Victoria Pendleton

Oddi ar Wicipedia
Victoria Pendleton
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnVictoria Louise Pendleton
LlysenwVicky
Dyddiad geni (1980-09-24) 24 Medi 1980 (43 oed)
Taldra1.65 m
Pwysau62 kg
Manylion timau
DisgyblaethTrac
RôlReidiwr
Math seiclwrSbrint
Tîm(au) Amatur
Tîm(au) Proffesiynol
2006–2007
2008–
scienceinsport.com
SKY Track Cycling
Prif gampau
Pencampwr y Byd x9
Gemau Olympaidd
Gemau'r Gymanwlad
Gemau'r Gymanwlad
Baner Prydain Fawr Pencampwr Prydain
Golygwyd ddiwethaf ar
18 Gorffennaf 2012

Seiclwraig rasio Seisnig ydy Victoria Pendleton (ganwyd 24 Medi 1980).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed Victoria Louise Pendleton, a'i gefaill Alex James, ar 24 Medi 1980 yn Stotfold, Swydd Bedford, Dwyrain Lloegr, yn ferch i Max Pendleton, seiclwr brwdfrydig a chyn-bencampwr cenedlaethol seiclo trac gwair, a Pauline M Viney. Mae ganddi hefyd chwaer hŷn, Nicola Jane.[2] Cystadlodd yn ei ras cyntaf, sef ras 400 metr trac gwair yn Fordham pan oedd yn 9 oed. Daeth gallu addawol Pendleton i'r golwg pan oedd yn 13, a sylwodd cyd-hyfforddwr trac cenedlaethol, Marshal Thomas, arni tair mlynedd yn ddiweddarach. Roedd Pendleton eisiau canolbwyntio ar ei haddysg ar y pryd, gan fynychu Ysgol Fearnhill, Letchworth Garden City, cyn mynd ymlaen i ennill gradd mewn Gwyddoniaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff o Brifysgol Northumbria, Newcastle upon Tyne. Parhaodd i gyfuno ei seiclo gyda'i hastudiaethau cyn dod yn seiclwraig llawn amser wedi iddi raddio.[3]

Llwyddiant ar y trac[golygu | golygu cod]

Enillodd Pendleton bedwar medal arian ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Prydain yn 2001, tra roedd hi dal yn fyfyrwraig. Yn 2002, cymhwysodd i fod yn aelod o dîm Lloegr yng Ngemau'r Gymanwlad gan orffen yn bedwrydd yn y sbrint. Daeth yn bedwerydd hefyd ym Mhencampwriaethau Trac y Byd 2003, yn Stuttgart ac yn bedwerydd unwaith eto ym Mhencampwriaethau Trac y Byd 2004, Melbourne. Roedd yn ail yn sbrint Cwpan y Byd 2004, gan ennill y sbrint yng nghymal Cwpan y Byd ym Manceinion.

Gorffennodd yn 6ed safle yn Nhreial Amser y Gemau Olympaidd 2004 a 9fed yn y Sbrint.

Torodd record Kilo merched Prydain yn 2005 gyda amser o 1 munud 10.854 eiliad, gosodwyd yr hen record, 1 munud 14.18 eiliad, gan Sally Boyden yn 1995.[4] Enillodd Pendleton ei medal pwysig cyntaf gyda aur yn sbrint Pencampwriaethau Trac y Byd, gan ddod yn drydedd pencampwraig y byd seiclo Prydeinig mewn 40 mlynedd.[5]

Yng Ngemau'r Gymanwlad yn Melbourne, enillodd y fedal arian yn y treial amser 500m a'r fedal aur yn y sbrint.

Ym Mhencampwriaethau'r Byd, 2007, enillodd y fedal aur yn y sbrint tîm gyda Shanaze Reade, yr aur yn y sbrint, a thrydedd medal aur yn y Keirin.[6] Enwyd yn Chwaraewraig y Flwyddyn y Sunday Times ar gyfer 2007, y seiclwraig cyntaf i ennill y wobr yn hanes 20 mlynedd y wobr.[7] Pendleton was also voted Sports Journalists' Association of Great Britain's sportswoman of the year for 2007.[8]

Pendleton ym Mhencampwriaethau'r Byd, 2008

Yn ystod ei pharatoadau ar gyfer y Gemau Olympaidd, enillodd ddau fedal aur ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2008, yn y sbrint a'r sbrint tîm (gyda Shanaze Reade unwaith eto); daeth hefyd yn ail yn y keirin. Yn y Gemau Olympaidd, cipiodd Pendleton y fedal aur yn y sbrint.

Apwyntwyd yn Alod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) ar restr anrhydeddau'r flwyddyn newydd yn 2009.[9]

Deliodd ei teitl fel pencampwraig sbrint y byd yn Pruszków yn 2009. Roedd yn gystadleuaeth agos, a bu'n rhaid i'r beirniaid gyfeirio at ffotograffau i bendefynnu'r canlyniad mewn sawl gornest. Yn y diwedd roedd Pendleton yn emosiynol iawn, ond yn fuddugol dros ei chystadleuydd Iseldiraidd, Willy Kanis.[10]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Ym mis Gorffennaf 2009, ymddangosodd Pendleton ar glawr y cylchgrawn ar gyfer dynion, FHM.[11] Mae wedi ymddangos mewn nifer o hysbysebion yn dilyn ei llwyddiant ar y trac, gan gynnwys Hovis, Gatorade, EDF a Pantene.[12] Ymddangosodd ar glawr cylchgrawn Esquire, gyda cyfres o luniau tu mewn yn eu rhifyn Awst 2012, yn fuan cyn y Gemau Olympaidd.[13]

