brenhiniaeth seneddol yw'r Deyrnas Unedig, a ddisgrifir yn un ddemocrataidd.[58] Llywodraethir Cymru gan system Model Cadw Pwerau, lle restrir holl faterion dan reolaeth Senedd y Deyrnas Unedig, gyda'r gweddill o dan reolaeth Senedd Cymru.[59] Mae Cymru yn ethol 40 aelod i Senedd y Deyrnas Unedig.[60]

Mae Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cefnogi Ysgrifennydd Cymru ac Is-Ysgrifenyddion Gwladol Seneddol gan gynrychioli Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru ac yn cynrychioli Cymru yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig.[61]

Rheolir llywodraeth leol yng Nghymru gan 22 o awdurdodau unedol.[62]

Senedd Cymru

Senedd Cymru

Mae Senedd Cymru yn gorff etholedig sy'n cynrychioli Cymru a’i phobl ac yn deddfu ar gyfer Cymru ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.[63]

Cafodd y Senedd ei sefydlu yn 1997 ar ôl refferendwm datganoli i Gymru. Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd yr enw gwreiddiol, cyn mabwysiadu'r enw Senedd Cymru yn 200. Mae gan y Senedd 60 o aelodau, ond mae cynlluniau i gynyddu hyn i 96. Ar hyn o bryd mae 30 aelod Llafur Cymru, 16 aelod Ceidwadwyr Cymreig, 12 aelod Plaid Cymru, 1 o’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ac 1 annibynnol. Bydd etholiad nesaf Senedd Cymru ar Fai 7, 2026.[64]

Heddlu a Lluoedd Arfog

Ceir Heddlu, Caerdydd

Mae gan Gymru bedwar heddlu, Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent. Mae prif heddwas Dyfed-Powys wedi galw am un llu "Heddlu Cymru" erbyn 2030.[65]

Yn y lluoedd arfog yng Nghymru, y Fyddin sydd â’r presenoldeb fwyaf gyda dros 1,400 o bersonél. Yn 2019 roedd 3,230 o bersonél milwrol a sifil wedi’u lleoli yng Nghymru. Roedd hefyd dros 60 o sefydliadau a chanolfannau'r Weinyddiaeth Amddiffyn, gan gynnwys canolfannau wrth gefn a chyfleusterau hyfforddi.[66][67]

Daearyddiaeth

Cymru o'r gofod

Yn y canol oesoed diweddar, cantrefi a chymydau oedd yn ffinio ardaloed Cymru, a nodwyd gan Gruffudd Hiraethog yn y 16g.[68] Yn 1996 crëwyd 22 o 22 prif awdurdod ar gyfer prif ardaloedd newydd Cymru.[69] Mae gan Gymru saith dinas, sef Bangor, Caerdydd (prifddinas Cymru), Casnewydd, Llanelwy, Tyddewi, Abertawe a Wrecsam.[70]

Mae tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru: Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Parc Cenedlaethol Eryri a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.[71] Gan gan Gymru bedwar safle sydd â statwsTreftadaeth Byd UNESCO; Cestyll Biwmares, Harlech, Caernarfon, a Chonwy ers 1986; ardal ddiwydiannol Blaenafon ers 2000; Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte ers 2009; a'r diweddaraf yw Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru.[72]

Bioamrywiaeth

Adar

Barcud Coch, Rhaeadr

Oherwydd ei harfordir hir, mae Cymru yn gartref i amrywiaeth o adar môr. Mae'r arfordiroedd a'r ynysoedd cyfagos yn gartref i nythfeydd o huganod, adar drycin Manaw, palod, gwylanod coesddu, mulfilod a llursod. Mewn cymhariaeth, gyda 60 y cant o Gymru yn uwch na’r gyfuchlin 150m, mae’r wlad hefyd yn cynnal amrywiaeth o adar cynefin yr ucheldir, gan gynnwys y gigfran a mwyalchen y mynydd.[73][74] Mae adar ysglyfaethus yn cynnwys y cudyll bach, boda tinwyn a'r barcud coch, symbol cenedlaethol o fywyd gwyllt Cymru. At ei gilydd, mae mwy na 200 o wahanol rywogaethau o adar wedi’u gweld yng ngwarchodfa’r RSPB yng Nghonwy, gan gynnwys ymwelwyr tymhorol.[75]

Mamaliaid

Bu farw mamaliaid mwy, gan gynnwys eirth brown, bleiddiaid a chathod gwyllt, allan yn ystod cyfnod y Normaniaid. Heddiw, mae mamaliaid yn cynnwys chwistlod, llygod pengrwn, moch daear, dyfrgwn, carlymod, gwencïod, draenogod a phymtheg rhywogaeth o ystlumod. Mae dwy rywogaeth o gnofilod bach, y llygoden wddf felen a'r pathew, o bwys Cymreig arbennig i'w cael ar y ffin nad oedd yn cael ei tharfu yn hanesyddol. [76] Nid yw'r bele, sy'n cael ei weld yn achlysurol, wedi'i gofnodi'n swyddogol ers y 1950au. Bu bron i'r ffwlbart gael ei yrru i ddifodiant ym Mhrydain, ond fe barhaodd yng Nghymru ac mae bellach yn lledu'n gyflym. Mae geifr gwyllt i'w cael yn Eryri. [77] Ym mis Mawrth 2021, rhoddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) drwydded i ryddhau hyd at chwe afanc yn Nyffryn Dyfi, sef y rhyddhad swyddogol cyntaf o afancod yng Nghymru.[78]

