Horace Walpole
Oddi ar Wicipedia
| Horace Walpole | |
| Horace Walpole, gan Joshua Reynolds, National Portrait Gallery, casgliad Llundain | |
|---|---|
| Dyddiad geni | 24 Medi, 1717 |
| Man geni | Llundain, Lloegr |
| Dyddiad marw | 2 Mawrth 1797 |
| Man marw | Sgwâr Berkeley, Llundain, Lloegr |
| Galwedigaeth | Awdur, Gwleidydd |
| Rhieni | Robert Walpole a Catherine Shorter |
Hanesydd celf, gwleidydd llythyr-ddyn a hynafwr oedd Horatio Walpole, 4ydd Iarll Orford, neu Horace Walpole fel yr adwaenir ef gan amlaf (24 Medi 1717 - 2 Mawrth 1797). Bellach caiff ei gofio am Strawberry Hill sef y cartref a adeiladodd yn Twickenham, de-orllewin Llundain lle adfywiodd yr arddull Gothig rai degawdau'n gynt na'i olynwyr Fictorianaidd, ac am ei nofel Gothig The Castle of Otranto. Yn ogystal a'r llyfr, mae'n nodedig hefyd am ei Lythyron, sydd o ddiddordeb cymdeithasol a gwleidyddol sylweddol. Roedd hefyd yn fab i Syr Robert Walpole ac yn gefnder i'r Arglwydd Nelson.