Telesgop
Oddi ar Wicipedia
Ysbiednddrych oedd yr hen enw Cymraeg (neu'r 'sbenglas'), offeryn "i weld pell yn agos" fel y dywedodd Ellis Wyn yng Ngweledigaethau'r Bardd Cwsg yw'r telescop; hynny yw offeryn technegol i berson edrych ar bethau pell er mwyn eu gweld yn well. Bathwyd y term Groeg hwn gan y mathemategydd Giovanni Demisiani i un o beiriannau Galileo; ystyr 'tele' yn y Groeg ydy 'pell', ac ystyr 'skopein' ydy 'edrych'.
Mae gwahanol fathau o delescopau ar gael sy'n caniatau'r seryddwr i 'weld' amywiaeth eang o'r spectrwm electromagnetig.
Yn yr Iseldiroedd yn y 17eg ganrif y crewyd y telescop cyntaf, mae'n debyg.
Gwahanol Fathau [golygu]
Ceir sawl math o delesgop:
- Y Telesgop Optig: sy'n caniatau i'r rhan weledol o'r specrwm electromagnetig gael ei chwyddo
- Telesgop Radio: antenna sy'n edrych ar ran radio'r spectrwm. Un o ddyfeiswyr penna ym maes awyrennau oedd y Cymro Edward George Bowen
- Telsgop Pelydr-x a Phelydr-gama