Y ffin rhwng Cymru a Lloegr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Clawdd Offa, ger Clun: yr hen ffin rhwng y ddwy wlad.
Map Tsieceg o Gymru o 1932, sy'n dangos Gwent ar ochr Seisnig y ffin.

Ychydig mae'r ffin rhwng Cymru a Lloegr wedi newid dros y canrifoedd. Mae heddiw'n mesur tua 257 km (160 milltir): o aber afon Dyfrdwy yn y gogledd i lawr i aber afon Hafren yn y de.

Mae ei leoliad fwy neu lai'n cydredeg gyda Chlawdd Offa a chafodd ei gadarnhau yn 1535 pan ddiddymwyd Arglwyddiaethau'r Mers a chreu siroedd newydd. Cadarnhawyd y ffin pan basiwyd Deddf Llywodraeth Leol 1972 a ddaeth i rym yn 1974, yn y flwyddyn honno hefyd y cadarnhawyd fod Sir Fynwy yn rhan o Gymru.

Clawdd Offa[golygu]

Prif erthygl: Clawdd Offa.

Clawdd a godwyd gan Offa rhwng 757 to 796.

Clawdd Wat[golygu]

Prif erthygl: Clawdd Wat.

Clawdd a godwyd gan Coenwulf yn yr 820au.

Enwau lleoedd[golygu]

Ceir llawer o lefydd yn Lloegr heddiw sydd ag enwau Cymraeg, neu o darddiad Cymraeg: Gobowen, Clun, Kilpeck, Bagwyllydiart a Phontrilas. Roedd llawer o'r ardaloedd yma'n dal i gael eu cyfrif yn rhan o Gymru hyd at y 16eg Ganrif ac roedd y Gymraeg i'w chlywed yn y llefydd hyn hyd at y 19eg Ganrif. Ar ochr arall y ffin - yng Ngogledd-ddwyrain Cymru - ceir rhai llefydd o darddiad Saesneg ble sefydlodd y Normaniaid; llefydd fel y Drenewydd a Knighton ac yn Ne Cymru mewn ardaloedd yng Nghas-gwent a Phenfro.

Gweler hefyd[golygu]