Thomas Gray

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Thomas Gray

Bardd Saesneg oedd Thomas Gray (26 Rhagfyr, 171630 Gorffennaf, 1771). Fe'i ganwyd yn Llundain. Roedd yn gyfaill i Horace Walpole.

Cyfieithwyd ac addaswyd ei waith mwyaf adnabyddus, Elegy Written in a Country Churchyard, i'r Gymraeg sawl gwaith yn y 18fed a'r 19eg ganrif.

Gwaith adnabyddus arall gan Gray yw ei gerdd The Bard, sy'n seiliedig ar yr hanesyn am 'gyflafan y beirdd'. Cafodd Gray yr hanes yn y gyfrol History of England (1747-55) gan y hanesydd o Sais Thomas Carte. Daeth hanes y 'gyflafan' yn enwog diolch i gerdd Gray, sy'n portreadu'r bardd olaf yn melltithio Edward I o Loegr ac yn proffwydo dinistr ar ei ddisgynyddion. Cafodd Gray yr hanesyn o lyfr Carte yn 1755 ac ysgrifenwyd y gerdd ganddo yn 1757 ar ôl clywed Edward Jones (Bardd y Brenin) yn canu alawon Cymreig ar ei delyn.[1]

[golygu] Gweithiau Gray

  • Elegy Written in a Country Churchyard (1751)
  • The Bard (1757)

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Prys Morgan, The Eighteenth Century Renaissance (Abertawe, 1981), tud. 120.
Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill