Cilpeddeg

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Kilpeck)
Cilpeddeg
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Henffordd
(Awdurdod unedol)
Daearyddiaeth
SirSwydd Henffordd
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.9697°N 2.81°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04000784, E04012987 Edit this on Wikidata
Cod OSSO444304 Edit this on Wikidata
Cod postHR2 Edit this on Wikidata
Map

Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Cilpeddeg (Saesneg: Kilpeck).[1] Saif tua 9 milltir o Henffordd, i'r de o ffordd yr A465 i'r Fenni, a thua 5 milltir o ffin Cymru a Lloegr.

Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 495.[2]

Enwir eglwys Cilpeddeg fel "Lann Degui Cil Pedec" (sef Llanddewi Cilpeddeg) mewn rhestr o eglwysi a luniwyd tua 1120 yn Llyfr Llandaf .[3] Mae'r eglwys bellach wedi ei chysegu i Ddewi a Mair, ac mae'r adeilad yn enghraifft flaenllaw o bensaernïaeth Normanaidd (neu Romanesg). Adeiladwyd hi tua 1140.

Bu hefyd castell mwnt a beili Normanaidd ar y safle ond nid yw hwnnw bellach yn sefyll.

Hyd at y 9g, pan orchfygwyd yr ardal o'i amgylch gan Mersia, bu'r pentref yn rhan o deyrnas Ergyng. Wedi'r Concwest Normanaidd daeth yr ardal i gael ei alw'n Archenfield ac fe'i llywodraethwyd fel rhan o'r Mers. Daeth yn rhan o Swydd Henffordd yn yr 16g, ond parhaodd defnydd o'r Gymraeg yno hyd at y 19g.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 19 Mawrth 2024
  2. City Population; adalwyd 19 Mawrth 2024
  3. Coe, Jonathan Baron (2001). The Place-Names of the Book of Llandaf (PDF). Aberystwyth: PhD Prifysgol Cymru. t. 415.