Y Fflam

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfnodolyn llenyddol Gymraeg ei iaith oedd Y Fflam a gyhoeddwyd o 1946 hyd 1952 i gynnig llwyfan i lenorion Cymraeg ifainc. Roedd yn cynnwys barddoniaeth, darluniau a gwaith celf, ffuglen ac adolygiadau. Yr oedd yn yn wleidyddol ac yn gryf o blaid cenedlaetholdeb Cymreig radical.

Euros Bowen, Pennar Davies a J. Gwyn Griffiths oedd golygyddion y cylchgrawn, ac roedd y cyfranwyr rheolaidd yn cynnwys D. Tecwyn Lloyd, Gareth Alban Davies, Bobi Jones, ac R. S. Thomas.

Sefydlwyd Gwasg Y Fflam, Y Bala i gyhoeddi Y Fflam.

Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido fel rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dolenni allanol [golygu]

Book template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Flag of Wales 2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato