Humphrey Mackworth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Sais o Swydd Amwythig a ymgartrefodd yn ne Cymru ac a ddaeth yn un o brif ddiwydianwyr y wlad ar ddechrau'r 18fed ganrif oedd Syr Humphrey Mackworth (1657 - 1727). Fe'i cofir hefyd fel un o sylfaenwyr llëyg y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol.

Priododd â Mary, merch Syr Herbert Evans o'r Gnoll ger Castell-nedd ac etifeddodd ei wraig llawer o'r ystâd. Bu'n arloeswr y diwydiant glo yn Ne Cymru a bu ganddo ran flaenllaw yn sefydlu'r diwydiant copr yno hefyd. Cafodd ystad Gogerddan, Ceredigion yn nes ymlaen a dechreuodd fwyngloddio yn y sir honno yn 1698 : un o fentrau ei gwmni y Mines Adventurers oedd y gwaith copr yn Ffwrnais Dyfi.[1]

Fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros yr hen Sir Aberteifi yn 1701.

Roedd yn ddyn busnes caled sydd wedi cael ei gyhuddo o arfer dulliau llai na theg - bu rhaid iddo ymddiswyddo o'r Mines Adventurers yn 1708 ar ôl cael cyhuddiad o dwyll yn ei erbyn[2] - ac eto ar yr un pryd roedd yn barod iawn i roi i elusennau, gan gynnwys y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol. Ysgrifennodd sawl llyfr crefyddol hefyd.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Ben Bowen Thomas, Braslun o Hanes Economaidd Cymru (Caerdydd, 1941), tud. 100.
  2. Ben Bowen Thomas, op. cit., tud. 100.