Bywyd Morol

Pâl, Ynys Sgomer

Mae dyfroedd de-orllewin Cymru Gŵyr, Sir Benfro a Bae Ceredigion yn denu anifeiliaid morol, gan gynnwys heulforgwn, morloi llwyd yr Iwerydd, crwbanod cefn lledr, dolffiniaid, llamhidyddion, sglefrod môr, crancod a chimychiaid. Mae Sir Benfro a Cheredigion, yn arbennig, yn cael eu cydnabod fel ardal o bwysigrwydd rhyngwladol i ddolffiniaid trwyn potel, ac yng Nghei Newydd mae unig gartref haf dolffiniaid trwyn potel yng ngwledydd Prydain[angen ffynhonnell]. Mae pysgod afon o bwys yn cynnwys torgoch, llysywen, eog, gwangod, aderyn y waun a thorgoch yr Arctig, tra bod y gwyniad yn unigryw i Gymru, a geir yn Llyn Tegid yn unig. Mae Cymru'n adnabyddus am ei physgod cregyn, gan gynnwys cocos, llygaid meheryn, cregyn gleision a gwichiaid. Penwaig, macrell a cegddu yw'r rhai mwyaf cyffredin o bysgod morol y wlad. Mae tiroedd uchel Eryri sy’n wynebu’r gogledd yn cynnal fflora cyn-rewlifol creiriol gan gynnwys lili eiconig yr Wyddfa.[79] Mae gan Gymru nifer o rywogaethau planhigion nad ydynt i’w cael yn unman arall yn ngwledydd Prydain, gan gynnwys y cor-rosyn mannog Tuberaria guttata ar Ynys Môn a Draba aizoides ym Mhenrhyn Gŵyr.[80]

Economi

Yr arian a ddefnyddir yng Nghymru yw'r Bunt, a gynrychiolir gan y symbol £. Banc Lloegr yw'r banc canolog, sy'n gyfrifol am gyhoeddi arian cyfred, ac mae'n cadw cyfrifoldeb am bolisi ariannol a dyma fanc canolog y Deyrnas Unedig. Mae’r Bathdy Brenhinol, sy’n dosbarthu’r darnau arian a ddosberthir ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, wedi’i leoli ar un safle yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf ers 1980, ar ôl trosglwyddo’n raddol weithrediadau o’u safle Tower Hill, Llundain o 1968.[81]

Tŷ cwmni Admiral yng Nghaerdydd; cyflogwr preifat mwyaf Cymru gyda 7,000 o weithwyr[82]

Mae CMC (GDP) Cymru wedi cynyddu o £37.1 biliwn yn 1998 i £79.3 biliwn yn 2019, £75.7 biliwn yn 2020 ac yna £79.7 biliwn yn 2021.[83][84][85]

Yn dilyn Brexit, cyhoeddodd llywodraeth y Deyrnas Unedig ym mis Ebrill 2022 y byddai Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF) yn disodli cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd. Mae Llywodraeth Cymru wedi beirniadu’r cyfanswm o £632 miliwn dros 2020 i 2023 a ddyrannwyd i Gymru, gan nodi bod Cymru’n cael ei thanariannu o £1.1 biliwn gan lywodraeth y Deyrnas Unedig.[86]

Mae cwmnïau a busnesau Cymreig wedi cael eu disgrifio fel "asgwrn cefn economi Cymru".[87][88] Mae 99% o'r busnesau yng Nghymru yn Fusnesau Bach a Chanolig (BBaChau), sy'n cyflogi llai na 250 o bobl, a'r mwyafrif ohonynt yn ficro-sefydliadau, hynny yw maent yn cyflogi llai na 10 o weithwyr. Er y nifer fawr o fusnesau bach a chanolig, y prif gyflogwr yng Nghymru yw'r sector cyhoeddus.[89]

Trafnidiaeth

Gorsaf Caerdydd Canolog

Mae gan wibffordd yr A55 rôl debyg ar hyd arfordir Gogledd Cymru, gan gysylltu Caergybi a Bangor â Wrecsam a Sir y Fflint. Mae hefyd yn cysylltu â gogledd-orllewin Lloegr, Caer yn bennaf.[90] Y prif gyswllt rhwng gogledd a de Cymru yw'r A470, sy'n rhedeg o Gaerdydd i Landudno.[91]

