Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Lleidr penffordd

Oddi ar Wicipedia
Peintiad gan William Powell Frith o Lladron Penffordd
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
BBC Bitesize
Twf lladrata pen ffordd yn y 18fed ganrif
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Roedd lleidr penffordd yn droseddwyr a ddygodd o deithwyr. Roedd y math hwn o leidr fel arfer yn teithio ac yn lladrata ar gefn ceffyl. [1] Roedd troseddwyr o'r fath yn gweithredu ym Mhrydain Fawr o oes Elisabeth hyd at ddechrau'r 19eg ganrif ac yn eu hanterth yn ystod y 18fed ganrif. Mewn llawer o wledydd eraill, fe wnaethant barhau am ychydig ddegawdau yn hwy, tan ganol neu ddiwedd y 19eg ganrif. Dywedwyd bod gwragedd priffyrdd, fel Katherine Ferrers, yn bodoli hefyd, yn aml yn gwisgo fel dynion, yn enwedig mewn ffuglen.

Un o’r rhesymau pam fod lladrata ar y ffordd yn un o’r troseddau roedd pobl yn ei ofni fwyaf oedd oherwydd fod defnyddio trais, bygwth defnyddio trais neu hyd yn oed llofruddiaeth yn gyffredin i’r drosedd yma.

Rhannwyd lladrata ffordd yn ddau fath, sef lladron pen ffordd a lladron ar droed (footpads yn Saesneg). Roedd yr olaf rhywbeth yn debyg i mygiwr heddiw a chredai pobl mai y rhain yn hytrach na lladron pen ffordd oedd yn fwy tebygol o ddefnyddio trais. Roedd lladron pen ffordd yn lladrata ar gefn ceffyl ac roedd llawer o chwedloniaeth yn gysylltiedig gyda hwy. Roedd pobl yn credu mai gwŷr bonheddig yn gwisgo masg ar gefn ceffyl gyda phistol oedd lladron pen ffordd ac wrth ddwyn byddent yn cael sgwrs gwrtais gyda’r dioddefwr ac yn dychwelyd rhywfaint o’r arian ar ôl ei ddwyn. Credwyd hefyd eu bod yn defnyddio geiriau fel Eich arian neu eich bywyd!, neu Stand and deliver!.

Yn aml iawn byddai lladron pen ffordd yn aros tu allan i ddinasoedd mawr fel Llundain am y goets wrth iddi ddod allan o’r ddinas a theithio ar draws Hampstead Heath. Roedd y goets yn ddull cyffredin o deithio i’r bobl cyfoethog yn y cyfnod yma gan nad oedd trenau wedi dod yn gyffredin fel ffordd o deithio. Byddai lladron penffordd fel arfer yn gweithio fel unigolion tra bod y lladron troed yn dueddol i fod yn rhan o gangiau.

Yn aml iawn byddai lladron pen ffordd yn aros tu allan i ddinasoedd mawr fel Llundain am y goets wrth iddi ddod allan o’r ddinas a theithio ar draws Hampstead Heath. Roedd y goets yn ddull cyffredin o deithio i’r bobl cyfoethog yn y cyfnod yma gan nad oedd trenau wedi dod yn gyffredin fel ffordd o deithio. Byddai lladron penffordd fel arfer yn gweithio fel unigolion tra bod y lladron troed yn dueddol i fod yn rhan o giangiau.  

Y ddeunawfed ganrif[golygu cod]

Lleidr penffordd efo pistol

Byddai’r Goets Fawr yn cludo post a theithwyr a gan fod cyflwr yr hewlydd mor wael roedd y goets yn medru troi’n darged rhwydd i’r lladron hyn. Gan nad oedd banciau’n gyffredin yr adeg hynny byddai llawer o bobl cyfoethog yn

