Ysgol Gyfun y Strade
| Ysgol Gyfun y Strade | |
|---|---|
![]() |
|
| Arwyddair | Nid da lle gellir gwell |
| Sefydlwyd | 1977 |
| Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
| Cyfrwng iaith | Cymraeg |
| Pennaeth | Mrs Heather Lewis |
| Lleoliad | Heol Sandy, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA15 4DH |
| AALl | Cyngor Sir Gaerfyrddin |
| Rhyw | Cyd-addysgol |
| Oedrannau | 11–18 |
| Lliwiau | Gwyrdd, gwyn a du |
Ysgol uwchradd gyfun Gymraeg yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin yw Ysgol Gyfun y Strade.
[golygu] Hanes
Sefydlwyd yr ysgol ym 1977, hon oedd yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yn Llanelli. Mae'r ysgol yn derbyn disgyblion o'r ardal amgylchynol, mae'r dalgylch yn cynnwys ysgolion cynradd Dewi Sant, Llangennech, Trimsaran, Felinfoel, Heol Goffa, Parc y Tywyn, Brynsierfel Llwynhendy, Ysgol Gynradd yr Hendy a Ysgol Gymunedol Ffwrnes
Ar y cychwyn roedd yn ysgol weddol fach, ond mae wedi tyfu'n sylweddol bellach. Mae gan yr ysgol chweched dosbarth hefyd; y Strade yw'r unig ysgol uwchradd y wladwriaeth yn nhref Llanelli sydd wedi cadw ei chweched dosbarth, gan fod y disgyblion o bob ysgol arall o'r dref yn mynychu Coleg Sir Gaerfyrddin ar gyfer eu haddysg ôl-16, drwy gyfrwng y Saesneg.
Mr Desmond Jones oedd pennaeth cyntaf yr ysgol, gyda Mr John Rees a Ms Megan Evans yn ddirprwyon. Yna daeth Ms Nesta Thomas yn ddirprwy. Daeth Mr Geraint Roberts yn bennaeth, olynwyd ef gan Mrs Heather Lewis ym mis Medi 2009. Ers 2005 mae'r ysgol wedi gweithio mewn cydweithrediad gyda Ysgol Gyfun Bro Myrddin ac Ysgol Gyfun Maes-yr-Yrfa i gynnig pynciau megis Sbaeneg a Ffrangeg i'w disgyblion, trwy gyfrwng y Gymraeg, ar gyfer TGAU a Lefel A.
[golygu] Cyn-ddisgyblion enwog
- Nicholas Daniels, awdur plant
- Imogen Thomas, model a chyflwynydd teledu