Map y ffordd A470

Llywodraeth Cymru sy’n rheoli’r rhannau hynny o rwydwaith rheilffyrdd Prydain yng Nghymru, drwy gwmni gweithredu trenau Trafnidiaeth Cymru. [92] Mae gan ranbarth Caerdydd ei rwydwaith rheilffyrdd trefol ei hun. Mae toriadau Beeching yn y 1960au yn golygu bod y rhan fwyaf o'r rhwydwaith sy'n weddill wedi'i anelu at deithio o'r dwyrain i'r gorllewin gan gysylltu â phorthladdoedd Môr Iwerddon ar gyfer llongau fferi i Iwerddon.[93] Mae gwasanaethau rhwng gogledd a de Cymru yn gweithredu drwy ddinasoedd Lloegr Caer a Henffordd a threfi Amwythig, Croesoswallt a Threfyclo ar hyd Lein y Gororau. Mae trenau yng Nghymru yn cael eu pweru gan ddisel yn bennaf ond mae cangen Prif Linell De Cymru o Brif Linell Great Western a ddefnyddir gan wasanaethau o Paddington Llundain i Gaerdydd yn cael ei thrydaneiddio, er bod y rhaglen wedi profi oedi sylweddol a gorwario costau.[94][95][96]

Maes Awyr Caerdydd yw maes awyr rhyngwladol Cymru. Yn darparu cysylltiadau â chyrchfannau Ewropeaidd, Affrica a Gogledd America, mae tua 12 milltir (19 km) i'r de-orllewin o ganol dinas Caerdydd, ym Mro Morgannwg. Roedd hediadau o fewn Cymru yn arfer rhedeg rhwng Ynys Môn (y Fali) a Chaerdydd, ac fe’u gweithredwyd ers 2017 gan Eastern Airways.[97] Nid yw’r hediadau hynny ar gael mwyach, o 2022 ymlaen. Mae hediadau mewnol eraill yn gweithredu i ogledd Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae gan Gymru bedwar porthladd fferi masnachol. [98]

Mae gwasanaethau fferi rheolaidd i Iwerddon yn gweithredu o Gaergybi, Doc Penfro ac Abergwaun. Cafodd y gwasanaeth o Abertawe i Gorc ei ganslo yn 2006, ei adfer ym mis Mawrth 2010, a’i dynnu’n ôl eto yn 2012.[99][100]

Addysg

Prifysgol Bangor

Mae prifysgolion Cymru yn cynnwys Prifysgol Aberystwyth a sefydlwyd yn 1872, sef prifysgol hynaf Cymru; Prifysgol Bangor sydd wedi'i hadnabod fel prifysgol yng Nghymru â'r gradd creadigol orau; Prifysgol Metropolitan Caerdydd sydd yn ffocysu ar gyrsiau ymarferol ac enillodd wobr ariannol am ragoriaeth dysgu yn 2017: Prifysgol Caerdydd, sef prifysgol gorau Cymru yn ôl un canllaw yn 2020; Prifysgol Abertawe, prifysgol y flwyddyn yn 2019; Prifysgol De Cymru a sefydlwyd yn 2013 a enillodd prifysgol seibr (cyfrifiadurol) y flwyddyn 2019: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, y prifysgol orau yng Nghymru am y gymuned ddysgu yn 2018; Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a ddaeth yn ail ar draws y Deyrnas Unedig am foddhad myfyrwyr.[101][102]

Iechyd

Ysbyty Athrofaol Cymru

Mae GIG Cymru yn darparu gwasanaeth iechyd gwladol i tua 3 miliwn o bobl sy'n byw yng Nghymru. Ariennir y gwasanaeth yn gyhoeddus, a Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am strategaeth gofal iechyd Cymru drwy saith Fwrdd Iechyd Lleol Cymru, y tair Ymddiriedolaeth a'r ddau Awdurdod Iechyd Arbennig. Egwyddor y Gwasanaeth Iechyd yw y dylai pawb gael mynediad at wasanaeth iechyd yn rhad ac am ddim.[103]

Demograffeg

Poblogaeth

Yn ôl Cyfrifiad 2021 yr oedd 3,107,500 o bobl yn byw yng Nghymru, sy'n rhoi dwysedd o 149.6/km².[104]

Iaith

Yn ôl cyfrifiad 2021, mae 17.8% o boblogaeth Cymru yn gallu siarad Cymraeg, sef 538,000 o bobl. Yn 2011 roedd 19% o Gymry yn siarad Cymraeg.[105]

Diwylliant

Cerddoriaeth

Cantores Duffy

Mae gan Gymru'r llys enw ‘Gwlad y Gân’, a thraddodiad canu lle mae'r genedl wedi eu magu wrth ganu yn yr ysgol ysgol, mewn partïon ac yn y capel. Mae'r Cymry yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, sef yr ŵyl lenyddol gystadleuol a cherddoriaeth fwyaf Ewrop. Mae canu a chanu côr yn rhan o hunaniaeth a thraddodiad Cymru fel y dwedir yn nofel Richard Llewellyn How Green Was My Valley (1941) , 'Mae fy mhobl yn canu fel mae llygaid yn gweld'.[106]

Llenyddiaeth

Mae'r Gododdin yn enw ar gasgliad o dros gant o bennillion yn Gymraeg o ail hanner y 6g a oedd wedi datblygu o'r iaith Brythoneg.[107]

