William Glyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

William Glyn neu William Glynn (1504 - 21 Mai 1558) oedd Esgob Bangor o 1555 hyd ei farw. Ef oedd yr esgob Catholig olaf ym Mangor.

Bywgraffiad[golygu]

Ganed Glyn yn Heneglwys, Ynys Môn, yn fab i John Glyn. Addysgwyd ef yng Ngholeg y Breninesau, Caergrawnt. Mae'n ymddangos iddo gydymffurfio a newidiadau crefyddol y brenin Harri VIII, er iddo ymddiswyddo o gadair ei goleg yn ystod teyrnasiad Edward VI. Pan ddaeth y frenhines Mari i'r orsedd, daeth yn llywydd Coleg y Breninesau yn 1553, ac yr oedd yn un o'r rhai a yrrwyd i ddadlau â Nicholas Ridley a Hugh Latimer yn 1554. Aeth i Rufain yn 1555, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno penodwyd ef yn Esgob Bangor.

Gadawodd fab o'r enw Gruffydd Glyn, fu'n Siryf Sir Gaernarfon. Penodwyd Morys Clynnog yn Esgob Bangor fel olynydd iddo, ond bu farw'r frenhines Mari a bu raid iddo ffoi i Rufain cyn cael ei gysegru.

Cyfeiriadau[golygu]