Llyn Mwyngil

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyn Mwyngil, golygfa tua'r gogledd-ddwyrain

Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Mwyngil, weithiau (yn anghywir) Llyn Talyllyn (mae ffurfiau amgen yn y Gymraeg yn cynnwys Llyn Myngul[1]). Saif wrth droed llethrau deheuol Cadair Idris ym Meirionnydd ac mae Afon Dysynni yn llifo trwy'r llyn. Roedd yn rhan o gwmwd Ystumanner yn yr Oesoedd Canol. Mae'r ffordd B4405 yn mynd heibio glan ddeheuol y llyn, heb fod ymhell o'i chyffordd gyda'r briffordd A487; gellir gweld y llyn o'r A487. Ar lan ogleddol y llyn, mae llwybr cyhoeddus ac hen reithordy (gwesty'n awr).

Mae pentref bychan Tal-y-llyn ar ochr de-orllewinol y llyn wedi rhoi ei enw i'r plwyf ac i Reilffordd Talyllyn, er mai dim ond i Abergynolwyn y mae'r rheilffordd yn cyrraedd. Ceir pysgota da am frithyll yn y llyn.

Oriel[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Atlas Meirionnydd (Y Bala, 1975).
CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato