Morys Clynnog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Morys Clynnog (c. 1525 - 1581) yn ddiwinydd Catholig Cymreig ac yn un o'r ffigyrau pwysicaf ymhlith y Gwrthddiwygwyr Cymreig.

Bywgraffiad[golygu]

Mae'n debyg iddo gael ei eni yn ardal Clynnog Fawr yn Arfon, Gwynedd. Addysgwyd ef yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen, gan raddio yn 1548 Bu'n gaplan i'r Cardinal Reginald Pole am gyfnod. Penodwyd ef yn Esgob Bangor ar farwolaeth William Glyn yn 1558, ond cyn iddo gael ei gysegru bu farw'r frenhines Mari I o Loegr. Nid oedd Morys Clynnog yn barod i dderbyn newidiadau crefyddol y frenhines newydd, Elizabeth, ac aeth i Rufain.

Gwnaed ef yn warden yr Ysbyty Seisnig yn Rhufain yn 1577, a phan sefydlwyd Coleg Seisnig yno y flwyydyn ddilynol gan Owen Lewis, dewiswyd Morys Clynnog yn rheithor. Bu raid iddo ymddeol o'r swydd yma yn 1579 wedi i'r myfyrwyr Seisnig gwyno ei fod yn ffafrio'r Cymry.

Credir iddo foddi yn gynnar yn 1581 tra'n teithio mewn llong o Ffrainc i Sbaen.

Athravaeth Gristnogavl[golygu]

Yn 1568 cyhoeddodd yr Athravaeth Gristnogavl ('Athrawaeth Gristnogawl'), catecism byr, gyda'r rhagymadrodd wedi ei ysgrifennu gan ei gyfaill Gruffydd Robert. Mae'r ddwy ran gyntaf o ramadeg Gruffydd Robert, Dosparth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg Cymraeg yn defnyddio ffurf ymgom mewn gwinllan rhwng ddau gyfaill, Gr. (hynny yw, Gruffydd ei hun) a Mo. (hynny yw, Morys Clynnog). Collwyd pob copi o'r llyfr hwn hyd nes i Louis Lucien Bonaparte, nai i Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc ddatgan fod ganddo gopi. Ef hefyd a drawslythrennodd y gwaith i Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion a chaniatáu iddynt ei gyhoeddi yn 1880.[1]


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Y Bywgraffiadur Ar-lein; Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 4 Rhagfyr 2014