Coets fawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Coets fawr yn Bafaria yn y 19eg ganrif (paentiad gan Anton Braith)

Cerbyd bedwar olwyn a dynnid gan dîm o hyd at bedwar neu chwech o geffylau harnais oedd y goets fawr. Fe'i defnyddid am deithiau hir ar briffyrdd Prydain a Gorllewin Ewrop o ganol yr 17eg ganrif hyd at ddyfodiad y rheilffordd. Yr enw Saesneg arni oedd stagecoach, am ei bod yn arfer rhannu'r siwrnai'n gyfres o siwrnau llai. Cedwid ceffylau ar gyfer y goets fawr mewn tafarndai arbennig ar hyd y ffordd a byddai'r gyrrwyr yn newid y ceffylau yno. Fel rheol yr oedd gan y goets fawr seddi i chwech y tu mewn iddi a lle i deithwyr tlawd ar y to. Roedd y goets yn cario nwyddau a llythyrau hefyd. Cludid y post brenhinol ar y coetsys mawr o 1784 ymlaen yng ngwledydd Prydain.

Cyfnod mawr y goets fawr yn Ewrop oedd y ddeunawfed ganrif. Roedd yn ffordd anghyfforddus iawn i deithio, yn bennaf oherwydd cyflwr echrydus y ffyrdd. Mewn rhai llefydd roedd lladron penffordd yn berygl hefyd.

Roedd y goets fawr yn gyfrwng cludiant pwysig yn yr Unol Daleithiau ac Awstralia yn y 19eg ganrif.

Transportation template.png Eginyn erthygl sydd uchod am gludiant. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.