Vincent Kane
Vincent Kane | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ionawr 1935 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Gwobr/au | OBE |
Darlledwr ac awdur Cymreig yw Vincent Kane, OBE (ganwyd 13 Ionawr 1935, yng Nghaerdydd), a adnabyddir yn bennaf am ei yrfa gyda'r BBC. Bu'n gadeirydd Canolfan Ansawdd Cymru, Gŵyl Theatr Cerdd Ryngwladol a'r Cardiff Initiative.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Yn 1960, fe enillodd Kane wobr ddadlau 'Mace' papur newydd yr Observer, yn siarad gyda Mary O'Neill[1] yn cynrychioli Prifysgol Caerdydd.
Mae Kane yn fwyaf adnabyddus am ei waith fel cyflwynydd a chyfwelydd gyda'r BBC, lle fu'n gweithio am bron 36 mlynedd. Cyflwynodd raglenni teledu fel Wales Today a Week In Week Out ac ar y radio cyflwynodd Good Morning Wales a Meet For Lunch (BBC Radio Wales). Roedd yn adnabyddus am ei dechneg holi treiddgar a chadarn mewn arddull Paxmanaidd, er bod hynny flynyddoedd cyn i Paxman wneud ei enw ar deledu.[2] Cychwynnodd Kane fel gohebydd ar Wales Today yn 1962, ac fe aeth ymlaen i fod yn gyflwynydd cyntaf Week In Week Out yn 1964,[3] y rhaglen materion cyfoes wythnosol. Dychwelodd i gyflwyno Wales Today rhwng 1986 a 1993, gan adael BBC Wales yn 1998.
Ym Mehefin 1998 rhoddwyd iddo Order of the British Empire (OBE) am "wasanaethau i Ddarlledu yng Nghymru".[4]
Sefydlodd Kane Ganolfan Ansawdd Cymru yng nghanol yr 1980au, gan ymddeol o'i rôl cadeirydd yn Rhagfyr 2012.[5]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae'n briod â Mary, ac mae ganddynt tri o blant. Maent byw yn Cyprus.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Winners of the John Smith Memorial Mace, Archifwyd 2014-11-12 yn y Peiriant Wayback 2004; Adalwyd 24 Tachwedd 2015
- ↑ Matt Thomas, 'We didn't have rules; During his remarkable broadcasting career, Vincent Kane interviewed Richard Burton and covered some of the biggest news stories of the 20th century', Western Mail, 15 Mai 2010.
- ↑ Vincent Kane, hippies, mini-skirts and a legend, BBC South West Wales; 13 Mai 2010.
- ↑ O.B.E.[dolen farw], Atodiad i'r London Gazette, 11 Mehefin 1988.
- ↑ Eoghan Mortell, Vincent Kane’s long good-bye Archifwyd 2014-08-17 yn y Peiriant Wayback, Blog Click on Wales (Sefydliad Materion Cymru).
- ↑ (Saesneg) Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.. Vale Life (3 Hydref 2019). Adalwyd ar 25 Medi 2020.