Chwaraeon

Monolith o fathodyn pêl-droed Cymru a Gareth Bale yng Nghastell Caerdydd

Er bod caeau pêl droed wedi bod yn hanner gwag ar adegau, mae pêl-droed wedi dod yn fwy poblogaidd yng Nghymru wrth i dîm pêl-droed Cymru brofi llwyddiant. Adnabyddir y cefnogwyr heddiw fel y Wal Goch. Mae'r rhan fwyaf o gemau rhyngwladol y tîm dynion bellach o flaen torfeydd llawn a bu record o 15,000 yn gwylio'r tîm merched fis Hydref 2022 mewn gêm rhagbrofol Cwpan y Byd. Mae'r gêm bellach yn gysylltiedig â ffasiwn, cerddoriaeth a gwleidyddiaeth unigryw ac mae'r Wal Goch yn symbol o hunaniaeth gyda'r gân Yma o Hyd i'w glywed mewn gemau.[108]

Tîm rygbi Cymru o flaen y Senedd ar ôl ennill y Gamp Lawn yn 2012

Dywedir rhai mai rygbi a helpodd i ffurfio cenedligrwydd Cymru a bod Tîm rygbi cenedlaethol Cymru yn rhan o hunaniaeth Gymreig. Daeth y gêm i'r amlwg tua diwedd y 19g ac yna ffynnu ym mlynyddoedd cynnar y 20g gan roi Cymru ar lwyfan y byd.[109] Cyn rygbi, roedd y gem Cnapan yn bodoli yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru cyn y 19g, ac yn gêm debyg i rygbi.[110] Hyd at ddiwedd y 19g roedd y gêm tîm boblogaidd Bando yn cael ei chwarae trwy Gymru, yn enwedig ym Morgannwg.[111]

Mae Cymry wedi cael llwyddiant ym mhencampwriaeth dartiau'r byd. Mae enillwyr yn cynnwys Gerwyn Price, Leighton Rees, Richie Burnett, Mark Webster a Wayne Warren.[112] Mae'r Cymro Mark Williams wedi ennill pencampwriaeth snwcer y Byd dair gwaith gan gynnwys 2018.[113] Yn yr un flwyddyn, fe ddaeth Geraint Thomas yn fuddugol Tour de France, y Cymro cyntaf i wneud hynny, ac hefyd y Tour de Suisse yn 2022.[114] Mae Cymry hefyd wedi cael llwyddiant yn y Gemau Olympaidd. Jade Jones oedd y gyntaf o Gymru i ennill medal aur unigol yn 2012 ac eto yn 2016.[115] Ian Woosnam oedd y Cymro cyntaf, a'r unig un hyd yma, i ennill Cystadleuaeth y Meistri (Masters) yn 1991.[116] Mae Cymry hefyd wedi ennill pencampwriaeth y byd mewn bocsio, gan gynnwys Joe Calzaghe, Enzo Maccarinelli a Gavin Rees.[117] Yn ogystal, enillodd Lauren Price y fedal aur bocsio pwysau canol yng Ngemau Olympaidd 2021.[118]

Coginiaeth

Pice ar y maen

Mae bwydydd Cymreig traddodiadol yn cynnwys bara ceirch cawl Cymreigpice ar y maen/teisen gribara lawrbara brithselsig Morgannwg, a Caws pob (Welsh rarebit).[119][120]

Symbolau cenedlaethol

Baner y Ddraig Goch

Heddiw, mae Cymru’n cael ei hystyried yn genedl Geltaidd fodern, ac mae hynny'n cyfrannu at hunaniaeth genedlaethol Cymru.[121][122] Gwahoddir artistiaid Cymreig yn gyson i wyliau Celtaidd hefyd.[123]

Mae’r ddraig goch yn symbol pwysig o hunaniaeth genedlaethol a balchder yng Nghymru a dywedir ei bod yn personoli dewrder y genedl Gymreig.[124] Cyfeirir at y ddraig gyntaf mewn llenyddiaeth fel symbol o'r bobl yn yr Historia Brittonum. Mae Gwrtheyrn, brenin y Brythoniaid Celtaidd yn cael ei rwystro rhag adeiladu caer yn Ninas Emrys. Dywed Ambrosius iddo gloddio am ddwy ddraig o dan y castell. Mae'n darganfod y ddraig goch sy'n cynrychioli'r Brythoniaid Celtaidd a draig wen sy'n cynrychioli Eingl-Sacsoniaid. Mae Ambrosius yn proffwydo y bydd y Brythoniaid Celtaidd yn adennill yr ynys ac yn gwthio'r Eingl-Sacsoniaid yn ôl i'r môr.[125] Fel symbol, cafodd y ddraig goch ei defnyddio ers teyrnasiad Cadwaladr, Brenin Gwynedd o tua 655 OC ac mae'n bresennol ar faner genedlaethol Cymru, a ddaeth yn faner swyddogol yn 1959.[126]

Ar 1 Mawrth, dethlir Dydd Gŵyl Dewi; mae Dewi’n eicon o hunaniaeth Gymreig.[127] Mae galwadau lluosog a chefnogaeth mwyafrifol yng Nghymru i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc yng Nghymru, ond mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i wrthod.[128][129][130] Mae’r diwrnod yn cael ei ddathlu gan ysgolion a chymdeithasau diwylliannol ledled Cymru ac mae arferion yn cynnwys gwisgo cenhinen neu genhinen Bedr, ill dau'n symbolau cenedlaethol i Gymru. Weithiau, bydd plant yn gwisgo gwisgoedd gwerin.[131]

Baner Owain Glyn Dŵr

Mae baner Owain Glyndŵr yn gysylltiedig â chenedligrwydd Cymreig.[132] Cafodd ei gario i frwydr gan luoedd Cymru yn ystod brwydrau Glyndŵr yn erbyn y Saeson, yn cynnwys pedwar llew ar goch ac aur. Mae'r faner yn debyg i arfbais Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf), Tywysog olaf Cymru cyn goresgyniad Cymru gan Edward I o Loegr. Mae'n bosib fod arfbais rhieni Glyndŵr wedi dylanwadu ar y cynllun hefyd, oherwydd roedd gan y ddau ohonynt lewod ar eu harfbeisiau.[133] Mae Diwrnod Owain Glyndŵr yn cael ei ddathlu ar 16 Medi yng Nghymru a bu galwadau i’w wneud yn ŵyl banc cenedlaethol. [134]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. "Cynnyrch domestig gros rhanbarthol a gwerth ychwanegol gros: 1998 i 2022 | LLYW.CYMRU". www.llyw.cymru. 2024-04-25. Cyrchwyd 2024-05-24.
  2. "Geiriadur Prifysgol Cymru". www.geiriadur.ac.uk. Cyrchwyd 2024-06-01.
  3. "Cornish Dictionary |". www.cornishdictionary.org.uk. Cyrchwyd 2024-06-01.
  4. "LearnGaelic - Dictionary". learngaelic.scot. Cyrchwyd 2024-06-01.
  5. Cyfrifiad 2021: Poblogaeth Cymru yr uchaf erioed , BBC Cymru Fyw, 28 Mehefin 2022. Cyrchwyd ar 29 Mehefin 2022.
  6.  Cymro. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2016.
  7. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, "CADWALLON AP CADFAN", tud. 112.
  8. 8.0 8.1 Bedwyr Lewis Jones. Enwau (Llyfrau Llafar Gwlad) (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 1991), t. 4.
  9. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, "CYMRU (yr enw)", tud. 239.
  10. Jones, Barri; Mattingly, David (1990). "The Economy". An Atlas of Roman Britain. Caergrawnt: Blackwell Publishers (cyhoeddwyd 2007). tt. 179–196. ISBN 9781842170670.
  11. 11.0 11.1 11.2 11.3 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 37–52. ISBN 978-1-84990-373-8.
  12. Haywood, John (2014-07-10). The Celts: Bronze Age to New Age (yn Saesneg). Routledge. tt. 73–76. ISBN 978-1-317-87017-3.
  13. "Cornelius Tacitus, The Annals, BOOK XII, chapter 33". www.perseus.tufts.edu. Cyrchwyd 2024-06-01.
  14. Hughes, William (1894). A History of the Church of the Cymry: From the Earliest Period to the Present Time (yn Saesneg). E. Stock. t. 447.
  15. Penny Cyclopaedia of the Society for the Diffusion of Useful Knowledge (yn Saesneg). C. Knight. 1837. tt. 2–17.
  16. "Cambrian quarterly magazine and Celtic repertory | No. 20 - October 1 - 1833 | 1833 | Welsh Journals - The National Library of Wales". journals.library.wales (yn Saesneg). tt. 580–581. Cyrchwyd 2024-05-27.
  17. Cathrall, William (1860). A guide through North Wales, including Anglesey, Caernarvonshire, Denbighshire, Flintshire ... with a notice of the geology of the country, by A.C. Ramsay (yn Saesneg). t. 190.
  18. Hughes, William (1894). A History of the Church of the Cymry: From the Earliest Period to the Present Time (yn Saesneg). E. Stock.
  19. Hughes, William (1894). A History of the Church of the Cymry: From the Earliest Period to the Present Time (yn Saesneg). E. Stock. tt. 62–63.
  20. Wade-Evans, Arthur W. (Arthur Wade) (1923). Life of St. David [microform]. Internet Archive. London : Society for Promoting Christian Knowledge; New York, Macmillan. tt. 24–27, 32.
  21. 21.0 21.1 21.2 21.3 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 53–66. ISBN 978-1-84990-373-8.
  22. Watkin, Thomas (2007). The Legal History of Wales. Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 32–35.
  23. Jewell, Helen M. (1994). The North-south Divide: The Origins of Northern Consciousness in England (yn Saesneg). Manchester University Press. t. 18. ISBN 978-0-7190-3804-4.
  24. 24.0 24.1 24.2 24.3 24.4 24.5 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 67–82. ISBN 978-1-84990-373-8.
  25. Davies, Sean (2016-10-20). The First Prince of Wales?: Bleddyn ap Cynfyn, 1063-75 (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 2. ISBN 978-1-78316-937-5.
  26. 26.0 26.1 26.2 Davies, Sean (2016-10-20). The First Prince of Wales?: Bleddyn ap Cynfyn, 1063-75 (yn Saesneg). University of Wales Press. tt. 23–26. ISBN 978-1-78316-937-5.
  27. Watkin, Thomas Glyn (2007). The Legal History of Wales (yn Saesneg). University of Wales Press. tt. 44–49. ISBN 978-0-7083-2545-2.
  28. Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 83–88. ISBN 978-1-84990-373-8.
  29. "Cambrian quarterly magazine and Celtic repertory | No. 20 - October 1 - 1833 | 1833 | Welsh Journals - The National Library of Wales". journals.library.wales (yn Saesneg). t. 581. Cyrchwyd 2024-05-27.
  30. Turvey, Roger (2013). Owain Gwynedd: Prince of the Welsh (yn Saesneg). Y Lolfa. tt. 11–26. ISBN 978-1-84771-694-1.
  31. Turvey, Roger (2013). Owain Gwynedd: Prince of the Welsh (yn Saesneg). Y Lolfa. tt. 35–43. ISBN 978-1-84771-694-1.
  32. Turvey, Roger (2013). Owain Gwynedd: Prince of the Welsh (yn Saesneg). Y Lolfa. tt. 49–51, 58, 68, 74. ISBN 978-1-84771-694-1.
  33. Turvey, Roger (2013). Owain Gwynedd: Prince of the Welsh (yn Saesneg). Y Lolfa. tt. 84–86. ISBN 978-1-84771-694-1.
  34. 34.0 34.1 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 109–120. ISBN 978-1-84990-373-8.
  35. Johnes, Martin (2019-08-25). Wales: England's Colony (yn Saesneg). Parthian Books. tt. 37–40. ISBN 978-1-912681-56-3.
  36. Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 124–129. ISBN 978-1-84990-373-8.
  37. Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 137–144. ISBN 978-1-84990-373-8.
  38. Williams, Gruffydd Aled (2015). Dyddiau olaf Owain Glyndŵr. Y Lolfa. tt. 13–14, 20. ISBN 978-1-78461-156-9.
  39. Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 148–152. ISBN 978-1-84990-373-8.
  40. Johnes, Martin (2019-08-25). Wales: England's Colony (yn Saesneg). Parthian Books. tt. 65–69. ISBN 978-1-912681-56-3.
  41. 41.0 41.1 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 157–167. ISBN 978-1-84990-373-8.
  42. 42.0 42.1 42.2 42.3 42.4 42.5 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 175–189. ISBN 978-1-84990-373-8.
  43. "BBC Wales - Eisteddfod - Guide - A brief history of the Eisteddfod". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2022-02-04.
  44. "FAW / Who are FAW?". www.faw.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-04.
  45. "140 Years of the Welsh Rugby Union". Welsh Rugby Union | Wales & Regions (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-04.
  46. "History of the University of Wales - University of Wales". www.wales.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-04. Cyrchwyd 2022-02-04.
  47. Jones, Gareth Elwyn (1994-10-28). Modern Wales: A Concise History (yn Saesneg). Cambridge University Press. ISBN 978-0-521-46945-6.
  48. Jones, Wyn (1986). Thomas Edward Ellis, 1859-1899 (yn WELENG). Internet Archive. [Cardiff?] : University of Wales Press. t. 32. ISBN 978-0-7083-0927-8.CS1 maint: unrecognized language (link)
  49. "History of the Building | The National Library of Wales". www.library.wales. Cyrchwyd 2022-02-04.
  50. "Welsh Guards". www.army.mod.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-04.
  51. Records of the Welsh Board of Health (yn English). Welsh Board of Health. 1919–1969.CS1 maint: others (link) CS1 maint: unrecognized language (link)
  52. "Welsh Church Act 1914".
  53. Lutz, James M. (1981). "The Spread of the Plaid Cymru: The Spatial Impress". The Western Political Quarterly 34 (2): 310–328. doi:10.2307/447358. ISSN 0043-4078. https://www.jstor.org/stable/447358.
  54. "Watch Rali Senedd i Gymru, Machynlleth 1949 online - BFI Player". player.bfi.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-05-25.
  55. Watkin, Thomas Glyn (2007). The Legal History of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 197. ISBN 0-7083-2064-3.
  56. 56.0 56.1 "Hanes datganoli yng Nghymru". senedd.cymru. Cyrchwyd 2023-08-31.
  57. "A Beginners Guide to UK Geography (2021) v1.0". geoportal.statistics.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-08-31.
  58. Stepan, Alfred; Linz, Juan J.; Minoves, Juli F. (2014). "Democratic Parliamentary Monarchies". Journal of Democracy 25 (2): 35–51. doi:10.1353/jod.2014.0032. ISSN 1086-3214. https://muse.jhu.edu/pub/1/article/542440.
  59. "Pwerau". senedd.cymru. Cyrchwyd 2023-08-31.
  60. "Canlyniadau yr Etholiad Cyffredinol 2019 - BBC Cymru Fyw". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2023-08-31.
  61. "Amdanom ni". GOV.UK (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-08-31.
  62. "Llywodraeth Cymru | Awdurdodau Unedol". web.archive.org. 2014-06-01. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-01. Cyrchwyd 2023-08-31.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  63. "Senedd Cymru | Welsh Parliament". senedd.cymru. Cyrchwyd 2023-08-31.
