Wladimir Kaminer
Cafodd Wladimir Kaminer (Rwsieg Владимир Каминер); ei eni yr 19eg Gorffenaf 1967. Mae e'n awdur 'deutsch-russischer' sef Rwsieg-Almaeneg. Y mae hefyd yn golofnydd, awdur straeon byrion ac yn DJ. Mae ei deulu o darddiad Iddewig yn Rwsia. Cafodd ei eni ym Moscow, Mosgfa. Yno astudiodd dechnoleg sain cyn droi at y theatr yn Sefydliad Drama Mosgfa.
Wedi cwymp Wal Berlin symudodd i'r DDR (Dwyrain yr Almaen) - lle cafodd ddinasyddiaeth misoedd cyn yr aduniad Almaeneg. Daeth yn ddinasydd y BRD Yr Almaen yn otomatig wedyn. Sefydlodd ei hun ym Marzahn, Berlin, ym 1990. Daeth yn ffigwr enwog ymhlith llenorion Berlin yn y clwb Kaffee Burger. Mae'n cyfrannu i gylchgronnau llenyddol, ac mae ganddo fo sioe radio Wladimir's World, ar Rundfunk Berlin-Brandenburg. Mae Kaminer hefyd yn DJ ar ei "Russendiskos" ei hun, ac mae e'n chwarae dim ond cerddoriaeth Rwsieg. Er mai'r Rwsieg yw ei famiaith mae'n sgwennu yn yr Almaeneg yn unig, ac yn aml yn ysgrifennu am sefyllfa y mewnfudwyr o Rwsia.
Yn 2006 penderfynnodd sefyll fel Maer Berlin; ers hyn mae e wedi treulio ei amser yn siarad i gylchoedd llenyddol drwy'r byd almaeneg. Cadwodd ddyddiadur, nodiadau a ddaeth yn nes ymlaen ei gasgliad "Deutsches Dschungelbuch" (Tswngl-llyfr Almaeneg). Mae o'n un o nifer o awduron tramor sy wedi cyfrannu at Lên Almaeneg ers 2000 fel Rafik Schami ac awduron erraill y grwp "Sudwind" (Gwynt y De).
Llyfryddiaeth [golygu]
- Russendisko (2000), fersiwn Saesneg fel Russian Disco (2002) a ddaeth wedyn yn ffilm llwyddianus.
- Schönhauser Allee (2001)
- Militärmusik (2001)
- Die Reise nach Trulala (2002)
- Mein deutsches Dschungelbuch (2003)
- Ich mache mir Sorgen, Mama (2004)
- Karaoke (2005)
- Küche totalitär. Das Kochbuch des Sozialismus (2006)
- Ich bin kein Berliner. Ein Reiseführer für faule Touristen (2007)
- Mein Leben im Schrebergarten (2007)
- Es gab keinen Sex im Sozialismus (2009)
- Debbie Macht Dallas (1998)
Cyfeiriadau [golygu]
- http://www.munzinger.de/search/portrait/Wladimir+Kaminer/0/23999.html Wladimir Kaminer: deutsch-russischer Schriftsteller. Profile at munzinger.de. (German)
- "Immigrieren geht einfacher als eine Ausstellung darüber zu machen" Georg Klein, Jüdische Zeitung, April 2010. Darllenwyd Medi 2010. (Almaeneg)
- Kaminer macht die Heimat dicht Anne Lena Mösken, Berliner Zeitung, 27 April 2007. Darllenwyd Medi 2010. (Almaeneg)
- Kaminer will Wowereit beerben Der Spiegel, 23 October 2006. Darllenwyd Medi 2010. (Almaeneg)
- Kaminer, Wladimir (2007). Ich bin kein Berliner: Ein Reiseführer für faule Touristen. Munich: Goldmann. p. 211. ISBN 978-3-442-54240-6.