Triangulum (galaeth)

Oddi ar Wicipedia
Triangulum
Enghraifft o'r canlynolflocculent spiral galaxy, galaeth Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1654 Edit this on Wikidata
Rhan oGrŵp Lleol, [CHM2007] LDC 160, [TSK2008] 222, M31 Group Edit this on Wikidata
Yn cynnwysNGC 592, Var 83, M33 X-7, NGC 604, NGC 595, NGC 588 Edit this on Wikidata
CytserTriangulum Edit this on Wikidata
Pellter o'r Ddaear0.8 ±0.1 Edit this on Wikidata
Cyflymder rheiddiol−182 cilometr yr eiliad Edit this on Wikidata
Radiws27,500 ±2500 blwyddyn golau Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Galaeth Fawr Triangulum a recordiwyd gan seryddwr amatur
Llun o'r Arsyllfa Deheuol Ewrop yn dangos y breichiau troellog, a gyda lliw pinc nifylau allyrru
Llun yn olau uwchfioled o Alaeth Fawr Triangulum a recordiwyd gan loeren GALEX (llun NASA). Mae sêr poeth gyda màs uchel yn ymddangos yn y ddelwedd uwchfioled hon.

Galaeth troellog yng nghytser Triangulum yw Galaeth Triangulum (Messier 33 yng Nghatalog Messier neu NGC 598). Cyfeirir ato weithiau fel y "Galaeth Pin-olwyn" ("Pinwheel Galaxy") mewn llyfrau poblogaidd ar seryddiaeth, ond mae hwnnw'n enw poblogaidd am galaeth Messier 101 yn ogystal. Galaeth Triangulum yw'r trydydd mwyaf o safbwynt maint a màs yn y Grŵp Lleol, y grŵp o galaethau sy'n cynnwys Galaeth y Llwybr Llaethog, ein galaeth ni, a Galaeth Fawr Andromeda, ac mae'n bosibl ei fod yn gydymaith disgyrchiant i galaeth Andromeda. Mae'n bosibl fod y galaeth Corrach Pisces (LGS 3), sy'n rhan o'r Grŵp Lleol hefyd, yn gydymaith i Driangulum.

Ar nosweithiau braf gellir gweld Galaeth Triangulum heb delesgop; dyma'r gwrthrych pellach i ffwrdd o'r ddaear sy'n weladwy i'r llygaid felly. Ond dylid fod yn ofalus i beidio â'i chymysgu â NGC 752, clwstwr agored gerllaw sy'n fwy disglair yn yr awyr na Triangulum ei hun.

Yn sgîl arsyllu gofalus yn 2005, mae ymchilwyr wedi llwyddo am y tro cyntaf i amcangyfrif troellu onglaidd a symudiad cywir Triangulum. Amcangyfrifir cyflymder o 190 ± 60 km/s mewn perthynas â'r Llwybr Llaethog sy'n awgrymu hefyd fod Triangulum yn symud i gyfeiriad Galaeth Andromeda.