Yr Ocwlt

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Y mae'r gair ocwlt yn tarddu o'r Lladin occultus (dirgelaidd, cyfrin, cuddiedig) ac yn cyfeirio at 'wybodaeth y cyfrin' neu 'wybodaeth y cuddiedig' a'i ystyr poblogaidd yw 'gwybodaeth am y goruwchnaturiol', i'r gwrthwyneb i 'wybodaeth y gweledol' neu 'gwybodaeth y mesuradwy', sydd fel arfer yn cyfeirio at wyddoniaeth. I ymarferwyr ocwltiaeth ystyr y gair yw'r astudiaeth o "realiti" ysbrydol sy'n estyn tu hwnt i resymeg bur a gwyddoniaeth ffisegol, er bod rhai ymarferwyr yn anghytuno â'r fath ddadansoddiad yn sgil ffiseg Cwantwm, er enghraifft ymarferwyr dewiniaeth Caos. Mae'r gair yn gyfystyr â'r term 'cyfrinachol' (esoterig). Caiff y term ei ddefnyddio i labelu nifer o sefydliadau neu urddau a'u hymarferion. Mae'r enw hefyd yn estyn i ddisgrifio corff mawr o lenyddiaeth ac athroniaeth ysbrydol.

[golygu] Ocwltiaeth

Ocwltiaeth yw'r astudiaeth o ddoethineb ocwlt neu guddiedig. I'r ocwltydd yr astudiaeth am y "Gwir" yw ystyr yr enw, "gwir" dyfnach sy'n bodoli islaw'r arwyneb. Gellir cynnwys pynciau fel dewiniaeth, canfyddiad synhwyrol ychwanegol (galluoedd seicig), astroleg, ysbrydegaeth, rhifoleg, a breuddwydio eglur. Yn aml mae yna elfennau crefyddol i'r astudiaethau a chredau hyn, ac mae llawer o ocwltwyr yn proffesu dilyn crefyddau fel Cristnogaeth, Iddewiaeth, Paganiaeth, Hindŵaeth, Bwdhaeth neu Islam.

Mae'r gair "ocwlt" yn o rywogaethol, am ei bod yn cynnwys bron â phopeth sydd ddim yn cael ei hawlio gan y crefyddau mawr a hefyd llawer o bethau sydd yn perthyn iddynt. Mae hyd yn oed y Cabbala yn cael ei ystyried yn astudiaeth ocwlt, efallai am ei boblogrwydd ymhlith dewiniaid Ewrop.

Mewn termau eang, nid yw mewnwelediad uniongyrchol na chanfyddiad o'r ocwlt yn cynnwys mynediad i ffeithiau mesuradwy, eithr fe'i cyrhaeddir trwy'r meddwl neu'r ysbryd. Gallai'r term cyfeirio at hyfforddiant meddyliol, seicolegol neu ysbrydol. Serch hynny mae llawer o ocwltwyr hefyd yn astudio gwyddoniaeth, rhai am eu bod yn gweld gwyddoniaeth fel cangen o Alcemeg a rhai yn defnyddio ffiseg cwantwm fel esboniad gwyddonol ar gyfer hud.

[golygu] Gwyddoniaeth a'r ocwlt

Ystyrier ocwltiaeth yn astudiaeth o anian fewnol pethau, tra bo gwyddoniaeth yn astudiaeth o nodweddion allanol. Galwodd yr athronydd Almaeneg Alfred Schopenhauer yr 'anian fewnol' hwnnw'n 'Ewyllys", gan awgrymu bod gwyddoniaeth a mathemateg heb y gallu i dreiddio tu hwnt i'r berthynas rhwng un peth a pheth arall er mwyn esbonio 'anian fewnol' y peth ei hun, yn annibynnol o unrhyw berthnasau achosol allanol gyda 'phethau' eraill.

Pwyntiodd Schopenhauer hefyd i anian berthynolaidd gynhenid mathemateg a gwyddoniaeth gonfensiynol yn ei ddatganiad o'r Byd fel Ewyllys a Syniad (Die Welt als Wille und Vorstellung 1819). O ddiffinio rhywbeth mewn termau a wnelo â'i berthnasau allanol a'u heffeithiau allanol yn unig gawsom o hyd i ddim byd ond anian sydd yn allanol neu'n echblyg. Mae ocwltiaeth, ar y llaw arall, yn canolbwyntio ar anian 'y peth ynddo ei hun'. Gwneir hyn yn amlaf trwy ymwybyddiaeth ganfyddiadol uniongyrchol, a elwir cyfriniaeth.

Ystyrier Alcemeg, sydd yn rhagflaenydd i wyddoniaeth fodern, yn ymarfer ocwlt. Er bod y rhan fwyaf o wyddonwyr yn anffyddwyr, roedd alcemeg yn ymarfer cyffredin ymhlith gwyddonwyr, fel Isaac Newton.

[golygu] Crefydd a'r ocwlt

Mae rhai enwadau crefyddol yn gweld yr ocwlt i fod un rhywbeth goruwchnaturiol sydd ddim yn cael ei gyflawni gan neu drwy Dduw, ac felly rhywbeth sy'n hanu o endid maleisus a gwrthwynebol. Mae gan y gair arwyddocâd negyddol i lawer o bobl, ac er bod llawer o ymarferion a ystyrier gan rai i fod yn "ocwlt" i'w darganfod o fewn y crefyddau mawr, yn y cyd-destun hwn ni ddefnyddier y term "ocwlt" yn aml.

Yn Iddewiaeth, caniateir astudiaethau ysbrydol arbennig fel y Cabbala i rai unigolion (fel rabïaid a'u myfyrwyr dethol). Nid yw'r astudiaethau hyn yn cydffurfio â defodau cyffredin Iddewiaeth. Hefyd mae rhai ffurfiau o Islam yn caniatáu i ysbrydion gael eu gorchymyn yn enw Duw i wneud gweithredoedd cyfiawn a chynorthwyo Mwslemiaid da. Ceir hefyd canghennau cyfriniol o Gristnogaeth sy'n ymarfer darogan, bendithio, neu apelio i engyl am ymyriadau. Mae Rhosgroesiaeth, un o ganghennau cyfriniol enwocaf Cristnogaeth, wedi dylanwadu ar y rhan fwyaf o ocwltiaeth Gristnogol ers y 17fed ganrif.

Mae Tantra, sy'n hanu o India, yn cynnwys ymhlith ei ganghennau amrywiol amrywiaeth o ymarferion defodol fel ymarferion dychmygu a chanu mantra i ddefodau cymhleth sy'n cynnwys cyfathrach rywiol ac aberth anifeiliaid, weithiau i'w perfformio mewn lleoedd gwaharddedig fel tiroedd amlosgiad.