Thomas Carte

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Hanesydd o Sais oedd Thomas Carte (hefyd John Carte) (1686 – 2 Ebrill, 1754).

Ganed Carte yn Clifton upon Dunsmore, ger Rugby yn Swydd Warwick rywbryd yn 1686. Cafodd ei addysg brifysgol yng Ngholeg Brasenose, Rhydychen (1702) a Choleg y Brenin, Caergrawnt, lle graddiodd gyda MA yn 1706. Roedd yn deyrngar i achos y Stuartiaid a bu rhaid iddo ffoi i Ffrainc ar ôl iddo gael ei gyhuddo o deyrnfradwriaeth yn 1722.

Cododd hanesyn Syr John Wynn o Wydir am gyflafan y beirdd a'i gyhoeddi yn ei General History of England. Cydiodd yr hanesyn yn nychymyg beirdd ac artistiaid Rhamantaidd dros Glawdd Offa. Daeth hanes y 'gyflafan' yn enwog diolch i'r gerdd The Bard gan Thomas Gray lle mae'r bardd olaf yn melltithio Edward I ac yn proffwydo dinistr ar ei ddisgynyddion. Cafodd Gray yr hanesyn o lyfr Carte yn 1755 ac ysgrifenwyd y gerdd ganddo yn 1757 ar ôl clywed Edward Jones (Bardd y Brenin) yn canu alawon Cymreig ar ei delyn.[1]

Llyfrau Carte[golygu]

  • Life of James Duke of Ormonde (3 cyfrol, 1735–1736; argraffiad newydd, Rhydychen 1851)
  • A General Account of the Necessary Materials for a History of England (1738)
  • History of the Revolutions of Portugal, with letters of Sir Robert Southwell during his embassy there (Llundain, 1740)
  • A General History of England (pedair cyfrol: 1747, 1750, 1752, 1755).

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Prys Morgan, The Eighteenth Century Renaissance (Abertawe, 1981), tud. 120.