  64. "Beth yw rôl y Senedd?". Golwg360. 2023-07-21. Cyrchwyd 2023-08-31.
  65. "One 'Heddlu Cymru' by 2030 the way forward says police chief". Nation.Cymru (yn Saesneg). 29 Mawrth 2022. Cyrchwyd 20 Chwefror 2023.
  66. Zubova, Xenia. "How Welsh is the British Army?". Forces Network (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Ebrill 2022.
  67. "Wales's contribution to the UK armed forces".
  68. "RCAHMW | Mapio Ffiniau Hanesyddol Cymru: Cymydau a Chantrefi". cbhc.gov.uk. Cyrchwyd 2024-05-27.
  69. "Cyrff llywodraeth leol yng Nghymru | Cyfraith Cymru". cyfraith.llyw.cymru. Cyrchwyd 2024-05-27.
  70. "Dinasoedd Cymru". Wales. 2019-07-10. Cyrchwyd 2024-05-27.
  71. "Parciau Cenedlaethol". Croeso Cymru. Cyrchwyd 2024-05-27.
  72. "Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yng Nghymru". Wales. 2023-02-16. Cyrchwyd 2024-05-27.
  73. Green, Mick (2007). "Wales Ring Ouzel Survey 2006" (PDF). Ecology Matters Ltd. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 11 Mawrth 2012. Cyrchwyd 6 Medi 2010.
  74. "Black ravens return to the roost". BBC. 24 Ionawr 2006. Cyrchwyd 6 Medi 2010.
  75. "Red kite voted Wales' Favourite Bird". Royal Society for the Protection of Birds. 11 Hydref 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Awst 2010. Cyrchwyd 6 Medi 2010.
  76. Davies (2008) p. 533
  77. Vidal, John (13 Tachwedd 2006). "Goats have roamed Snowdonia for 10,000 years; now they face secret cull". guardian.co.uk. London. Cyrchwyd 14 Awst 2011.
  78. Grug, Mari (30 Mawrth 2021). "Licensed beavers released in Wales for the first time". BBC News. Cyrchwyd 31 Mawrth 2021.
  79. Davies (1994) pp. 286–288
  80. Perring, E.H.; Walters, S.M., gol. (1990). Atlas of the British Flora. Melksham, Great Britain: BSBI. t. 43.
  81. "Llantrisant". Royal Mint website. Royal Mint. 24 Medi 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Hydref 2007. Cyrchwyd 4 Hydref 2008.
  82. Kelsey, Chris (2017-01-09). "The 10 biggest private sector employers in Wales". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-22.
  83. "Cynnyrch domestig gros rhanbarthol a gwerth ychwanegol gros: 1998 i 2020 | LLYW.CYMRU". www.llyw.cymru. 2022-05-31. Cyrchwyd 2023-08-26.
  84. "Regional gross domestic product: all ITL regions - Swyddfa Ystadegau Gwladol". cy.ons.gov.uk. Cyrchwyd 2023-08-26.
  85. "Cynnyrch domestig gros rhanbarthol a gwerth ychwanegol gros: 1998 i 2021 | LLYW.CYMRU". www.llyw.cymru. 2023-04-26. Cyrchwyd 2023-08-31.
  86. "Datganiad Ysgrifenedig: Colli cyllid i Gymru o ganlyniad i drefniadau Llywodraeth y DU ar gyfer cyllid i ddisodli cyllid UE (4 Mai 2022) | LLYW.CYMRU". www.llyw.cymru. 2022-05-04. Cyrchwyd 2023-08-26.
  87.  Busnes – Pleidleisiau a Thrafodion. Cynulliad Cenedlaethol Cymru (23 Ionawr, 2008). Adalwyd ar 10 Chwefror, 2008. ""busnesau bach a chanolig eu maint yw asgwrn cefn economi Cymru""
  88.  Grantiau Llywodraeth y Cynulliad yn creu 122 o swyddi newydd yng Ngogledd Cymru. Llywodraeth Cynulliad Cymru (6 Mai, 2002). Adalwyd ar 10 Chwefror, 2008. "Cwmnïau bach yw asgwrn cefn economi Cymru ac maent yn gwneud cyfraniad enfawr i’n cyfoeth a’n llwyddiant."
  89.  Proffiliau Diwydiannau Allweddol: Trosolwg Cymru. GO Wales. Adalwyd ar 24 Mai, 2008.
  90. "One of the most important roads in Wales". Roads.org.uk. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2020.
  91. Owen, Cathy (6 Mehefin 2014). "The A470 is Britain's favourite road". Wales Online.
  92. "Transport for Wales – Design of Wales and Borders Rail Service Including Metro" (PDF). Welsh Government. 28 Chwefror 2017. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2020.
  93. "Ferry connections". Transport for Wales. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2020.
  94. Barry, Sion (19 Mawrth 2020). "Final bill for electrifying the Great Western Mainline from South Wales to London £2bn over original budget". Business Live. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2020.
  95. "Business leaders back electric railway demand". WalesOnline.co.uk. 25 Ionawr 2011. Cyrchwyd 7 Mehefin 2012.
  96. "Britain's Transport Infrastructure, Rail Electrification" (PDF). Department for Transport. 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 8 Ebrill 2010. Cyrchwyd 7 Mehefin 2012.
  97. Harding, Nick (11 Mawrth 2017). "Eastern Airways take over Cardiff to Anglesey route". UK Aviation News. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2020.
