Tŷ Mawr y Castell
| Tŷ Mawr y Castell | |
|---|---|
| Great Castle House | |
Tŷ Mawr y Castell |
|
| Gwybodaeth gyffredinol | |
| Cyfeiriad | Allt y Castell |
| Tref neu ddinas | Trefynwy |
| Gwlad | Cymru |
| Tenantiaid cyfedol | Peiriannwyr Brenhinol Sir Fynwy (milwrol) |
| Gorffenwyd | 1673 |
| Cynllunio ac adeiladu | |
| Client | Henry Somerset, Dûg Iaf Beaufort, a'r 3ydd Marcwis Caerwrangon |
| Cofrestrwyd | Gradd I |
Tŷ trefol sy'n deillio'n ôl i 1673 ydy Tŷ Mawr y Castell (Saesneg: Great Castle House) sydd wedi'i leoli yng nghanol tref Trefynwy yn Sir Fynwy, De Cymru. Saif ger Sgwâr Agincourt. Mae rhan o'r tŷ ar dir Castell Trefynwy ac mae wedi'i gofrestru fel adeilad hynafol Gradd I[1].
Mae'n un o ddau-ddeg-pedwar adeilad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas). Mae rhai'n honi mai dyma adeilad pwysicaf y dre, oherwydd ei bensaerniaeth unigryw.
Fe'i ddisgrifiwyd un tro fel tŷ "hynod o rodresgar a ffansi"[2] a chafodd ei godi yn 1673 ar gyfer bonheddwr o'r enw Henry Somerset, Dûg Iaf Beaufort, a'r 3ydd Marcwis Caerwrangon. Roedd hefyd yn Arglwydd-Lywydd Cyngor Cymru a'r Gororau.
Yn ddiweddarach yn ei hanes, daeth yn llys barn, hyd nes y symudwyd y llys i'r Neuadd y Sir newydd yn 1725. Yn y gorffennol mae wedi bod yn bencadlys Peiriannwyr Brenhinol Sir Fynwy (milwrol) - ers canol y 19eg ganrif. Ceir amgueddfa'r gatrawd o fewn ei furiau.[3]
Oriel o luniau[golygu]
Gweler hefyd[golygu]
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ http://britishlistedbuildings.co.uk/wa-2217-great-castle-house-monmouth
- ↑ John Newman, The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire, Penguin Books, 2000, ISBN 0-14-071053-1, pp.400-401
- ↑ Monmouth Castle and Regimental Museum. Adalwyd 23 Rhagfyr 2011