Ysgol Eifion Wyn
Ysgol Eifion Wyn | |
---|---|
Sefydlwyd | Wedi'r 1930au[1] |
Math | Cynradd, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Lleoliad | Porthmadog, Gwynedd, Cymru, LL49 9NU |
AALl | Cyngor Gwynedd |
Disgyblion | 179 (2010)[2] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 3–11 |
Lliwiau | Coch a Llwyd |
Gwefan | eifionwyn.gwynedd.sch.uk |
Ysgol gynradd gymunedol ym Mhorthmadog, Gwynedd ydy Ysgol Eifion Wyn. Enwyd yr ysgol ar ôl enw barddol Eliseus Williams. Yn adroddiad Estyn, disgrifir hi fel ysgol da hapus a gofalgar. Yno mae ymwybodaeth a balchrwydd o etifeddiaeth a treftadaeth Cymru yn cael eu hyrwyddo yn llwyddiannus.[3]
Symudwyd yr ysgol i adeilad newydd ger Canolfan Hamdden Glaslyn, agorwyd hi'n swyddogol ar 6 Tachwedd 2003 gan Bryn Terfel.[4] Erbyn hyn mae archfarchnad Tesco wedi ei hadeiladu ar hen safle'r ysgol.
Mae dwsin o athrawon ac 14 o staff ategol yn yr ysgol, y prifathro ers cryn amser, hyd Nadolig 2011, oedd Ken Hughes.[5] Daw y rhanfwyaf o blant yr ysgol (72%) o gartrefi ble mae Cymraeg yn iaith gyntaf, a 97% o'r plant yn siarad cymraeg i safon mamiaith.[3]
Enillodd disgyblion hyn yr ysgol Wobr Busnes Gwynedd yn 2007 wedi seflydu 'Cwmni Cŵl', y pwrpas oi sefydlu oedd i addysgu'r plant. Mae disgyblion yr ysgol yn mwynhau llwyddiant yn reolaidd mewn cystadleuthau megis Eisteddfod yr Urdd.
Ymysg cyn-ddisgyblion yr ysgol mae'r awdur Gareth F. Williams a'r cynhyrchwr a'r peirianwr cerddoriaeth Dyl Mei.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Yr Wylan: Cofio Taid, y 'Dahlia King'. BBC Lleol: Gogledd Orllewin (Mehefin 2004). Adalwyd ar 29 Mehefin 2012.
- ↑ Adroddiad Arolygiad Ysgol Eifion Wyn, 17 Mai 2010. Estyn (20 Gorffennaf 2010). Adalwyd ar 29 Mehefin 2012.
- ↑ 3.0 3.1 Adroddiad Estyn 2003
- ↑ Agoriad swyddogol Ysgol Eifion Wyn Yr Wylan 27 Tachwedd 2003
- ↑ Athrawon Ysgol Eifion Wyn[dolen marw]
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- Gwefan swyddogol yr ysgol Archifwyd 2007-08-13 yn y Peiriant Wayback.