Thomas Bray
Oddi ar Wicipedia
Clerigwr a ffilanthropydd Seisnig a gofir fel sefydlydd y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol (SPCK) oedd y Dr Thomas Bray (1656–1730).
Ganed Bray ym Marston, Swydd Amwythig. Ymsefydlodd yn Y Trallwng, Sir Drefaldwyn (Powys) am gyfnod. Roedd dau o'r pedwar lleygwr a'i cynorthwyodd i sefydlu'r SPCK yn Gymry, sef Syr Humphrey Mackworth o Gastell-nedd a Syr John Phillips o Gastell Pictwn yn Sir Benfro.
Am gyfnod bu'n gweithio ar system o lyfrgelloedd plwyf i'r werin bobl yn Maryland (un o daleithiau yr Unol Daleithiau heddiw) hefyd, o 1699 hyd 1706. Ond roedd ei brif waith gyda'r SPCK yng Nghymru a Lloegr.
Ysgrifenodd sawl gwaith diwinyddol i'r cyffredin hefyd, er engraifft y Catechetical Lectures.