Cyflafan y beirdd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
The Bard, paentiad enwog John Martin (1789-1854), a ysbrydolwyd gan y gerdd o'r un enw gan Thomas Gray.
Y bardd o Hwngari: Arany János, neu fel mae'n cael ei sillafu'n y gorllewin: János Arany

Traddodiad yw cyflafan y beirdd am y modd y gorchmynodd Edward I, brenin Lloegr ladd holl feirdd Cymru ar ôl goresgyn Tywysogaeth Cymru yn 1283. Bu'r hanesyn hwn dros y blynyddoedd yn destun nifer o gerddi gan gynnwys y gerdd The Bard gan Thomas Gray a cherdd hynod boblogaidd y bardd János Arany (1817—1882), un o feirdd mwyaf Hwngari, sef A Walesi Bárdok ('Beirdd Cymru') ac a sgwennwyd ganddo yn 1857.

Datblygiad y traddodiad[golygu]

Ceir cyfeiriad gan Syr John Wynn o Wydir yn ei gyfrol History of the Gwydir Family, a ysgrifenwyd tua'r flwyddyn 1580. Yn ôl Syr John, sy'n ceisio esbonio prinder y cerddi i'w hynafiaid yn Eifionydd:

This (cerdd gan Rhys Goch Eryri) is the most ancient song that I can find extant to any of my ancestors since the reign of Edward the First who caused our bards all to be hanged by martial law as stirrers of the people to sedition; whose example, being followed by the governors of Wales, until Henry the Fourth's time was the utter destruction of that sort of man.[1]

Ni wyddys beth oedd sail hanesyn John Wynn. Does dim bwlch amlwg yn y traddodiad barddol ac ni cheir unrhyw gyfeiriad o gwbl at 'gyflafan' o'r fath yng ngherddi niferus Beirdd yr Uchelwyr.

Ailymddangosodd y chwedl yn y llyfr History of England (1747-55) gan y hanesydd o Sais Thomas Carte. Cydiodd yr hanesyn yn nychymyg beirdd ac artistiaid Rhamantaidd dros Glawdd Offa. Daeth hanes y 'gyflafan' yn enwog diolch i'r gerdd The Bard gan Thomas Gray lle mae'r bardd olaf yn melltithio Edward I ac yn proffwydo dinistr ar ei ddisgynyddion. Cafodd Gray yr hanesyn o lyfr Carte yn 1755 ac ysgrifenwyd y gerdd ganddo yn 1757 ar ôl clywed Edward Jones (Bardd y Brenin) yn canu alawon Cymreig ar ei delyn.[2]

Ysbrydolwyd sawl artist gan The Bard, yn cynnwys Paul Sandby a'r Cymro Thomas Jones. Ond y llun mwyaf adnabyddus o'r pwnc yw paentaid olew enwog John Martin (1789-1854), sy'n darlunio'r bardd olaf gyda'i delyn yn ei law yng nghanol mynyddoedd rhamantaidd Eryri.

Daeth y Cymry i gredu yn yr hanesyn yn y 19eg ganrif a cheir nifer o gerddi eisteddfodol am y 'gyflafan'.

Ymledodd yr hanesyn i sawl gwlad. Un o'r beirdd a ysbrydolwyd oedd yr Hwngariad János Arany (1817—1882), a gyhoeddodd ei gerdd hynod boblogaidd A Walesi Bárdok ('Beirdd Cymru') yn 1857. Dywed i 500 o feirdd gael eu llosgi gan y Sais.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Syr John Wynn, History of the Gwydir Family and Memoirs, gol. J. Gwynfor Jones (Gwasg Gomer, 1990), tud. 24.
  2. Prys Morgan, The Eighteenth Century Renaissance (Abertawe, 1981), tud. 120.

Dolennau allanol[golygu]