Wendy Everson

Oddi ar Wicipedia
Wendy Everson
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnWendy Everson
Dyddiad geni (1965-04-07) 7 Ebrill 1965 (58 oed)
Manylion timau
DisgyblaethTrac
RôlReidiwr
Math seiclwrSbrint
Tîm(au) Amatur
Prif gampau
Pencampwr y Byd
Baner Prydain Fawr Pencampwr Cenedlaethol
Golygwyd ddiwethaf ar
12 Hydref 2007

Seiclwraig trac Seisnig oedd Wendy Everson (ganwyd 7 Ebrill 1965), roedd hi'n arbenigo mewn sbrintio.

Dadlodd Everson gyda British Cycling yn 2001 ynglŷn â'r penderfyniad i beidio a'i chefnogi yn ariannol, daeth a achos tribiwnlys cyflogiad yn eu herbyn ond collodd ar y sail nad oedd hi, fel cystadlwr, yn aelod o staff British Cycling.[1]

Roedd Everson ar un adeg yn dal record merched Prydain ar gyfer 500 metr (dechrau ar 'hedfan'), gyda amser o 31.116 eiliad. Torodd Victoria Pendleton y record yn 2002. Mae hi'n dal record Meistri'r Byd, Merched 30-39 oed ar gyfer 200 metr (dechrau ar 'hedfan') ers 2000, gyda amser o 12.415 eiliad, a record Meistri Merched y Byd ar gyfer Tîm Sbrint 750 metr ynghyd â Suzie Tignor & Annette Hanson o'r Unol Daleithiau, hefyd yn 2001, gyda amser o 54.031 eiliad.

Mae Everson yn byw ym Mhen-y-bont, Bro Morgannwg.

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

1995
1af Baner Prydain Fawr Treial Amser 500 metr, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
1996
1af Baner Prydain Fawr Treial Amser 500 metr, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
1999
1af Baner Prydain Fawr Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
1af Baner Prydain Fawr Ras Bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2il Treial Amser 500 metr, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2000
1af Sbrint, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI Meistri 30-39
1af Treial Amser 500 metr, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI Meistri 30-39
1af Baner Prydain Fawr Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2il Ras Bwyntiau, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI Meistri 30-39
3ydd Treial Amser 500 metr, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2001
1af Ras Bwyntiau, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI Meistri 30-39
2il Sbrint, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI Meistri 30-39

Treial Amser 500 metr, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.