cludo eu harian a’u heiddo gwerthfawr, er enghraifft, gemwaith gyda hwy wrth iddynt deithio. Roedd diffyg giard ar y goets yn golygu ei bod yn darged rhwydd i ladron pen ffordd. Gyda thwf y trefi diwydiannol yn ystod y 18fed ganrif roedd llawer o dor-cyfraith yn y mannau hynny a doedd dim awdurdodau yn bodoli i fedru eu plismona. Gyda hynny dechreuodd lladron pen ffordd dargedu yr ardaloedd hynny i gyflawni eu trosedd. Trodd llawer o gyn-filwyr, yn enwedig ar ôl y Rhyfeloedd Napoleanaidd at ladrata pen-ffordd fel ffordd o fyw, yn enwedig gan fod hi’n rhad ac yn haws i brynu ceffyl a phistol. Roedd y porthmyn hefyd yn darged i’r lladron pen ffordd wrth iddynt yrru eu hanifeiliaid ar hyd yr heolydd a’r llwybrau mynyddig o’r ardaloedd gwledig i farchnadoedd fel Smithfield yn Llundain. Dyma un o’r rhesymau pam sefydlwyd Banc yr Eidion Du, Banc y Ddafad Ddu a Banc Aberystwyth a Thregaron at ddefnydd y porthmyn.[2][3][4]

Dick Turpin[golygu cod]

Rhai o ladron pen ffordd enwocaf Lloegr yn y 18fed ganrif oedd Dick Turpin a Jack Sheppard. Cigydd oedd Dick Turpin a gychwynnodd ei yrfa fel lleidr yn dwyn arian a bwrglera tai pobl. Yna trodd yn leidr pen ffordd ac roedd ef a’i giang yn cuddio mewn ogof yn Fforest Epping,a oedd hefyd yn bencadlys iddynt. Wedi iddo saethu ei gyd-leidr penffordd, sef Tom King, gwnaeth ffoi i Efrog a newid ei enw er mwyn osgoi cael ei ddal gan yr awdurdodau. Ond yn 1730 arestiwyd ef am ddwyn ceffyl a chrogwyd ef yn Efrog.  

Lladron Penffordd yn Ngymru[golygu cod]

Ogof Twm Sion Cati

Roedd Lladron Penffordd yn gweithredu yng Nghymru fel pob gwlad arall yn Ewrop, gyda Lladron Penfordd enwog fel Twm Sion Cati efo lle pwysig yn ein hanes.

Mae tystiolaeth ymysg papurau llysoedd barn Cymru o’r math o eiriau bygythiol fyddai’n cael eu defnyddio, er enghraifft, yng nghofnod Llys y Sesiwn Fawr yn 1755 dywedodd un lleidr pen ffordd yn Gymraeg: Sefwch God damo chi. Efe ceisiwch eich arian chwi. Yn yr achos yna gwrthododd y ddau deithiwr roi eu harian iddo, ffodd y lladron ond cawsant eu dal a’u trawsgludo am saith mlynedd.

Dim ond mewn un achos yng Nghymru rhwng 1730 a 1830 mae ‘na dystiolaeth i leidr pen ffordd ymddwyn fel gwr bonheddig. Ym 1741 lladratwyd eiddo Jane Harry gan ddau ŵr gyda’u hwynebau wedi eu cuddio. Dygodd y ddau leidr £17 -19-0 (£17.80) oddi arni cyn dychwelyd chwech ceiniog (2 1/2c) yn ôl iddi er mwyn iddi allu rhoi llwnc destun i iechyd y ddau leidr. Er gwaethaf eu hymddygiad bonheddig, crogwyd un ond dihangodd y llall cyn iddo gael ei arestio.

Roedd lladrata ffordd yn arwain at drais yn aml, yn enwedig os oedd yna’r arwydd lleiaf o wrthod ufuddhau i orchmynion y lleidr. Defnyddiwyd trais yn aml beth bynnag, er enghraifft roedd Sarah Thelwall ar ei ffordd i ddawns gyda’i chyfaill Samuel Smith pan ymosodwyd arnynt ar y stryd yn Wrecsam yn 1825 gan nifer o ddynion a ladratodd ei chlogyn. Flwyddyn yn ddiweddarach yn yr un dref roedd Henry Bankes yn piso yn erbyn mur pan darawyd ef i’r llawr a dygwyd pum swllt (25c) oddi wrtho.