Mae Pendelton wedi dyweddio â Scott Gardner, gwyddonydd chwaraeon a fu'n gweithio i British Cycling.[14]

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

1999
3ydd Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2000
3ydd Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2002
1af Baner Prydain Fawr Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
1af Baner Prydain Fawr Treial Amser 500m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2003
1af Baner Prydain Fawr Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
1af Baner Prydain Fawr Treial Amser 500m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
1af Baner Prydain Fawr Ras Scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
1af Baner Prydain Fawr Keirin, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
1af Scratch, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd
2il Sbrint, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd
3ydd Ras Bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
4ydd Sbrint, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
2004
1af Baner Prydain Fawr Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
1af Baner Prydain Fawr Treial Amser 500m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2il Sbrint, Cwpan y Byd
1af Sbrint, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd
4ydd Sbrint, Cymal Moscow, Cwpan y Byd
5ed Sbrint, Cymal Sydney, Cwpan y Byd
1af Keirin, Cymal Los Angeles, Cwpan y Byd
3ydd Treial Amser 500m, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd
4ydd Sbrint, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
5ed Ras Scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2005
1af Sbrint, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af Baner Prydain Fawr Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
1af Baner Prydain Fawr Treial Amser 500m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
1af Baner Prydain Fawr Ras Scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
1af Baner Prydain Fawr Keirin, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
1af Sbrint, Cymal Manceinion (1), Cwpan y Byd
2il Sbrint, Cymal Manceinion (2), Cwpan y Byd
2il Sbrint, Cymal Moscow, Cwpan y Byd
2il Treial Amser 500m, Cymal Manceinion (2), Cwpan y Byd
3ydd Keirin, Cymal Manceinion (1), Cwpan y Byd
3ydd Treial Amser 500m, Cymal Manceinion (1), Cwpan y Byd
2006
1af Sbrint, Gemau'r Gymanwlad
2il Treial Amser 500m, Gemau'r Gymanwlad
4ydd Treial Amser 500m, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
2007
1af Sbrint, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af Sbrint Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI (gyda Shanaze Reade)
1af Keirin, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af Keirin, Cymal Moscow, Cwpan y Byd 2006/2007
1af Keirin, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd 2006/2007
1af Sbrint, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd 2006/2007
1af Treial Amser 500m, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd 2006/2007
2il Sbrint, Cymal Sydney, Cwpan y Byd 2006/2007
2008
1af Sbrint, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af Sbrint Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI (gyda Shanaze Reade)
2il Keirin, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af Sbrint, Gemau Olympaidd 2008, Beijing
1af Baner Prydain Fawr Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
1af Baner Prydain Fawr Sbrint Tîm, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain (gyda Anna Blyth)
1af Baner Prydain Fawr Keirin, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2009
3rd Treial Amser 500m, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
2il Sbrint Tîm (with Shanaze Reade), World Track Championships
1af Sbrint, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af Baner Prydain Fawr Treial Amser 500m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
1af Baner Prydain Fawr Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2010
1af Sbrint, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
2il Keirin, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
2011
2il Sbrint Tîm (with Jessica Varnish), Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
3ydd Sbrint, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af Sbrint Tîm (with Jessica Varnish), Pencampwriaethau Trac Ewrop
2012
1af Sbrint, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af Sbrint Tîm, Cwpan y Byd 2011–2012, (gyda Jessica Varnish)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan swyddogol y Gemau Olympaidd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-03. Cyrchwyd 2007-09-27.
  2.  Roy Stockdill (9 Gorffennaf 2012). Famous family trees: Victoria Pendleton. Find My Past. Adalwyd ar 18 Gorffennaf 2012.
  3. Philippe Naughton. "Victoria Pendleton’s secrets", The Sunday Times, 6 January 2008.
  4. Newyddion ar wefan Mildenhall CC
  5.  The first British woman to win gold in the World Cycling Championships. Radio 4, Woman's Hour Interview.
  6. Simon Baskett. "Pendleton completes flawless worlds with third gold", Reuters, 1 Ebrill 2007.
  7. Robert Maul. "Victoria Pendleton named Sunday Times Sportswoman of the Year", The Sunday Times, 20 Tachwedd 2007.
  8. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-15. Cyrchwyd 2012-07-18. Unknown parameter |cyhoeddwr= ignored (help); Unknown parameter |dyddiad= ignored (help); Unknown parameter |teitl= ignored (help)
  9. (31 Rhagfyr 2008) London Gazette, Rhifyn 58929, tud. 21
  10. Andrew Longmore. "Proud Victoria Pendleton cries tears of joy", Sunday Times, 29 Mawrth 2008.
  11.  Paul French (26 Mai 2009). Victoria Pendleton changes gear for FHM!. FHM. Bauer Media Group. Adalwyd ar 16 Ebrill 2012.
  12.  Girls in a million! Britain's top female athletes cashing in BEFORE the Olympics. Alex Miller (28 Ebrill 2012). Adalwyd ar 18 Gorffennaf 2012.
  13.  Samuel Luckhurst (3 Gorffennaf 2012). Victoria Pendleton Models For Esquire Ahead Of London 2012 Olympics (PICTURES). Huffington post. Adalwyd ar 18 Gorffennaf 2012.
  14.  Victoria Pendleton admits British Cycling friction over relationship. BBC (2 Ebrill 2012). Adalwyd ar 2 Ebrill 2012.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: