Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Llong U

Oddi ar Wicipedia
WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Llong U


Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Datblygiad Rhyfela
HWB
Arfau a thechnoleg
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Mae'r term Llong U yn dod o'r gair Almaeneg U-Boot [ˈuːboːt], sef talfyriad o Unterseeboot. Tra bod y term Almaeneg yn cyfeirio at unrhyw long danfor, mae'r un Saesneg (a'r Gymraeg) yn cyfeirio'n benodol at longau tanfor milwrol a weithredir gan yr Almaen, yn enwedig yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Datblygodd yr Almaen eu fflyd o longau tanfor mewn ymateb i'r ras arfau gyda'r Deyrnas Unedig a oedd â fflyd o longau rhyfel pwerus gan cynnwys y Dreadnought. Ar adegau roedd yn arfau effeithlon yn erbyn llongau rhyfel llynges y gelyn ond fe'u defnyddiwyd yn fwyaf effeithiol mewn rôl rhyfela economaidd a gorfodi gwarchae llynges yn erbyn llongau y gelyn. Prif dargedau'r ymgyrchoedd llongau U yn y ddau ryfel byd oedd y confois morgludiant masnachol yn dod â chyflenwadau o Ganada a rhannau eraill o'r Ymerodraeth Brydeinig, ac o'r Unol Daleithiau i'r Deyrnas Unedig ac (yn ystod yr Ail Ryfel Byd) i'r Undeb Sofietaidd a tiriogaethau'r Cynghreiriaid ym Môr y Canoldir. Fe wnaeth llongau tanfor yr Almaen hefyd ddinistrio llongau masnach o Brasil yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan gorfodi Brasil i ddatgan rhyfel ar yr Almaen a'r Eidal ar 22 Awst 1942. Roedd llongau tanfor Llynges Austro-Hwngari hefyd yn cael eu galw'n llongau U.

Ras arfau[golygu cod]

Prif: Ras arfau

Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif Prydain oedd pŵer llyngesol mwyaf y byd. Yn ystod y blynyddoedd cyn i’r rhyfel mawr ddechrau yn 1914, roedd Prydain a’r Almaen wedi bod yn cymryd rhan mewn râs arfau. Daeth y rhyfel yma i gynrychioli math newydd o ryfela ar y môr a fyddai’n rhoi lle blaenllaw i genhedlaeth newydd o longau rhyfel a llongau tanfor. Roedd y Dreadnought yn enghraifft berffaith o’r llongau newydd hyn a daethant yn symbol o rym llynges Prydain ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Dyma’r llongau rhyfel mwyaf effeithiol oedd yn bodoli ar y pryd. Roedd y datblygiad a'r defnydd o longau U un un o'r ymatebion Yr Almaen i'r datblygiadau yma.[1]

Y rhyfel ar y môr[golygu cod]

Paentiad Almaeneg yn dangos y Lusitania yn cael ei dorpido

Yn y Rhyfel Byd Cyntaf daeth rhyfel ar y môr yn brawf o ddyfeisgarwch yn enwedig gan y byddai’n cael ei ymladd o dan y môr am y tro cyntaf. Roedd uwch reolwyr Prydain yn sylweddolo bod rheoli Môr y Gogledd yn allweddol. Yn ogystal â gwynebu llynges yr Almaen, byddai angen i’r llynges rwystro cyflenwadau i’r Almaen er mwyn gwanhau’r wlad. Aeth y Fflyd Fawr ati i batrolio Môr y Gogledd a gosod ffrwydradau i amharu ar longau masnach yr Almaen.

Daeth y bygythiad mwyaf i lynges Prydain ar yr wyneb o longau tanfor yr Almaen, y Llongau U. Roedd hi’n anodd dod o hyd i U-Boats gan mai’r perisgôp oedd y dull mwyaf effeithiol i ddod o hyd i longau’r gelyn ar adeg pan oedd technoleg sonar yn newydd iawn.[2]

Ar 5 Medi 1914 yr HMS Pathfinder oedd y llong gyntaf i’w suddo gan long danfor a oedd yn defnyddio torpido wedi’i baratoi ganddi hi ei hun. Ym mis Chwefror 1915, mewn ymgais i dalu’r pwyth yn ôl am geisio atal llongau masnach yr Almaen, cafodd comanderiaid llongau tanfor yr Almaen eu gorchymyn i suddo llongau masnach Prydeinig a hyd yn oed llongau niwtral yn ddirybudd, os oedden nhw’n credu bod nhw’n cario cyflenwadau. Roedd yr Almaen hefyd trwy wneud hynny yn ceisio llwgu Prydain drwy danio torpidos o longau tanfor I suddo llongau bwyd. Suddwyd y llong deithio Lusitania (Mai 1915) a chollodd 1,198 o bobl eu bywydau allan o 1,959 oedd yn hwylio arni. Roedd hyn yn cynnwys 128 o Americanwyr, mewn ymosodiad a rhoddodd sioc fawr i’r Cynghreiriaid. Yn 1917 bu’n rhaid i David Lloyd George, Prif Weinidog Prydain, gyflwyno dogni ar rai nwyddau yn 1917 ac 1918 oherwydd bod ymosodiadau gan longau tanfor yr Almaen ar longau oedd yn cario bwyd i Brydain wedi cynyddu.

Daeth y rhyfel ar y môr yn rhyfel nerfau ac roedd llawer yn gobeithio am fuddugoliaeth fawr fel Trafalgar. Brwydr Jytland (31 Mai 1916) oedd yr unig enghraifft o frwydr lawn, uniongyrchol rhwng llynges Prydain a'r Almaen ar y môr. Roedd hon yn frwydr ar Fôr y Gogledd wrth ymyl Denmarc rhwng llynges yr Almaen a’r llynges Brydeinig. Cafodd miloedd o ddynion eu lladd wrth i dorpidos suddo’u llongau, ac roedd colledion uchel ar y ddwy ochr. Roedd canlyniad y frwydr yn amhendant er bod gan Brydain 151 o longau a dim ond 99 oedd gan yr Almaen. Collodd Prydain 3 cadgriwser, 3 chriwser, 8 llong ddistryw ynghyd â 6,100 o ddynion. Collodd yr Almaenwyr 1 llong ryfel, 1 cadgriwser, 4 criwser a 5 llong ddistryw ynghyd â 2,550 o ddynion. Er hynny, gwelwyd y frwydr fel buddugoliaeth i Brydain oherwydd iddi gadw rheolaeth dros Fôr y Gogledd.[3]

Parhaodd llynges Prydain i rwystro masnach a bu’n rhaid i’r wlad ddibynnu ar ei llongau cargo arferol i fewnforio bwyd a defnyddiau crai yn ogystal â chludo milwyr ac arfau. Ar ôl y rhyfel cyflwynodd y Brenin Siôr V y teitl Llynges Fasnachol i gydnabod cyfraniad y llongwyr masnachol.

Yn ystod y rhyfel byd cyntaf, roedd llongau U yn aml yn agos at arfordir Cymru a gwyddys bod 17 o longau masnach wedi cael eu suddo oddi ar arfordir Cymru.[4]


Cyfeiriadau[golygu cod]

  1. "Datblygiad Rhyfela" (PDF). CBAC.
  2. "Arfau a technoleg". hwb.gov.wales. Cyrchwyd 2020-04-16.
  3. "Prif Frwydrau'r Rhyfel Byd Cyntaf". hwb.gov.wales. Cyrchwyd 2020-04-16.
  4. "Commemorating the Forgotten U-boat War around the Welsh Coast 1914-18". Nautical Archaeology Society (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-16.