Yaoundé

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Canol Yaoundé - Sgwâr 20 Mai
Lleoliad Yaoundé yn Camerŵn

Yaoundé (neu Yaunde) yw prifddinas Camerŵn yng ngorllewin Canolbarth Affrica. Mae ganddi boblogaeth o 1,430,000 (Cyfrifiad 2004).

Hanes[golygu]

Sefydlwyd y ddinas gan fasnachwyr Almaenig yn 1888 pan oedd y wlad ym meddiant yr Almaen. Cafodd Yaoundé ei gwneud yn brifddinas yn 1922. Ac eithrio cyfnod byr, yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan feddianwyd y wlad gan Wlad Belg, mae hi wedi aros yn brifddinas y wlad ers hynny. Yaoundé yw'r ail ddinas o ran maint erbyn heddiw, ar ôl Douala.

Economi[golygu]

Mae diwydiannau Yaoundé yn cynnwys sigaretau, cynnyrch llaeth, bragdai, clai, cynnyrch gwydr, a phren. Mae Yaoundé yn ganolfan dosbarthu ranbarthol ar gyfer coffi, cacao, copra, siwgr, a rwber.

Dolenni allanol[golygu]