  98. "Cardiff Airport-Destinations". Cardiff Airport – maes awyr caerdydd. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2020.
  99. "Revived Swansea-Cork ferry service sets sail". BBC News website. BBC. 10 Mawrth 2010. Cyrchwyd 19 Mehefin 2010.
  100. "Swansea-Cork ferry: Fastnet Line to close service with loss of 78 jobs". BBC News website. BBC. 2 Chwefror 2012. Cyrchwyd 15 Ebrill 2012.
  101. "Prifysgolion Cymru". Wales. 11 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 20 Chwefror 2023.
  102. "University League Tables 2023". www.thecompleteuniversityguide.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Chwefror 2023.
  103. "Amdanon Ni". GIG Cymru. Cyrchwyd 19 Chwefror 2023.
  104. "Cyfrifiad 2021: Poblogaeth Cymru yr uchaf erioed". BBC Cymru Fyw. 28 Mehefin 2022. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2022.
  105. "Gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg i 17.8% yn ôl y Cyfrifiad". newyddion.s4c.cymru. Cyrchwyd 20 Chwefror 2023.
  106. Ltd, Supercool (24 Chwefror 2023). "Cymru: Gwlad y Gân". WNO. Cyrchwyd 24 Chwefror 2023.
  107. "Repository - Hwb". hwb.gov.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Chwefror 2023.
  108. "Tîm Pêl-droed Cymru - National Library of Wales". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2023-02-24.
  109. "Rygbi Cymru A Hunaniaeth". Wales. 2019-01-31. Cyrchwyd 2023-02-24.
  110. "BBC - Cymru a'r bêl hirgron". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2023-02-24.
  111. "Bando - Gêm y ffon gam". Museum Wales. Cyrchwyd 2023-02-24.
  112. "Gerwyn Price yn Bencampwr Dartiau PDC y Byd". BBC Cymru Fyw. 2021-01-03. Cyrchwyd 2023-02-24.
  113. "Mark Williams yn ennill Pencampwriaeth Snwcer y byd". BBC Cymru Fyw. 2018-05-08. Cyrchwyd 2023-02-24.
  114. "Geraint Thomas yn sicrhau trydydd yn y Tour de France". BBC Cymru Fyw. 2022-07-24. Cyrchwyd 2023-02-24.
  115. "Jade Jones yn ennill aur eto". Golwg360. 2016-08-19. Cyrchwyd 2023-02-24.
  116. "Ian Woosnam yn cystadlu yn Y Meistri". BBC Cymru Fyw. 2012-04-05. Cyrchwyd 2023-02-24.
  117. "Cynnal angladd y hyfforddwr bocsio Enzo Calzaghe". BBC Cymru Fyw. 2018-09-28. Cyrchwyd 2023-02-24.
  118. "Lauren Price yn ennill medal aur yn y bocsio pwysau canol". BBC Cymru Fyw. 2021-08-08. Cyrchwyd 2023-02-24.
  119. Buckland, Helen; Keepin, Jacqui (2017-10-02). CBAC TGAU Bwyd a Maeth (WJEC GCSE Food and Nutrition Welsh-language edition) (yn Saesneg). Hodder Education. ISBN 978-1-5104-1843-1.
  120. "Amser Bwyd". Museum Wales. Cyrchwyd 2023-02-24.
  121. "Who were the Celts?". Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-26.
  122. Koch, John (2005). Celtic Culture : A Historical Encyclopedia. ABL-CIO. tt. xx, 300, 421, 495, 512, 583, 985. ISBN 978-1-85109-440-0. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2011.
  123. "Success for BBC Cymru Wales at Celtic Media Festival 2022". www.bbc.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-26.[dolen marw]
  124. "National symbols of Wales". Wales (yn Saesneg). 2019-07-03. Cyrchwyd 2022-09-06.
  125. Historia Brittonum gan Nennius (cyfieithiad Saesneg J.A.Giles)
  126. "Wales history: Why is the red dragon on the Welsh flag?". BBC News (yn Saesneg). 2019-07-06. Cyrchwyd 2022-09-06.
  127. Bergsagel, John; Riis, Thomas; Hiley, David (2015-12-09). Of Chronicles and Kings: National Saints and the Emergence of Nation States in the High Middle Ages (yn Saesneg). Museum Tusculanum Press. t. 307. ISBN 978-87-635-4260-9.
  128. Mosalski, Ruth (2022-02-15). "10,000 want St David's Day to be a bank holiday but UK gov says no". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-22.
  129. "Poll backs St David's Day holiday" (yn Saesneg). 2006-03-01. Cyrchwyd 2022-02-22.
  130. "Should patron saint's days be bank holidays? | YouGov". yougov.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-23.
  131. "St David's Day". Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-12-02.
  132. WalesOnline (2004-09-15). "Flying the flag to remember Glyndwr". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-08-12.
  133. "BBC Wales - History - Themes - Welsh flag: Banner of Owain Glyndwr". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2022-07-29.
  134. "Calls for 'Glyndwr Day' on anniversary". BBC News. Cyrchwyd 2022-09-20.

Dolenni allanol

Chwiliwch am Cymru
yn Wiciadur.