Titw cynffonhir

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Titw Cynffon-hir)
Titw cynffonhir
Aegithalos caudatus

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Aegithalidae
Genws: Aegithalos[*]
Rhywogaeth: Aegithalos caudatus
Enw deuenwol
Aegithalos caudatus
Dosbarthiad y rhywogaeth
Aegithalos caudatus

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Titw cynffonhir (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: titwod cynffonhir) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Aegithalos caudatus; yr enw Saesneg arno yw Long-tailed tit. Mae'n perthyn i deulu'r Titwod cynffonhir (Lladin: Aegithalidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn A. caudatus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.

Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop ac Asia. Fel rheol mae'n aderyn mudol, yn symud tua'r de yn y gaeaf, ond yng ngorllewin Ewrop mae'n aros trwy'r flwyddyn. Gellir ei adnabod yn hawdd, yn enwedig o'r gynffon hir - mae'r aderyn tua 13–15 cm o hyd ond mae'r gynffon yn 7–9 cm o hyd a'r corff dim ond tua 6 cm. Mae'n ddu a brown ar y cefn, coch neu binc ar yr ochrau a gwyn ar y bol, gyda chap gwyn ar y pen. Mae'r is-rywogaeth yng ngogledd Ewrop, (A. c. caudatus), ychydig yn wahanol, gyda'r pen yn wyn i gyd a'r ochrau'n wyn.

Fel rheol gellir ei weld mewn heidiau o rhyw 6 i 15 aderyn, weithiau fwy, yn symud yn ddi-baid o un goeden i'r llall. Adeiledir y nyth mewn coeden neu lwyd gan ddefnyddio gwe pryf copyn i ddal y nyth at ei gilydd. Mae'n dodwy rhwng 6 a 12 wy.

Mae'r Titw Cynffon-hir yn aderyn cyffredin yng Nghymru. Gall ei niferoedd ddisgyn yn sylweddol os ceir gaeaf anarferol o galed, ond buan yr adferir ei nifer.

Teulu[golygu | golygu cod]

Mae'r titw cynffonhir yn perthyn i deulu'r Titwod cynffonhir (Lladin: Aegithalidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Titw bochwyn Aegithalos leucogenys
Titw clustddu Psaltriparus melanotis
Titw cynffonhir Aegithalos caudatus
Titw cynffonhir Blyth Aegithalos iouschistos
Titw cynffonhir du Aegithalos fuliginosus
Titw pengoch Aegithalos concinnus
Titw-delor Severtzov Leptopoecile sophiae
Titw-delor cribog Leptopoecile elegans
Titw’r prysgwydd Psaltriparus minimus
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Enwau[golygu | golygu cod]

Yswigw gynffon-hir; yswigw hirgwt; lleian gynffon-hir; gwas y dryw [gweler blue tit]; yswelw; pela gynffon-hir; yswidw hir ei gwt; y penloyn gynffonig; glas gynffon hir; yswedw; pwd; yswidw'r botel*; shibigw; sigl-di-gwt [gweler siglen fraith]; aderyn reis pwdin; Aegithalos caudatus; Long-tailed Tit[3]

All birds except Bottle Tit* are 10-14 days later this year than last...[4]

Ecoleg[golygu | golygu cod]

Mae peth tystiolaeth bod y titw hwn yn newid ei ymddygiad ac yn symyd fwyfwy i fwydo mewn gerddi, yn arbennig ar beli-saim. Mae dioddef yn arbennig o ddrwg mewn gaeafau caled.[5]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  3. Rhestr [1] Rhagor o Enwau Adar: Dewi E Lewis a Chymdeithas Edward Llwyd
  4. Dyddiadur di-enw (?Y Parch. Lorrimer Thomas mae'n debyg) o Tywyn, Abergele 1922-1942; 5 Mai 1927
  5. Bwletin Llên Natur 146 (tud. 2)
Safonwyd yr enw Titw cynffonhir gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.