Roedd lladrata ffordd a arweiniodd at ladd yn cael llawer o sylw gan y wasg ac mewn baledi’r cyfnod. Cyhoeddwyd baledi am Lewis Owen a saethodd ddyn ar ôl iddo wrthod ymdrechion Owen i ddwyn ei arian ym 1822 ac hefyd am John Connor am ddwyn a cheisio lladd dau oruchwyliwr y tlodion yn yr un flwyddyn. Soniwyd hefyd am Thomas Thomas a laddodd cariwr o Silian, Ceredigion ym 1845 ac am John Roberts a laddodd Jesse Roberts, athro ysgol, cyn dwyn ei oriawr ym 1853. Ond yr achos a gafodd fwyaf o sylw oedd yr achos llofruddiaeth yn Dafen. Yn 1887 newidiodd clerc gwaith tun Dafen siec am £590 yn y banc lleol er mwyn talu cyflogau’r gweithwyr. Ar ei ffordd o’r banc ymosodwyd arno gan David Rees gyda darn o haearn a’i ladd er mwyn dwyn arian. Achosodd y llofruddiaeth gryn ddrwgdeimlad. Cafwyd adroddiadau maith yn y wasg am y llofruddiaeth, yr achos llys ac am ddienyddiad David Rees yn 1888.

Roedd llenyddiaeth a gyhoeddwyd yn y 19eg ganrif yn parhau i hyrwyddo’r syniad rhamantaidd yma o ladron pen ffordd fel Dick Turpin. Roedd y realiti yn wahanol iawn i’r ddelwedd yma.

Twm Sion Cati[golygu cod]

Roedd Thomas Jones, sef ei enw iawn, yn leidr pen ffordd o’r 16eg a 17eg ganrif. Roedd yn llochesi yn y mynyddoedd mewn ogof uwchben Tregaron, Sir Ceredigion ac mae chwedloniaeth yn ei bortreadu fel math o ffigwr rhadlon a oedd yn dwyn o’r cyfoethog i roi arian i’r tlawd.[5] Roedd Thomas Jones, Porth-y-Ffynnon, Tregaron, yn dirfeddiannwr, yn fardd, yn hynafiaethydd ac achyddwr ond adnabyddir ef yn bennaf fel lleidr pen ffordd enwocaf Cymru yn ystod y 17eg ganrif.[6][7]

Diwedd lladrata pen ffordd[golygu cod]

Llwyddwyd i leihau nifer y lladron pen-ffordd drwy cael gwarchodwyr i deithio ar y goets, gwellodd cynllun coetsys fel eu bod yn medru teithio yn fwy cyflym ac erbyn dechrau’r 19eg ganrif roedd arwynebedd yr heolydd wedi cynyddu cyflymder teithio coetsys. Ar ôl 1763 roedd Patrol Geffylau y Brodyr Fielding yn fwy gwyliadwrus o ladron pen ffordd, a gyda thwf y trefi roedd llai o ardaloedd a hewlydd diarffordd ble fyddai lladron pen ffordd yn medru llochesi a chuddio. Ar ben hynny roedd Ynadon Heddwch yn gwrthod rhoi trwyddedau i dafarndai oedd yn rhoi llety a lloches i ladron pen ffordd.[8]

Cyfeiriadau[golygu cod]

  1. Rid, Samuel. "Martin Markall, Beadle of Bridewell," in The Elizabethan Underworld, A. V. Judges, ed. pp. 415–416. George Routledge, 1930. Online quotation. See also Spraggs, Gillian: Outlaws and Highwaymen: the Cult of the Robber in England from the Middle Ages to the Nineteenth Century, pp. 107, 169, 190–191. Pimlico, 2001
  2. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. t. 63. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
  3. Peredur Lynch, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Gwasg Prifysgol Cymru. t. 63.
  4. "Twf lladrata pen ffordd yn y 18fed ganrif - Natur troseddau - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  5. "Ewyllys Twm Siôn Cati". Llyfrgell Gendlaethol Cymru. Cyrchwyd 8 Ebrill 2020.
  6. "Ach Eisteddfodol". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2019-07-08. Cyrchwyd 2020-04-08.
  7. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. t. 492. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
  8. "Llofruddion a lladron Pen-ffordd: Y genre trosedd a chosb yng Nghymru'r 19eg Ganrif". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2019-12-09. Cyrchwyd 2020-03-27.