Zonia Bowen

Oddi ar Wicipedia
Zonia Bowen
GanwydZonia North Edit this on Wikidata
23 Ebrill 1926 Edit this on Wikidata
Ormesby St Margaret Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mawrth 2024 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
PriodGeraint Bowen Edit this on Wikidata
PerthnasauGwilym Bowen Rhys Edit this on Wikidata

Awdures a rhydd-feddylwraig oedd Zonia Margarita Bowen (née North; 23 Ebrill 192618 Mawrth 2024).[1] Sefydlodd y mudiad Merched y Wawr yn 1967, gyda chymorth Sylwen Davies a chriw o ferched Sefydliad y Merched o'r Parc, y Bala. Er bod y rhan fwyaf o ddigwyddiadau Sefydliad y Merched ar y pryd yn yr ardaloedd yma yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg nid oedd y sefydliad yn cydnabod y Gymraeg yn eu dogfennau ysgrifenedig a'u nwyddau.[2]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Bowen yn Ormesby St. Margaret, Norfolk, Lloegr. Astudiodd Ffrangeg ym Mhrifysgol Bangor ac yno dechreuodd ddysgu Cymraeg. Yn ddiweddarach, dysgodd Lydaweg hefyd a chyhoeddodd lyfrau dysgu Llydaweg cyfrwng Cymraeg.

Cred bod "pob duw a phob crefydd yn ffrwyth dychymyg"; geilw ei hun yn 'rhydd-feddylwraig' (free-thinker) yn ogystal ag 'anffyddwraig' neu 'ddyneiddwraig'. Bu'n briod â'r Prifardd Geraint Bowen (1915–2011). Roedd ei gŵr yn Archdderwydd o 1978–1981 ac ef awgrymodd yr enw i Fudiad Merched y Wawr.

Cafodd ei magu yn Heckmondwike, Swydd Efrog, a bu'n byw am flynyddoedd ger Llyn Mwyngil, cyn symud i fyw yng Nghaeathro ger Caernarfon. Yn 2015 cyhoeddodd hunangofiant, lle mae hi'n sôn am sefydlu Merched y Wawr,[3] a pham yr ymddiswyddodd fel Llywydd wedi deng mlynedd fel swyddog o'r mudiad. Dywedodd wrth ei sefydlu na ddylai'r mudiad fod ag unrhyw gysylltiad â chrefydd na gwleidyddiaeth "ond ei fod ar agor i bawb, ar yr un termau" a derbyniwyd hynny gan aelodau'r Cyngor Cenedlaethol. Disgrifiwyd y mudiad o'r cychwyn fel 'mudiad seciwlar'. Roedd hefyd yn weithgar gyda mudiad Dyneiddwyr Cymru.

Teulu[golygu | golygu cod]

Ganwyd pedwar o blant i Zonia a Geraint sef Rhys, Nia, Siân a Steffan. Ffurfiodd tri o'i hwyrion Y Bandana, prif grwp roc Y Selar yn 2017 ac mae cerddoriaeth yn gryf yng ngwaed y teulu gan bod Gwilym Bowen Rhys hefyd mewn grŵp gwerin poblogaidd o'r enw Plu gyda'i chwiorydd Elan a Marged.[2][2]

Bu farw yn 97 mlwydd oed ym Mawrth 2024.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Ymhlith ei llyfrau y mae:

  • Dy bobl di fydd fy mhobl i; Gwasg y Lolfa, 2015 - hunangofiant Zonia Bowen
  • Traed ar y ddaear; CAA, 1995
  • Yec'hed Mat - Iechyd Da! Cyhoeddwyd gan Gwasg y Lolfa, Rhagfyr 1980
  • Y dyddiau cynnar; Llyfrau'r Faner, ar ran Merched y Wawr, 1977
  • Llydaweg i'r Cymro; Llyfrau'r Faner, 1977
  • Merched y Wawr; Llyfrau'r Faner, ar ran Merched y Wawr, 1977

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Sefydlydd Merched y Wawr Zonia Bowen wedi marw". newyddion.s4c.cymru. 2024-03-18. Cyrchwyd 2024-03-18.
  2. 2.0 2.1 2.2 Dy bobl di fydd fy mhobl i; Gwasg y Lolfa, 2015 - hunangofiant Zonia Bowen
  3. Gwefan Cymru Fyw, y BBC; adalwyd 5 Chwefror 2015

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]