Thomas More

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Thomas More - portread gan Hans Holbein yr Ieuaf

Roedd Syr Thomas More (1477 - 1535) yn ysgolhaig, awdur, athronydd a sant o Sais, a aned yn Llundain. Ei waith enwocaf yw ei gyfrol Utopia, a ysgrifenwyd yn Lladin yn wreiddiol, fel y rhan fwyaf o weithiau More.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn cydymdeimlo ag Erasmus. Gwrthododd sefydlu Eglwys Loegr gan Harri VIII. Arglwydd Ganghellor o 1529 hyd 1532 oedd ef. Oherwydd ei amharodrwydd i arwyddo dogfen yn cydnabod Harri VIII fel pen yr eglwys yn Lloegr cafodd ei ddienyddio am deyrnfradwriaeth yn 1535.

Fe'i canoneiddiwyd gan yr Eglwys Gatholig yn 1935.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.