Ysbrydegaeth

Oddi ar Wicipedia
Ysbrydegaeth
Enghraifft o'r canlynolnew religious movement Edit this on Wikidata
Mathyr Ocwlt, cyfriniaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y gred fod ysbrydion y meirw yn gallu cyfathrebu â'r byw, yn enwedig drwy gyfryngwr, yw ysbrydegaeth.[1]

Dechreuodd mudiad yr ysbrydegwyr tua 1848, yn Unol Daleithiau America, ac yn fuan datblygodd cyfundrefn grefyddol neu led-grefyddol i broffesu dal cymundeb â'r byd anweledig. Ymledodd yn dra buan yn y wlad honno, ac mewn rhannau eraill o'r byd, gan gynnwys Prydain a Ffrainc. Erbyn 1859, hawliodd yr ysbrydegwyr fod 1.5 miliwn yn credu yn y gyfundrefn hon yn yr Unol Daleithiau, a mil yn ei dadlau yn gyhoeddus, a 30 yn ei gwasanaethu yn barhaus. Yn ogystal, cyhoeddwyd cannoedd o lyfrau a phamffledi yn egluro ac amddiffyn y gyfundrefn. Lleihaodd y cyffro yn ei gylch erbyn diwedd y ganrif, ond byddai crediniaeth llawer yn parhau yng ngwirionedd ysbrydegaeth. Cafodd rhai a fu yn ei phroffesu yn gyhoeddus iawn eu profi yn dwyllwyr. Er gwaethaf, ni diflannai'r sêl drosti ymhlith credinwyr brwdfrydig y mudiad.

Ceisir weithiau olrhain tarddiad y gyfundrefn yn ôl i ysgrifeniadau Emanuel Swedenborg; ac y mae lle i feddwl fod gweithgarwch rhai o'i ddilynwyr ef yn yr Unol Daleithiau, i ryw fesur, wedi darparu meddyliau llawer i dderbyn a chredu honiadau tebyg i'r eiddo ef.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  ysbrydegaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 16 Tachwedd 2014.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.
Eginyn erthygl sydd uchod am y paranormal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.