Ymdeithiwr y derw

Oddi ar Wicipedia
Oak Processionary
Ymdeithiwr y derw
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Thaumetopoeidae
Genws: Thaumetopoea
Rhywogaeth: T. processionea
Enw deuenwol
Thaumetopoea processionea
Linnaeus, 1758

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw ymdeithiwr y derw, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy ymdeithwyr y derw; yr enw Saesneg yw Oak Processionary, a'r enw gwyddonol yw Thaumetopoea processionea.[1][2] Mae i'w ganfod ledled Ewrop gan gynnwys Lloegr a Chymru ers 2006.

Oedolyn
Siani flewog

25–35 mm ydy lled yr adenydd agored ac mae'n hedfan ym Medi a Hydref, mewn un genhedlaeth.

Prif fwyd y lindys ydy'r derwen, collen a ffawydden.

Gwenwyn[golygu | golygu cod]

Mae tua 63,000 o binnau bychain y lindys yn llawn o wenwyn a all achosi asma, trafferthion anadlu arall a hyd yn oed anaphylaxis.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r ymdeithiwr y derw yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.