Tanni Grey-Thompson

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Clawr Aim High

Athletwraig cadair olwyn yw Tanni Grey-Thompson. Ganwyd hi ar 26 Gorffennaf 1969 yng Nghaerdydd.

Mae hi wedi ennill 11 medal aur mewn pump o Gemau Paralympaidd, chwech Marathon Llundain a thros 30 record byd. Ond efallai yn bwysicach na dim yw ei chyfraniad i normaleiddio agweddau pobl tuag at ddefnyddwyr cadair olwyn, ac mae wedi gwneud hyn yn bennaf drwy fod yn hi ei hun.

Un o'i harwyr mwyaf yw Gareth Edwards.

Mae ganddi radd mewn gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth cymdeithasol.

Bu hefyd yn gapten tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2006.

Ysgrifennodd lyfr yng nghyfres Stori Sydyn yn 2007, sef Aim High sy'n disgrifio uchafbwyntiau ei gyrfa a'i hysbrydoliaeth. (ISBN 9781905170890)

Daeth yn aelod o'r Orsedd yn Eisteddfod Meirion yn 2009.

Canlyniadau[golygu]

1988
Gemau Paralympaidd, Seoul
Bronze medal olympic.svg 3ydd 400m
1992
Gemau Paralympaidd, Barcelona
Gold medal olympic.svg 1af 100m (Record y Byd)
Gold medal olympic.svg 1af 200m
Gold medal olympic.svg 1af 400m (Record y Byd)
Gold medal olympic.svg 1af 800m
Silver medal olympic.svg 2il 4x100m
1996
Gemau Paralympaidd, Atlanta
Gold medal olympic.svg 1af 800m (Record y Byd)
Silver medal olympic.svg 2il 100m
Silver medal olympic.svg 2il 200m
Silver medal olympic.svg 2il 400m
2000
Gemau Paralympaidd, Sydney
Gold medal olympic.svg 1af 100m
Gold medal olympic.svg 1af 200m
Gold medal olympic.svg 1af 400m
Gold medal olympic.svg 1af 800m
2004
Gemau Paralympaidd, Athen
Gold medal olympic.svg 1af 100m
Gold medal olympic.svg 1af 400m
Rhagflaenydd:
Ian Woosnam
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
1992
Olynydd:
Colin Jackson
Rhagflaenydd:
Colin Jackson
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
2000
Olynydd:
Joe Calzaghe
Rhagflaenydd:
Nicole Cooke
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
2004
Olynydd:
Gareth Thomas